Author Topic: Mamie Noel Jones  (Read 5536 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Mamie Noel Jones
« on: Friday 20 September 13 23:20 BST (UK) »
Yn ol beth a ddeallaf, yr oedd yr uchod yn cyfeilio i grwpiau fel 'Triawd y Coleg' ayb rai blynyddoedd yn ol. Oes yna rhywun yn gwybod os mai hynny oedd ei enw iawn hi, neu dyddiadau perthnasol ayb ogdd ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Mamie Noel Jones
« Reply #1 on: Wednesday 25 September 13 22:44 BST (UK) »
Ar wahân i gyfeilio i Driawd y Coleg roedd Mamie Noel Jones hefyd yn chware ran blaenllaw yn natblygiad teledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hi'n cyfeilio ar lawer o'r rhaglenni plant cyntaf megis Tedi Twt ac ar raglenni cerddorol cynnar.

O herwydd bod cyfraniad Mamie i 'r cyfryngau Cymraeg cynnar mor fawr byddwn wedi disgwyl clywed am ei farwolaeth neu o leiaf yn gallu dod o hyd i ysgrif coffa amdani rhywle ar y we; o fethu cofio clywed son am ei farwolaeth a methu cael hyd i gofnod marwolaeth byddwn yn tybio ei bod hi dal ar dir y byw yn ei 80au / 90au erbyn hyn.

Ti di holi'r BBC ym Mangor yng nghylch ei hanes hi?

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mamie Noel Jones
« Reply #2 on: Wednesday 25 September 13 23:14 BST (UK) »
Dw i'n siwr y byddai Meredydd Evans, Afallon, Cwmystwyth, yn fodlon iawn rhoi swmp o wybodaeth amdani, dipyn mwy na Bangor, feddyliwn.