RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Lleucu on Tuesday 14 June 16 20:49 BST (UK)
-
Hoffwn wybod os yw Gwaelod y Wern, Llanerfyl yn dal i sefyll. Os ydyw, ai dyma yr enw y mae yn cael ei alw yn awr.
A lle oedd ei safle?
Diolch ymlaen llaw am unryw wybodaeth.
Lleucu
-
http://maps.nls.uk/view/102186989
'Dych chi'n gallu gweld "Gwaelod" ger "Wern cliargoed" (ochr ddwyrain y map)
-
Mae'n flin 'da fi - y "Gwaelod" anghywir!!.
Yn lle, 'dych chi'n gallu gweld "Gwaelod y Wern" top y map
-
Cyfrifiad 1891 (RG12 4599 91 1)
Number of Schedule (Col 1)
1, Tynyfedw
2. LLynymeini
3. Gwaelodywern
4. Tynyreithin
5. Blaenycae
6. Tanygarreg
'Dych chi'n gallu eu gweld nhw ar y map (ar 'wahan Tynyfdew - map gwahanol)
Pam lai jest google "Gwaelod y wern"?
-
Diolch yn fawr, hanes teulu am y gwaith yna a'r map. Fel mae'n digwydd dyna'r Gwaelod y mae gennyf ddiddordeb ynddo ( yr un ger Wern gliargoed).
Rwy'n cymeryd felly bod Gwaelod y Wern yn le hollol wahanol, mae'n edrych fel petai yn Llangadfan - o wel, tydi dod o hyd i bethau ddim yn gweithio allan fel yr oeddwn yn ddisgwyl!
Diolch eto
Lleucu
-
Cyfrifiad 1901 (cyf. RG13 5203 61 4)
Hugh Williams, Head, 60, Marr, Agriculturl Labourer, born Carno
Jane Williams, Wife, 68, Marr, born Llanerfyl
Mary Williams, Dau, 41, Single, born Llanerfyl
Address - Gwaelod, Cefnllys Isa, Llanerfyl, LLanfyllin
Bu farw Hugh Williams, eu mab nhw, blwyddyn gynnar (Feb 1900), 27 oed.
Rhestr ar Schedule -
19. Pencringoed
20. Cringoed Bach
21. Gosen
22. Bellan Hall
23. Gwaelod (teulu Williams)
---. Gosen Chapel
"End of Township of Cefnllys Isa"
'Dych chi'n gyfarwydd â Welshnewspaperson line?
-
Map arall (i'r Dde Gwaelod) http://maps.nls.uk/view/102187001
Mae'n dangos Pencringoed, Cringoed Bach, Belan Hall
-
Diolch - mae pobpeth o ddiddordeb, ond y teulu Jones oedd yna cyn y Williamses ydi fy nghysylltiad a'r ardal.
Lleucu
-
Helo na :), wedi darllen y bost am "Gwaelod" oedd rhaid I mi ateb. Dwi'n byw yn Gwaelod ers 1994.
Mae yna "Gwaelod-Y-Wern" ym mlwy Llangadfan dros yr Afon Gam.
Cofion
Jon
Diolch yn fawr, hanes teulu am y gwaith yna a'r map. Fel mae'n digwydd dyna'r Gwaelod y mae gennyf ddiddordeb ynddo ( yr un ger Wern gliargoed).
Rwy'n cymeryd felly bod Gwaelod y Wern yn le hollol wahanol, mae'n edrych fel petai yn Llangadfan - o wel, tydi dod o hyd i bethau ddim yn gweithio allan fel yr oeddwn yn ddisgwyl!
Diolch eto
Lleucu