Author Topic: Salisbury Capel Garmon / Plas Isa Llanrwst  (Read 5325 times)

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Salisbury Capel Garmon / Plas Isa Llanrwst
« on: Saturday 07 September 13 05:11 BST (UK) »
Oes unrhyw un yn gwybod os oes achres neu hanes teuluol disgynyddion Salisbury Plas Isa Llanrwst ar gael?

Yr wyf wedi canfod Ewyllys gan Doroty (sic) Salisbury, Garthgarmon, Llanrwst sydd yn ewyllysio cyfran i'w ŵyr Rhys Jones.

http://hdl.handle.net/10107/788868

Mae'r Rhys (Rees / Rice) yma'n 6x hen daid i fy ngwraig, ac mi fyddai'n rhoi dipyn o wefr imi gael dangos ei bod hi ar hogiau yn ddisgynyddion i deulu enwog Salisbury y Testament Newydd. Rwy'n cymryd yn ganiataol bod pawb sydd yn rhannu'r enw yng ngogledd Cymru yn perthyn i'w gilydd rhywsut, ond yn cael anhawster profi'r cysylltiad.

Mae yna gais i weinyddu ystâd gŵr o'r enw John Salisbury Garthgarmon gan Dorothy ei wraig ddyddiedig 1685, rhieni ein Doroty ni, o bosib, ond ar wahân i hynny rwy'n methu cael unrhyw gafael arall ar dylwyth Doroty Salisbury o'r ffynonellau sydd gennyf wrth law.

Rwy'n sicr bod teulu mor bwysig ac enwog ag un Salisbury Plas Isa wedi ei drafod mewn cylchgrawn neu lyfr yn rhywle, ond yn methu cael cyfeiriad at y fath drafodaeth ar y we. Oes yna aelod o Rootschat sydd yn gwybod yn amgenach na Google tybed?

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Salisbury Capel Garmon / Plas Isa Llanrwst
« Reply #1 on: Sunday 08 September 13 00:14 BST (UK) »
http://freepages.genealogy.rootsweb.ancestry.com/~alwyn/teulu/d75.htm
Tybed oes 'na rywbeth yn fan hyn all fod o fudd?
              Pob hwyl,
                     Pinot
       
O.N. Erbyn darllen fy hun sylweddoli fallai nad oes. :(