RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Sunday 29 October 17 11:12 GMT (UK)

Title: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
Post by: Huwcyn on Sunday 29 October 17 11:12 GMT (UK)
Petai rhywun yn dymuno pori mewn cofnodion o'r fath, lle fuasai modd cael hyd iddynt, ogdd ?
A ydynt yn yr un ffurf a sydd i'w gweld yng ngofnodion eglwysig ? Ar y cyfan, capeli Presbyteraidd Gogledd Orllewin Cymru sydd o ddiddordeb i mi.
Title: Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
Post by: Dolgellau on Monday 30 October 17 05:26 GMT (UK)
Mae cofnodion anghydffurfiol yn anos i'w ddarganfod na rhai Anglicanaidd. Yn anffodus, mae llawer wedi cael eu colli pan gaewyd capeli.

Mae rhai ar gael ar-lein ar Fynegai Cofnodion Anghydffurfiol Cymru a Lloegr (RG4-8), 1588-1977 trwy  https://www.familysearch.org/search/collection/1666142 (https://www.familysearch.org/search/collection/1666142) ac ar safleoedd am dal.

Cedwir rhai cofrestrau anghydffurfiol yn Swyddfeydd Archif y Siroedd a'r Llyfrgell Genedlaethol. Cofnodir y rheiny a archifwyd hyd at 1994 yn llyfr Dafydd Ifan Cofrestri Anghydffurfiol Cymru " (yn anhygoel o ddrud ar-lein, ond ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Cymru). Mae'n werth holi'r archifau lleol a'r Llyfrgell Genedlaethol i wirio eu hadneuon diweddaraf. (Cofiwch 1994 yw'r toriad ar gyfer adneuon nid y toriadau ar gyfer dyddiadau cofnodion).

Nid yw priodasau'n broblem, o 1837 ymlaen, bu'n rhaid i bob priodas cael ei gofrestru, er bod llawer o briodasau anghydffurfiol yn cael eu cofnodi fel "sifil" yn hytrach nag "anghydffurfiol" am resymau gweinyddol.
Title: Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
Post by: hanes teulu on Monday 30 October 17 08:28 GMT (UK)
https://www.familysearch.org/wiki/en/Anglesey_Nonconformist_Records
https://www.familysearch.org/wiki/en/Caernarfonshire_Nonconformist_Records

Cliciwch ar y cyswllt - para 2
Title: Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
Post by: Huwcyn on Monday 30 October 17 09:25 GMT (UK)
Diolch yn fawr iawn i chi'ch dau.
 Dolgellau - ti'n son am safleoedd am dal - pa rai ?
Title: Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
Post by: Dolgellau on Wednesday 01 November 17 08:10 GMT (UK)
Wedi cael "chwip dīn" am eu hybu yn y gorffenol, ond cyfieithwch:

Hynafiaid
a
Chwilio Teulu
.Com

Ond prin iawn yw'r gywbodaeth arnynt nad yw ar gael yn rhad ac am ddim.