Author Topic: Canmoliaeth i lyfr am y Cymry'n ymfudo efo'r Mormoniaid i'r UDA tua 1850  (Read 3690 times)

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Canmoliaeth i lyfr am y Cymry'n ymfudo efo'r Mormoniaid i'r UDA tua 1850
« on: Wednesday 05 July 17 00:45 BST (UK) »
Newydd orffen 'Poeri i Lygad yr Eliffant' gan Wil Aaron, Lolfa, 368 tud, £14.99: hanes y Cymry (efo llawer mwy o Saeson a phobl o wledydd eraill Ewrop) yn dilyn y trywydd i'r Gorlllewin efo'r '49ers am gannoedd a channoedd o filltiroedd drwy bob mathau o anhawsterau o dywydd, afiechyd, ymosodiadau Indiaid a llwybrau caled, gan ddilyn teuluoedd efo'u henwau a'u cartrefi gwreiddiol o bob rhan o Gymru. Heblaw am y cyswllt Cymreig mae hefyd yn gronicl o bobl yn aberthu i gyrraedd rhyw Eden (fel yn y Wladfa wedyn) rhag gorthrwm a thlodi. Darllen da a chynhyrfus.