RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Blaenau45 on Saturday 16 October 10 14:16 BST (UK)
-
A oes rhywun yn gwybod ym mhle y medraf brynu copi o "Achau Rhai o Deuluoedd Hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn" gan T Ceiri Griffith os gwelwch yn dda? Cyhoeddwyd y llyfr yn 2003.
-
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn breifat gan yr awdur. Nid ydym yn cael cyhoeddi manylion cyswllt yma am resymau ddiogelwch ond mae ei rif yn y llyfr ffōn:
http://www.thephonebook.bt.com/publisha.content/cy/search/residential/search.publisha?Surname=griffith&Location=chwilog&x=44&y=2&Page=3
-
Diolch yn fawr iawn Dolgellau am fanylion yr Awdur. Yn ōl pob sōn mae yr Awdur wedi cadw rhai copїau i'w pasio ymlaen i'w deulu ond nid oes ganddo gopїau dros ben.
Yr wyf wedi holi mewn amryw o siopau llyfrau ail-law ac wedi chwilio ar Amazon, AbeBooks a BookSwap.
Buaswn yn ddiolchgar iawn o gael unrhyw syniadau eraill!
Gyda diolch
-
Mae'n llyfr braf iawn i'w gael o fewn hyd braich ac mi fum i'n ddigon lwcus i brynu un flynyddoedd yn ol; dylai bod copi ar gael yn eich llyfrgell lleol, yn yr adran cyfeirlyfrau; wrtrh gwrs dydi'r rhain ddim ar gael i'w benthyg fel arfer.
Pinot
-
Diolch Pinot - mae un ar gael i'w ddefnyddio yn llyfrgell Caernarfon OND yr wyf eisiau ei gadw ar fy silff lyfrau adref!
Os clywch am unrhyw berson sydd am werthu ei copi, wnewch chi adael i mi wybod plīs?
Yr wyf yn mynd i ffonio'r awdur fory - croesi bysedd!
Gyda diolch
-
Dwi'n siwr y buasai'r awdur wedi gallu gwerthu miloedd ar filoedd o'r llyfr bellach.
Bobl bach, mae'n amhrisiadwy !
-
wnewch chi adael i mi wybod plīs?
Mi dria'i wneud hynny - deall yr awydd i gael copi ar y silff! Gobeithio'ch bod wedi cael canlyniad cadarnhaol o'r alwad ffo^n.
Pinot
-
Dwi'n siwr y buasai'r awdur wedi gallu gwerthu miloedd ar filoedd o'r llyfr bellach.
Bobl bach, mae'n amhrisiadwy !
Diolch Huwcyn - yr wyf yn cydweld!
"Mi dria'i wneud hynny"
Pinot - buaswn yn ddiolchgar dros ben. Siaradais efo'r Awdur - cadarnhau wnaeth bod copїau ganddo ef ond ei fod yn eu cadw ar gyfer ei deulu. Ia, llyfr gwerth ei gael ac yr wyf am ddal i chwilio amdano!
Gyda diolch
-
Y fran wen yn dweud efallai bod 'na ail argraffiad efo gwelliannau ac ychwanegiadau ar y ffordd, mewn clawr papur; daliwch eich gwynt.
Pinot :)
-
Diolch Pinot
Yr oedd Ceiri Griffith wedi sōn wrthyf fod posibilrwydd o hynny - edrychaf ymlaen!
Wedi dweud hynny buaswn yn dal i fod yn falch o gael y llyfr gwreiddiol yn y cyfamser!
Gyda diolch
-
Heol Nora !
Nesta
-
Helo Nesta - oes yna bobl o Gricieth neu Dalysarn ar rootschat?
Nora
-
Dwi ddim wedi gweld neb dwi'n nabod - bechod ! Neis gweld rhywyn yn lleol.
N
-
Mae www.llyfrau.com yn gwerthu llawer o lyfrau ail-law, ond tydyn nhw ddim i gyd wedi eu rhestru ar y wefan- Mae hi'n werth anfon ebost i'r cyfeiriad ar y dudalen gysylltu.
-
Diolch am yr awgrym Manonros - yr wyf wedi anfon neges iddynt a bydd yn ddiddorol gweld beth fyddant yn ei awgrymu!
Gyda diolch
-
Fedrwch prynu llyfriau diddorol yn "Smiths" yn Fangor - mae un adran yn gwerthu llyfrau o'r ardal, a rwy'n meddwl fod na siop llyfrau cymraeg yn Mold hefyd.
-
Diolch am y wybodaeth GillyJ. Ydych chi'n digwydd gwybod enw'r siop yn yr Wyddgrug os gwelwch yn dda?
Gyda diolch
-
Mae yna siop lyfrau ym Mhorthmadog hefyd. Oddi yno cefais i gopi.
-
Ai siop Browsers ydych chi'n sōn amdani Keith? Dwi wedi trїo yno. Oes yna siop lyfrau ail-law yn Port?
Gyda diolch
-
Book Shop - www.moldbookshop.co.uk
Elfair welsh books & crafts Rhuthun 01824 702575
ebay??? Second hand books
Bob Hwyl
-
Diolch am y wybodaeth GillyJ. Fe wna'i drїo'r ddwy siop. 'Rwyf yn edrych reit aml ar Ebay.
Gyda diolch
-
http://www.porthmadog.co.uk/siopeifionydd/
Hon ydi gwefan Siop Eifionydd ym Mhorthmadog, lle medrwch chi holi a ydi llyfr ar gael.
Pinot :)
-
Diolch o galon am yr wybodaeth Pinot
Yr wyf newydd anfon e-bost i siop Eifionydd.
Croesi bysedd unwaith eto ynde?
:)
-
Hwre!
Mae ffrind wedi llwyddo i gael copi o'r llyfr amhrisiadwy hwn i mi - diolch Ann.
Ar ol dros flwyddyn o obeithio - dyfal donc!
Llawer o ymchwil ar y gweill rwan!
-
Llongyfarchiadau! Oriau o bleser diniwed o'ch blaen :) nes daw ei lyfr newydd o allan ;D ;D
Pinot
-
Yn wir! ... OND pryd a faint fydd yn gostio ysgwn i?
Fe dalais £20 am yr un ail-law yma ac wedi darganfod gwybodaeth cywir ynddo'n barod. Yr wyf fi'n hapus iawn am y tro beth bynnag.
Diolch Pinot
Blaenau45