RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: GPJ on Friday 18 March 11 22:49 GMT (UK)
-
Shwd mae
Rwy'n trio ffeindio gwybodaeth am rieni Ann Hopkin (priod i John Hopkin) 1863 o Langiwg (Ystalyfera).
Rwyf wedi clywed bod ei henw cyn priodi yn Barnard, ond dydw i ddim yn gallu weld unrhyw teulu o'r enw Barnard yn unrhyw census.
diolch am unrhyw help
GPJ
-
Rwyf wedi clywed bod ei henw cyn priodi yn Barnard,
Hai GPJ,
Ydych chi wedi trio ffurfiau eraill ar Barnard? er enghraifft Bernard , Bernhart etc.
A fedrwch roi manylion y rhifau census perthnasol ble mae Ann yn ymddangos? Beth oedd oedran Ann yn 1861?
Pinot :)
-
Ym mhriodasau chwarter Medi 1883 mae yna Ann Barnard a John Hopkins yn ymddangos o dan cyfeirnod Carmarthen 11a 1141.
-
Shwd mae Pinot
Mae Ann HOPKINS (1863) yn dangos ar y 1891 a 1901 census yn briod i John Hopkins (1862) ac yn byw yn Ystalyfera. Y Drafferth rwy'n cael yw trio ffeindio unrhyw wybodaeth am Ann cyn iddi briodi!
Efalle fydd rhaid i fi ddanfon am dystysgrif briod i gael enwau'r rhieni.
GPJ
-
Hai GPJ,
Rwy'n credu mai tystysgrif priodas ydi'r unig ffordd ichi symud ymlaen; cefais hyd i Mary A. Hopkins yn byw yn Ystalyfera yn 1910 efo'i gwr a 6 o blant yn y ty sydd i'w weld yn eiddo i'w mam - cyfenw Scott.
Pinot ???
-
Shwd mae GPJ :)
Bydd tystysgrif geni o un o'r plant yn rhoi enw Ann cyn priodi
Mary Ann Hopkins 1885
Pontardawe 11a 673
Rachel Hannah Hopkins 1888
Pontardawe 11a 715
Hwyl fawr
Morgan