Author Topic: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog  (Read 7865 times)

Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« on: Sunday 04 September 11 23:28 BST (UK) »
Oes gan unrhyw un, unrhyw wybodaeth am fwthyn Pant y Piod yn Nolgellau, am deuluoedd a fuo'n byw yno neu unrhyw hanes am y lle?  Fy nheulu 'Pugh' oedd yn byw yno yn 1810

Hefyd, oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am Craig yr Helbul, ger Arthog?  Dwi bron yn sicr mod i wedi pasio giat gyda'r enw 'Craig yr Helbul' arni, wrth ymyl y ffordd, tua blwyddyn yn ol, ar fy ffordd i lawr i Arthog ond allai ddim bod yn siwr.  Dwi wedi bod heibio eto yr wythnos diwethaf ac wedi methu a gweld yr un enw ar giat.  Oes posib bod enw'r ty wedi ei newid efallai?

Fy nheulu 'Jones' oedd yn trigo yng Nghraig yr Helbul o beth bynnag 1817 ymlaen.

Diolch yn fawr.

Arwel
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline alltcafan

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 111
  • sun setting in Powys
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #1 on: Tuesday 06 September 11 22:54 BST (UK) »
Annwyl Arwel,

Edrychwch ar y linc hyn. 

http://homepage.ntlworld.com/judy.whitby/penmaenucha/penmaenuchaf_owners/penmaenuchaf_previous_owners_historical_sources.htm

Wedi agor y ddogfen edrychwch ar yr ail lein  lawr 1902 "Abstract of Title"   Stad Penmaenuchaf.  Wrth gwrs efallai eich bod wedi gweld hwn yn barod.

Cofion cynnes
Alltcafan :)
EVANS/ JONES / JAMES / REES - Llangeler, Penboyr, Llanfihangel ar Arth, Burry Port & South Wales
STEPHENS - Llangeler, Penboyr & Neath
DAVIES / REES / JONES - Kilrhedyn, Newcastle Emlyn

Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #2 on: Tuesday 06 September 11 23:45 BST (UK) »
Diddordol Alltcafan, diolch.  Doeddwn i ddim wedi ei weld o'r blaen.

Dwi wedi dechrau digaloni gyda'r wefan ma braidd...mae cymaint o bobl yn darllen y 'posts' ond ychydig iawn yn ymateb, siomedig iawn!

Dwi'n siwr bod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n eu darllen, yn eu darllen gan bod yr enwau yn gyfarwydd a nhw.  Bechod na fyddai mwy yn fwy parod i rannu eu hanesion a'u gwybodaeth, ac yn fwy parod eu cymorth, wedi'r cyfan, dyma yw pwrpas y wefan yma yn ei chyfanrwydd...ie ddim? 

Mae rhai fel fi, sydd yn eithaf newydd i'r byd hel achau ma, angen pob tamaid o gymorth sy'n bosib ei gael ac er mor ddibwys y wybodaeth i eraill, gallai fod yn werthfawr iawn i mi a'm gwaith ymchwil!

Ond dyna fo...dwi di cael fy 'rant' am heno Alltcafan!  Diolch i chi am eich neges beth bynnag  ;)

Cofion

Arwel
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,575
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #3 on: Wednesday 07 September 11 09:37 BST (UK) »
Arwel,
Ar ôl gweld eich post y tro cyntaf o'n i wedi chwilio am wybodaeth yn"19th Century Newspapers on line (Gale's)". Do'dd dim ond un cyfeiriad at "Bant y Piod" a "Chraig yr Helbul". Serch hynny, do'dd dim cyfeiriad penodol at fwthyn. Ynglyn â "Phant y Piod" o'dd sôn am "dau dŷ yn Pant y piod" yn yr erthygl (Baner ac Amserau Cymru Mawrth 22 1899). Dyna pam d'on i ddim wedi cyfateb at eich post.

Oes mynediad 'da chi at "19thC Newspapers on line"? Mae mynediad 'da fi - am ddim/ddi ddal - trwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru. O'dd rhaid i fi gofrestru ond o'dd e'n werth.

cofion cynnes



Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #4 on: Thursday 08 September 11 00:26 BST (UK) »
Diolch o galon i chi am eich trafferth.  Mae gennyf fynediad i'r wybodaeth yma ond heb gael llawer o lwc yn y gorffennol!  Mae gwefan y Llyfrgell Genedlaethol yn gallu bod yn anodd i bori trwyddi!  Beth bynnag, mi fyddai'n siwr o fynd yn ol ati rwan i chwilio ymhellach.

Diolch unwaith eto.

Cofion,

Arwel.
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline gatalhir

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 23
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #5 on: Sunday 04 November 12 19:02 GMT (UK) »
Newydd ffeindio fod Pant y Piod yn ran o stad Penmaenuchaf ac wedi ei leoli yn Islawrdref.

Mae Carreg yr Helbul  yn ran o hen Bermo - fe gath ei ail enwi yn 1880 i Graig yr Ymbil.
Ymchwil dyfn i'm hanes teuluol.

A detailed research into my family history.

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #6 on: Monday 05 November 12 01:46 GMT (UK) »
Mae 1903 o bobl wedi darllen eich ymholiad gwreiddiol, os ydi'r wefan i'w chredu; mae'n siwr fod y rhan fwyaf, fel fi, wedi meddwl 'O na, wn i ddim byd am hynna; mae'n siwr bydd rhywun mwy gwybodus / egniol na fi yn rhoi'i big i mewn toc'. Rydw i'n falch eich bod chi'n cael help pwrpasol; mi wnes i edrych ym mynegai llyfr achau Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn T. Ceiri Griffith rhag ofn bod son am y ddau le, ond yn ofer.
                         Pob lwc ar y chwilio. :)

Offline gatalhir

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 23
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pant y Piod, Dolgellau a Craig yr Helbul, Arthog
« Reply #7 on: Friday 23 November 12 10:51 GMT (UK) »
Mae na Graig yr Helbul ger Gellestra , Islawrdref . Daeallaf fod olion Pant y Piod yn dal i'w gweld ond mae llawer o'r cerrig wedi cael eu defnyddio i adaeladu ysgubor cyfagos.
Ymchwil dyfn i'm hanes teuluol.

A detailed research into my family history.