Author Topic: Gwilym Jones a briododd Miss Owen yn Llanfyllin yn Rhagfyr 1945  (Read 6489 times)

Offline gatalhir

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 23
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Gwilym Jones a briododd Miss Owen yn Llanfyllin yn Rhagfyr 1945
« on: Sunday 16 February 14 18:58 GMT (UK) »
Mab ydoedd i Ellis Jones ( ganed yng Nghwmllinau , Trefaldwyn yn 1882 ) a Jane Ellen Jones ( ganed yn 1883 ) a briodwyd yn 1910. 'R oeddynt yn byw ym Mryngrug , Meirionnydd . Fe aned Gwilym yn Ebrill 1911.
Bu i Jane farw ar enedigaeth yn 1912 fel y deallwn.
Aeth Ellis i ryfel yn 1914.
Ail briododd Ellis Jones a Gwen Bowen ( aelod o hen deulu Esgairllyn , Llangadfan ) yn 1918 a chartrefu yn Llwyngwril , Meirionnydd.
Y nhw oedd fy nhaid a nain.
Newydd ddarganfod heddiw am briodas cyntaf taid a gobeithio darganfod hanes Gwilym a'i deulu.
Ymchwil dyfn i'm hanes teuluol.

A detailed research into my family history.