Show Posts

This section allows you to view all posts made by this member. Note that you can only see posts made in areas you currently have access to.


Topics - Blaenau45

Pages: [1]
1
Cymraeg - Welsh Language / Teulu Mather - Ael-y-Bryn, Ynys, Talsarnau
« on: Monday 28 November 11 15:20 GMT (UK)  »
Oes yna rhywun yn cofio'r teulu Mather oedd yn byw am dros hanner canrif yn Ael-y-Bryn, Ynys, Talsarnau os gwelwch yn dda?
Daeth Robert Mather a'i wraig Eliza (Livsey) i aros yn Ynys Talsarnau tua 1897-8.  Yr oedd ganddynt fachgen o'r enw Percy a gafodd ei eni yn Tabley, Knutsford ym 1894.  Ganwyd mab arall iddynt (Robert Tecwyn) ym mis Ionawr 1898 a bu i Eliza farw 10 diwrnod yn ddiweddarach o glefyd y galon.
Ail-briododd yr hynaf o'r ddau Robert, ond nid tan 1922, y tro hwn efo Jane Jones, chwaer fy Nain o Flaenau Ffestiniog.
Nid wyf yn gwybod dim o hanes Percy ond gwn fod y ddau Robert wedi eu claddu yn y fynwent yn Ynys Talsarnau. Bu i'r Robert ieuengaf briodi Jane Winnie Edwards o Flaenau Ffestiniog - mae hithau wedi ei chladdu yno, ond nid wyf yn gwybod lle y claddwyd Jane Jones.
Bu Robert Tecwyn farw Hydref 14 1961 yn 63 mlwydd oed.
Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth.
Gyda diolch

2
Cymraeg - Welsh Language / HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Monday 28 November 11 14:22 GMT (UK)  »
Fy hen Daid ar ochr fy Nhad oedd John Harlech.  Gwn iddo gael ei eni yng nghyffiniau Harlech ond tra'n gweithio yn y chwarel yn Nant Gwrtheyrn y cyfarfuodd efo fy Nain, Jane Ann Griffith. Bu iddynt briodi yn ardal Pwllheli ym 1890 a cawsant 13 o blant i gyd er y bu i ddau ohonynt farw'n ifanc.
John Jones oedd enw Tad John Harlech ... felly gellwch ddychmygu pa mor anodd ydyw darganfod ei gyndadau!  Nid wyf hyd yn oed yn gwybod beth oedd enw ei Fam.
Mae John Harlech a Jane ei wraig a Margiad Ann (fy Nain) wedi eu claddu yn y fynwent yn Llithfaen.
Os oes yna rhywun a all roi unrhyw wybodaeth am y teulu yma, buaswn yn ddiolchgar iawn.
Gyda diolch

3
Cymraeg - Welsh Language / Digwyddiad - Hel Achau Ardaloedd
« on: Saturday 23 October 10 11:04 BST (UK)  »
NOS FERCHER 27 Hydref 2010  Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
Sgwrs gan yr awdures a’r ddarlledwraig, Hafina Clwyd, ar bwnc sy’n dod yn gynyddol boblogaidd y dyddiau hyn.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi, yn berthnasol i’r testun, lyfr gan Marian Elias Roberts ar hanes Teulu Tan-y-clawdd a’i achau a’r hen gymdeithas ddirodres Gymraeg a oedd, hyd yn gymharol ddiweddar fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog. (£4)
Dechreuir tua 7 o'r gloch â'r baned arferol.  Ni chodir tâl mynediad.
Croeso cynnes i bawb.
Am fwy o fanylion cysylltwch efo fi!
Gyda diolch
Blaenau45
 
 
 
 

4
NOS FERCHER 27 Hydref 2010  Canolfan Hanes Uwchgwyrfai[/b]
Sgwrs gan yr awdures a’r ddarlledwraig, Hafina Clwyd, ar bwnc sy’n dod yn gynyddol boblogaidd y dyddiau hyn.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi, yn berthnasol i’r testun, lyfr gan Marian Elias Roberts ar hanes Teulu Tan-y-clawdd a’i achau a’r hen gymdeithas ddirodres Gymraeg a oedd, hyd yn gymharol ddiweddar fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog. (£4)
Dechreuir tua 7 o'r gloch â'r baned arferol.  Ni chodir tâl mynediad.
Croeso cynnes i bawb.
Am fwy o fanylion cysylltwch efo fi!
Blaenau45

5
Cymraeg - Welsh Language / Llyfr Hel Achau
« on: Saturday 16 October 10 14:16 BST (UK)  »
A oes rhywun yn gwybod ym mhle y medraf brynu copi o "Achau Rhai o Deuluoedd Hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn" gan T Ceiri Griffith os gwelwch yn dda?  Cyhoeddwyd y llyfr yn 2003.

Pages: [1]