RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: David Neil on Tuesday 21 September 21 17:06 BST (UK)

Title: Aberystwyth
Post by: David Neil on Tuesday 21 September 21 17:06 BST (UK)
Rwyf yn Aberystwyth heddiw! Mae rhai pobl wedi awgrymu bod yr enw ddim yn berffaith gywir.  'Aberheidol' sy'n ffitio'r darlun yn well, gan mai'r Afon Rheidol yn rhedeg trwy'r dre.  Oes na rhywun yn gwybod sut gafodd y dre ei enw?
Title: Re: Aberystwyth
Post by: trystan on Tuesday 21 September 21 17:13 BST (UK)
Mae'r Afon Ystwyth yn mynd i Aberystwyth, ac yn dod allan i'r de o'r Afon Rheidol.

Dyma'r afon ar Google Maps: https://goo.gl/maps/g1q8o35T3U4KZh1U9

Hwyl,
Trystan
Title: Re: Aberystwyth
Post by: David Neil on Tuesday 21 September 21 22:20 BST (UK)
Diolch Trystan.  Mae e'n gwneud o synwyr i mi arol gweld rhediad y ddau afon ar y map. Cofiaf rwyn yn dweud wrthyf rhai blynyddoedd bod rhediad un o'r afonydd wedi cael ei symud. Ond mae gwely yr hen afon yn gorwedd o dan canol y dre yn rhywle.

David Neil
Title: Re: Aberystwyth
Post by: hanes teulu on Wednesday 22 September 21 20:08 BST (UK)
'Dych chi'n gyfarwydd â "Welsh Journals"? Er enghraifft, yr erthygl 'ma'n sôn am ddechreuad Aberystwyth -
https://journals.library.wales/view/4718179/4734799/240#xywh=149%2C654%2C2697%2C1782

Pob lwc.

Title: Re: Aberystwyth
Post by: David Neil on Wednesday 22 September 21 22:25 BST (UK)
Diolch yn fawr Hanes Teulu.  Mae'r erthygl yn edrych yn ddiddorol iawn. Rwyf wedi cael cipolwg sydyn ar y tudalenau cyntaf, ond byddaf yn darllen y cyfan yn ofalus dros y penwythnos.
Title: Re: Aberystwyth
Post by: hanes teulu on Thursday 23 September 21 09:59 BST (UK)
Mae'r Afon Ystwyth yn mynd i Aberystwyth, ac yn dod allan i'r de o'r Afon Rheidol.

Dyma'r afon ar Google Maps: https://goo.gl/maps/g1q8o35T3U4KZh1U9

Hwyl,
Trystan

Ar fap "Cambriae Typus" Humphrey Llwyd (argraff cyntaf 1573) i'r gogledd y "Rheydol flu(men)" yw'r "Ystwydh flu(men)!!