Author Topic: Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn  (Read 8015 times)

Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn
« on: Tuesday 06 April 10 22:12 BST (UK) »
Gyfeillion,  dwi'n newydd yma a wedi bod yn chwilio am wybodaeth ers dros flwyddyn bellach!

Roeddwn i'n ffodus bod Nain yn cofio hanes ei theulu mor dda a chlir a rwyf wedi llwyddo i gadarnhau yr holl wybodaeth a roddodd i mi.  Ers i Nain farw, does neb ar ol bellach i holi rhagor a dwi wedi hitio wal yn llwyr efo'r goeden deulu!

Dwi'n mynd rownd mewn cylchoedd braidd a bron a thynnu gwallt fy mhen i gyd allan!

A oes unrhyw un allan 'na a allai roi cyngor i mi os gwelwch chi'n dda?  Dyma'r stori hyd yn hyn...

Ganwyd fy hen, hen, hen, hen Daid (Hugh Pugh - tua 1811) a Nain (Margaret - tua 1812) yn Nolgellau.  Wedi iddynt briodi, symud i fwthyn (fferm fychan) o'r enw Buarth Will yn Arthog.  Cafwyd iddynt 5 o blant (os nad mwy) ac un ohonynt oedd Hugh Pugh.  Priododd hwn a symud i Manod (Blaenau Ffestiniog) toc cyn 1881 ond symud yn ol a wnaeth y teulu i Buarth Will erbyn census 1891.  Dwi'n methu dod o hyd i beth ddigwyddodd i Hugh a Margaret (Buarth Will).  Dwi wedi methu dod o hyd i gofnod o'u marwolaeth a dim carreg fedd ychwaith.  Mae posib bod y ddau wedi mynd yn rhy hen i barhau i ffermio, er mai fferm fychan iawn ydoedd, ac wedi symud i Lanegryn...yn enwedig gan bod bwthyn Buarth Will hefyd yn fychan a 5 o blant gan ei fab pan symudodd nol o Ffestiniog.

Arglwydd mae hyn yn mynd yn gymleth!!

Methu mynd yn ol dim pellach na Hugh Pugh a Margaret ydw i a mae o yn fy ngyrru fi'n wirion!  Dwi ddim yn credu mod i'n sdyc!!

Mi fyswn i wrth y modd yn darganfod o le yn Nolgellau y daeth Hugh Pugh a'i wraig Margaret, a chael darganfod mwy am eu teuluoedd, rhieni, brodyr a chwiorydd ac yn y blaen.

Os oes gan unrhyw un syniad i helpu, mi fyddwn yn hynod ddiolchgar.

Diolch ymlaen llaw.

Arwel  :-\
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline alltcafan

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
  • sun setting in Powys
    • View Profile
Re: Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn
« Reply #1 on: Wednesday 21 April 10 19:49 BST (UK) »
Annwyl Arwel,

Yn Sensws 1891 yr oedd yr isod:

Cyfeiriad:  Castell, Wesleyan Terrace, Llangelynin, Arthog
Hugh Pugh, yn briod, 81 oed, Ffarmwr wedi ymddeol, ganwyd yn Dolgelley
Margaret, yn briod, 79 oed, wedi ymddeol, ganwyd yn Llangylenin

Edrychais wedyn i gael gweld a oedd marwolaethau ac chefais afael am y canlynol:
Hugh Pugh, ganwyd 1810 - marw yn 88 oed - Chwarter Medi 1898 yn Nolgelley (Mae hyn yn golygu ei fod wedi maru rhwng mis Gorffenaf a mis Medi - ac efallai ar ddiwedd mis Mehefin);

Yr oedd tair Margaret Pugh wedi marw yn ardal Dolgellau:
y cyntaf: ganwyd tua 1811 a farwodd yn Chwarter Rhagfyr 1894 (Hydref, Tachwedd neu Rhagfyr) yn 83 oed;
yr ail :     ganwyd tua 1811 a farwodd yn Chwarter Mawrth 1901 (Ionawr, Chwefror, Mawrth) yn 90;
a'r trydydd: ganwyd tua 1812 a farwodd yn Chwarter Mawrth 1901 yn 89 oed.

Wrth gwrs i fod yn siwr bydd yn rhaid i ti ddanfon am dystysgrif marw.

Gobeithio fod hyn o help. :) 

Cofion gorau,
Alltcafan :)
EVANS/ JONES / JAMES / REES - Llangeler, Penboyr, Llanfihangel ar Arth, Burry Port & South Wales
STEPHENS - Llangeler, Penboyr & Neath
DAVIES / REES / JONES - Kilrhedyn, Newcastle Emlyn

Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Re: Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn
« Reply #2 on: Sunday 04 September 11 23:12 BST (UK) »
Alltcafan,

Rwan dwi'n sylwi nad oeddwn wedi eich ateb...dros flwyddyn yn ol!  Mae'n ddrwg iawn gennyf am hynny!

Rwyf bellach wedi darganfod lle y claddwyd Hugh a Margaret.  Mae'r ddau yn gorwedd gyda'u gilydd ym mynwent Rehoboth, Islaw'r Dref, Dolgellau.  Rwyf hefyd wedi darganfod, diolch i'r Archifdy yn Nolgellau, mai yn Pant y Piod, Dolgellau y ganwyd Hugh yn 1810 a thrwy hyn, wedi darganfod ei rieni (ymysg llawer iawn o wybodaeth perthnasol eraill).

Diolch i chi am eich ymateb.

Cofion,

Arwel  ;)
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline alltcafan

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
  • sun setting in Powys
    • View Profile
Re: Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn
« Reply #3 on: Monday 05 September 11 00:44 BST (UK) »
Annwyl Arwel

Popeth yn iawn. 

Falch clywed eich bod wedi darganfod lle mae Hugh a Margaret wedi'u claddu gyda'i gilydd yn Nolgellau, a hefyd lle oedd Hugh wedi'i eni.

Cofion gorau, Alltcafan  :)
EVANS/ JONES / JAMES / REES - Llangeler, Penboyr, Llanfihangel ar Arth, Burry Port & South Wales
STEPHENS - Llangeler, Penboyr & Neath
DAVIES / REES / JONES - Kilrhedyn, Newcastle Emlyn


Offline gatalhir

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 23
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pugh Dolgellau/Arthog/Ffestiniog ac Evans Dolgellau/Llanegryn
« Reply #4 on: Sunday 30 September 12 17:16 BST (UK) »
Methu a ffeindio lleoliad Pant y Piod yn Llanfachreth. Dal i holi. Pob hwyl ar y gwaith. Hugh Bermo.
Ymchwil dyfn i'm hanes teuluol.

A detailed research into my family history.