Author Topic: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol  (Read 4250 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
« on: Sunday 29 October 17 11:12 GMT (UK) »
Petai rhywun yn dymuno pori mewn cofnodion o'r fath, lle fuasai modd cael hyd iddynt, ogdd ?
A ydynt yn yr un ffurf a sydd i'w gweld yng ngofnodion eglwysig ? Ar y cyfan, capeli Presbyteraidd Gogledd Orllewin Cymru sydd o ddiddordeb i mi.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
« Reply #1 on: Monday 30 October 17 05:26 GMT (UK) »
Mae cofnodion anghydffurfiol yn anos i'w ddarganfod na rhai Anglicanaidd. Yn anffodus, mae llawer wedi cael eu colli pan gaewyd capeli.

Mae rhai ar gael ar-lein ar Fynegai Cofnodion Anghydffurfiol Cymru a Lloegr (RG4-8), 1588-1977 trwy https://www.familysearch.org/search/collection/1666142 ac ar safleoedd am dal.

Cedwir rhai cofrestrau anghydffurfiol yn Swyddfeydd Archif y Siroedd a'r Llyfrgell Genedlaethol. Cofnodir y rheiny a archifwyd hyd at 1994 yn llyfr Dafydd Ifan Cofrestri Anghydffurfiol Cymru " (yn anhygoel o ddrud ar-lein, ond ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Cymru). Mae'n werth holi'r archifau lleol a'r Llyfrgell Genedlaethol i wirio eu hadneuon diweddaraf. (Cofiwch 1994 yw'r toriad ar gyfer adneuon nid y toriadau ar gyfer dyddiadau cofnodion).

Nid yw priodasau'n broblem, o 1837 ymlaen, bu'n rhaid i bob priodas cael ei gofrestru, er bod llawer o briodasau anghydffurfiol yn cael eu cofnodi fel "sifil" yn hytrach nag "anghydffurfiol" am resymau gweinyddol.

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,571
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
« Reply #3 on: Monday 30 October 17 09:25 GMT (UK) »
Diolch yn fawr iawn i chi'ch dau.
 Dolgellau - ti'n son am safleoedd am dal - pa rai ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Cofnodion priodasau o gapeli anghydffurfiol
« Reply #4 on: Wednesday 01 November 17 08:10 GMT (UK) »
Wedi cael "chwip dīn" am eu hybu yn y gorffenol, ond cyfieithwch:

Hynafiaid
a
Chwilio Teulu
.Com

Ond prin iawn yw'r gywbodaeth arnynt nad yw ar gael yn rhad ac am ddim.