RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: pinot on Wednesday 05 July 17 00:45 BST (UK)

Title: Canmoliaeth i lyfr am y Cymry'n ymfudo efo'r Mormoniaid i'r UDA tua 1850
Post by: pinot on Wednesday 05 July 17 00:45 BST (UK)
Newydd orffen 'Poeri i Lygad yr Eliffant' gan Wil Aaron, Lolfa, 368 tud, £14.99: hanes y Cymry (efo llawer mwy o Saeson a phobl o wledydd eraill Ewrop) yn dilyn y trywydd i'r Gorlllewin efo'r '49ers am gannoedd a channoedd o filltiroedd drwy bob mathau o anhawsterau o dywydd, afiechyd, ymosodiadau Indiaid a llwybrau caled, gan ddilyn teuluoedd efo'u henwau a'u cartrefi gwreiddiol o bob rhan o Gymru. Heblaw am y cyswllt Cymreig mae hefyd yn gronicl o bobl yn aberthu i gyrraedd rhyw Eden (fel yn y Wladfa wedyn) rhag gorthrwm a thlodi. Darllen da a chynhyrfus.