Author Topic: Salem Vosper yn dod gartref  (Read 5299 times)

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Salem Vosper yn dod gartref
« on: Tuesday 11 June 13 06:40 BST (UK) »

Pwnc sy'n codi'n achlysurol wrth drafod hanes teuluol Cymreig yw llun eiconig Salem gan Sydney Curnow Vosper. Mae nifer ohonom yn perthyn neu'n ddisgynyddion i'r cymeriadau sydd yn ymddangos yn y llun.

Hwyrach bydd gan  y sawl syn byw yn neu am ymweld ā Gwynedd dros yr haf diddordeb mewn gwybod bod y llun ar fenthyg i Oriel ac Amgueddfa Gwynedd ym Mangor ar hyn o bryd ac y bydd yn cael ei arddangos yno o 29 Mehefin i 12 Hydref 2013.

Gan fod y prif gymeriad, Siān Ty'n y Fawnog, yn chwaer yng nghyfraith i fy hen hen daid mae copļau o'r llun ar waliau fy nghar wedi bod yn rhan o'm bywyd o'r cychwyn cyntaf. Nid ydwyf yn cofio adeg pan nad oeddwn yn ymwybodol o'r darlun. Rwyf yn wirioneddol yn edrych ymlaen at gael gweld y llun gwreiddiol am y tro cyntaf.

Mae manylion pellach am yr arddangosfa a dulliau cyswllt am wybodaeth bellach i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Gwynedd:

http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?doc=30128&Language=2&p=1&c=1

Offline Mike in Cumbria

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 3,755
    • View Profile
Re: Salem Vosper yn dod gartref
« Reply #1 on: Tuesday 11 June 13 11:33 BST (UK) »
Newyddion da.

Diolch

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Salem Vosper yn dod gartref
« Reply #2 on: Saturday 15 June 13 23:54 BST (UK) »
Diolch Dolg; difyr clywed.

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Salem Vosper yn dod gartref
« Reply #3 on: Sunday 16 June 13 21:04 BST (UK) »
A yw'r amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn ? . Dwi'n cofio clywed rhywbryd sut yr aeth y darlun mor boblogaidd yng nghartrefi Cymru, ond alla i ddim yn fy myw gofio. Mi 'roedd o'n ty taid a nain a phob un o'r miloedd antis oedd gan rhywun.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Salem Vosper yn dod gartref
« Reply #4 on: Monday 17 June 13 20:45 BST (UK) »
Dyma amseroedd agor yr Oriel

Llun           Cau
Mawrth   12.30-4.30yh
Mercher   12.30-4.30yh
Iau       12.30-4.30yh
Gwener   12.30-4.30yh
Sadwrn   10:30-4:30yh
Sul           Cau

Un o'r rhesymau pam fod y llun mor boblogaidd yw oherwydd bod print ohono yn cael ei gynig fel gwobr am gasglu labeli o Lever's Sunlight Soap (A dyna paham mae cartref parhaol y llun yw Oriel yr Arglwyddes Leaver yn Portsunlight, ger Lerpwl)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Salem Vosper yn dod gartref
« Reply #5 on: Monday 17 June 13 21:11 BST (UK) »
Dyna ni  ! Mae'n rhaid fod yr hen Gymry'n bobl lan iawn, bethbynnag ! .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn