RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: trystan on Saturday 31 July 04 23:33 BST (UK)
-
Does neb yn siarad Cymraeg ar RootsChat?
Tydw i ddim yn gallu sgwennu cymraeg yn dda iawn oherwydd my gefais yr rhan fwua o fy amser yn yr ysgol yn Lloegr - ond I siarad, dwi'n rhigl.
Yn goebeithio cael clywed can rhyw un.
Hwyl !
Trystan
-
Mi fedra i siarad a sgwennu Cymraeg, ond mae rhai o bobl 'ma sy'n am edrych iddi fi dim yn deallt iaith y nefoedd. ;D
Ond problem nhw dy o.
Hwyl a sbri,
Dewi
-
Dewi,
Ac o lle yn nhymru wyt ti'n dod o?
Trystan
-
Trystan,
yn wreiddiol o Ddeganwy, pentre bach rhwng Landudno a Gonwy. Ond dwi wedi symud i ffwrd hefo deunaw mlwydd a rwan wedi bod yn ar Almaen ers ddeng mlwydd. Does gen i ddim lawer or siawns i siarad cymraeg rwan, achos mai fy ngwraig yn Almaeneg. Ond dwi'n siarad hefo fy merch. Yn anffodus, fedra hi ddim sgwrsio ar hyn or bryn - mae hi rhy ifanc.
Siaradwr iaith gynta wyt ti?
D ap D
-
Ia, mam-iath ydi Cymraeg i fi, ond mae fy nhad yn sais - ond nath a ni symyd iffwrdd o Ynys Mon I Lloegr pan o ni'n saith oed - a dynna pam rydw i wedi methu allan hefo dysgu sut i swennu cynraeg! Dwi'n byw yn Manceinion rwan efo Sarah a mae hi's saesnes. Yr unig adeg dwi'n siarad cymraeg rwan ydi pan dwi'n siarad hefo Mam ar y ffon, ne hefo fy mrawd.
Mae Mam a Dad yn dod o ymyl Dymbych yn wreiddiol (Llansannan, Clwt a Rhiw)
Dwi'n pigo S4C ifynnu ar y Sky Digidol, a weithio watchio Pobl Y Cwm o dro i dro. Mae'r Eisteddfod Genedleathol ymlaen yr wythnos yma.
Hwyl,
Trystan
-
dwi'n nabod Llansannan, dwi'n hel achau o Langernyw a Lansanffraid.
Mi ddyla i derbyn essfforsi hefo dysgl sateleit, ond mae rhaid iddi ni trafod a gytuno hefo ein gymydogau - mae gynnon ni cebl rwan. Dan ni medru derbyn rhai rhaglenni o'r Ffrainc, Gwlad Pwyl, y Swistir, yr Iseldiroedd, CNN, NBC a BBC World, ond methan ni edrych y rybgi neu cachu fel pobl y cwm. >:(
Dewi
-
Fu rhaid I chdi fynd a digibox i'r almaen, a cyn mynd cael cerdyn I dderbyn y sianels - mae o am ddim I watsio S4C, on mae'n rhaid fonio nhw I gael nhw rhoi o ymlaen. Efalle maen bosig I wrando ar Radio Cymru ar y peth hefyd, on dwi ddim rhy siwr...
-
Fydd rhaid i mi prynu un pan dwi yng Nghymru 'r amser nesa. Neu fel anrheg i Nadolig.
Fedra wrando Radio Cymru dros y we, ond 'dy 'r dderbyn ddim yn archerchog - mae'n adleisio lawer.
Diolch am y tip
-
Newydd gweld fod Cymraeg yn cael eu osod ar 'Roots.com'.
Mae hyn yn beth da, a gobeithio fydd mwy o boble yn eu weld a defnyddio.
Nawr fy mod yn gwybod amdano fe fyddaf yn edrych fan hyn fw amal. Mae;n ddrwg i weld fod 'SPELL CHECK' ar welod y dudalen hon, ond mae'r iaith Gymraeg ddim ar gael arno!!
'Rwyn'd dod o Sir Gaerfyrddin. ::)
-
Wel, Croeso I RootsChat Pet - Dwi'n dod yn wreddiol o Sir Fon, ond dwi ddim rhu dda yn sgwennu Cymraeg (mi es I i ysgol yn Lloeger pan o ni'n saith ne wyth, so nes I byth ddysgu syd i sgwennu cymraeg yn iawn!
Hwyl,
Trystan
-
Helo,
Dwi newydd ymuno a Roots Chat a dwi ddim yn gyfarwdd a'r system eto. Dwi wedi bod yn dysgu'r iaith y nefoedd am bedair blynedd nawr a hoffwn i barhau yn ysgrifennu yn Gymraeg.
Hwyl am y tro ...Lavinia
-
Wel, mae dy gymraed di yn lot well na un fi !! Croeso anferth i RootsChat, gebeitho ffeindio dy ffordd o gwmpas go fuan!
Hwyl,
Trystan
-
Hwyl asbri! llawer o bobl siarad Cymraeg! ;D
-
Diolch am groeso i mi i Roots Chat.Cymraes ydw i felly dysgu Cymraeg ydy rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi.
Hwyl.....Lavinia
-
Croeso gynnes i Pet a Lavinia.
Gobeithio fyddan siarad Cymraeg yn fwy nag erioed.
D ap D
-
Mae na ddigon ohonom yn siarad Cymraeg, ond yn anffodus dwi'n ymchwilio teulu yn Lloegr gan fod yr enwau llai cyffredin.
Wyddoch chi mai 58 David Davies gafodd eu geni yn Sir Gar yn 1880 (yn ol y Census yn 1881)? Un ohonynt oedd tad fy nhadcu ond pwy un?
Mae'n llawer hawddach i ymchwilio'r Saeson, felly dwi ddim yn defnyddio'r bwrdd Cymraeg lot.
-
Mae nifer fawr o ymchwilwyr hel achau yn ymchwilio am deuluoedd o Loegr. Prin iawn yw’r rhai sydd heb berthnasau rhywle yn eu hach sydd wedi symud I Gymru o Loegr. Daeth cangen o’n nheulu i i weithio yng nghymoedd glo y De yn y 1880au – o’r Amwythig – maen’t yn Gymry i’r carn bellach wrth gwrs. Meddyliwch am enwau rhai o fawrion y genedl – Wigley, Kinnock, Macintire, Lynch, Bebb, Giggs ac ati. Mae nifer mwy ohonom ag aelodau o’n teuluoedd wedi mudo i Loegr, gwledydd eraill Ynysoedd Prydain a phellach i fwrdd, felly rhannwch wybodaeth am eich teuluoedd o Loegr trwy’r Gymraeg hefyd. Cefais y profiad hyfryd rhyw ddwy flynedd yn ôl o ddarganfod bod fy ngwas priodas, Cymro Cymraeg a’i wreiddiau yn ddwfn yn ei fro ac a magwyd gyda fi yn Nolgellau yn perthyn imi drwy deulu o’r enw Crump o Pontesbury Lloegr 150 mlynedd yn ôl!
Y brif reswm pam nad yw Cymry Cymraeg yn ysgrifennu Cymraeg yw ofn nad yw eu Cymraeg yn ddigon da – rhywbeth sydd ddim yn poeni dysgwyr – dyna pham ceir llawer mwy o ddysgwyr yn cyfrannu i’r we trwy’r Gymraeg na cheir o Gymry cynhenid, mae gwir angen magu hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg pob dydd i ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.
-
Y brif reswm pam nad yw Cymry Cymraeg yn ysgrifennu Cymraeg yw ofn nad yw eu Cymraeg yn ddigon da – rhywbeth sydd ddim yn poeni dysgwyr – dyna pham ceir llawer mwy o ddysgwyr yn cyfrannu i’r we trwy’r Gymraeg na cheir o Gymry cynhenid, mae gwir angen magu hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg pob dydd i ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.
Yn wir iawn. Mae fy rhieni wedi magu fy mrawd a finna dwyiethiog. Aethon ni hefyd i'r ysgol "dwyiethog", ond dwi ddim wedi sgwennu gymraeg ers ugain mlwydd rwan - dydy hi ddim yn hawdd. Dwi'n medru siarad heb problem, fodd bynnag dwi'n defnyddio tri iethoedd arall hefo fy ngwaith, felly dwi
'n siarad gymraeg hefo fy merch yn unig. Dydy'r sefyllfa ddim yn delfrydol chwaith, achos mae'r ferch yn deunaw mis yn oed....
-
Mae Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn cynnig gwersi Cymraeg i ddechreuwyr a chyrsiau Cymraeg i'r rhai sydd am loywi / gwella eu Cymraeg ar- lein trwy eu safle e-addysg
http://www.e-addysg.com/cymraeg/index.php
Mae'r safle hefyd yn cynnwys cyrsiau ar hanes a thraddodiad barddol Cymru.
I'r sawl sy'n byw yn y DU a sydd heb gyrraedd cymwysterau Lefel A nac NVQ lefel 3 mae rhai o'r cyrsiau craidd yn rhad ac am ddim. Credaf (ond nid wyf 100%) bod gostyngiadau ar gael i'r sawl sydd ar fudd-daliadau.
I'r rhai sydd yn ennill cyflogau teg dydy'r ffioedd ddim yn uchel iawn - os ydych am wella'ch Cymraeg, dysgu mwy am hanes Cymru neu gael gwell amgyffred o ddiwylliant Cymru, maen werth cael golwg ar y safle a gwario funud i feddwl uwch ei gynnwys.
~~~~~~~~~~~~
For details of the points included in this post in English please go to
http://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=28958.0
-
Balch o weld fod cymaint o aelodau newydd wedi ymuno .Ffordd dda iawn o wella eich Cymraeg a hefyd i ddod mewn cysylltiad a Chymry sy'n byw yn Lloegr neu dramor.Daliwch ati y dysgwyr! A-led.
-
Gobeithio eich bod i gyd yn gwisgo eich cennin pedr heddiw am ei bod yn Ddydd Gwyl Dewi.Cadwch yr iaith yn fyw drwy ei defnyddio mor aml a sydd bosibl .
-
:o
Helo! mea rhaid i fi dod mewn ar pwnc ma, rydw i'n byw yn Abergwaun, Sir Benfro ac yn siarad Gymraeg lot fawr yn gwaith .. ond dydw i ddim yn sgriffennu yn dda o gwbl - sori!
Mae tri ochor teulu fi yn dod o Sir Benfro - ond gaeth mamgu fi genu a magi yn Peterhead - Aberdeenshire. daeth hi i Sir Benfro yn 1944 gyda phriod hi - i bwy gyda teulu e yn Dinas.
Mae'r tri ochor Cymraeg yn byw yn ardal Abergwaun, Llanychaer, Cwm Gwaun a Dinas
Os diddordeb da unrhyw un yn teuluodd lleol ma, rydw i'n fodlon helpu - os gallai!
Enwau teuluodd fi yw: OWEN, THOMAS, CORNOCK, JAMES a EVANS !
Diolch
Mellie
-
Noswaith dda i chi i gyd. Newydd ymuno a Roots Web ydwyf fi, ond 'r wy'n gweld bod pawb wedi mynd yn dawel. Hwyl fawr.
-
Cowslip,
Croeso anferth i RootsChat - yn dda i glywed gan cymro (neu cymreas?) arall.
Pob hwyl,
Trystan
-
hello trystan oes main gweld bod yna pobol yn siarad cymraeg!newydd i hwn! rwyf o ynys mon mai hi yn dda cael gweld y iaith ar y we tydi.hwyl fawr mel. ;D
-
Sheenathom,
Wel, o ynys mon dwi wedi dod o yn wreiddiol. Mae Mam a Dad dal yna. ;)
Trystan
-
Balch o glywed gan rywun o Ynys Mon.Mae digon o gyfle ar yr ynys i ymarfer yr iaith GYMRAEG. Pob hwyl.
-
diolch am gyrru neges yn nol i mi o lle wut yn dwad o?mel :)
-
Aelod newyedd arall yma.Cymrais(ail iaith) yn byw yn ardal Castell Nedd ar hyn o bryd.Wedi godi yn ardal Llanbed gyda Mam nad oedd yn siarad y iaith ond yn y 60degau roedd yr ysgolion yn hollol Gymraeg ac roeddech yn dysgu'r iaith.Symyd wedyn i Landyssul lle roedd bach mwy o Saesneg ac yn yr ysgol uwchradd yn gwneud Gymraeg fel ail iaith i Lefel A.Colli bach or iaith wedyn nes briodi a Athro Gymraeg ac wedi magu dwy ferch yn hollol Gymraeg.Gobeithio nad oes gormod o walle yma!
-
hello!wreiddiol o talysarn uw i rhiw ddeg milltir o carnarfon wedi cael fy magu yn gymraeg er bod fy mam yn gwuddel ac fy nhad yn pur cymraeg,ond cael ei eni yma yn cymru neath hi ond ei thad yn dwad o iwerddon ai mam o dorset,ma hi yn dda bod yr iaith mor cruf tydi!.((mel)) ;D
-
Helo!!! Ana dw i a dwi´´n byw yn Nhrelew, Patagonia, Ariannin. Dwi´n dysqu cymraeg gyda atrawes o Aberteifi. Roedd fy nhaid teulu enedigol o Abertawe. Dw i siarad cymraeg dim ond yn y dosbarth achos dw i dim yn nabob llawer o bobl yma sy´n siarad cymraeg.
Hwyl.
Ana
-
hello anna, mai yn dda i clywed ganddo chi, mi on siarad gyda gyda fy frind am patigonia diwrnod oblaen mi oedd yn gofun os ydwi yn meddwl fudd yr iaith dal yn cael ei dysgu ganddo chi yna ich plant ac ei plant nhw mewn cant flynedd i ddod?mae o am gwneud trip i patagonia meddai yn y dyfodol agos ir eisterfod ydach yn gynal ! ffotograffwr ydio mae o yn mund rownd y wlad i tynu llyniau o pobol aballu,wut yn gwubod bod mae yna whanol furdd o iaith cymraeg mae fy cymraeg o lle rwuf wedi cael yn magu yn wahanol o lle rwyf yn buw rwan er mae pawb yn cymraeg ond mai ganddo ni furdd whanol oi siarad e,mae yna mor cymaint o pledeisio ar y iaith cymraeg gan fy phlant yn yr ysgol mae ei saesneg nhw yn isal iawn ac mae yr ysgolion yn dweud bod fy plant rhu wladaith,cadw mewn cysylltiad .
hwyl fawr
melonie :) ;D
-
Mae llawer o bobl yn siarad yr hen iaith. Ond pa mor bell i'r Gogledd ydy pobl yn siarad y Gymraeg? Dw'i ddim yn meddwl am Gogledd Cymru, dw i'n meddwl am yr Hen Gogledd - yr Alban neu yr ardal ar y fin - lle daeth engraifft o Gymraeg amser maeth yn ol.
Yma o hyd
Lindoo
-
Mae yna nifer o lefydd ar y we lle gellir cael sgwrs Cymraeg bellach. Dyma rhai ohonynt:
Y Fforwm (http://yddraig.com/fforwm/index.php)Lle i drafod Gwleidyddiaeth Cymru, Prydain ag Ewrop a'r lle i roi'r byd yn ei le.
Maes E. (http://maes-e.com/index.php)Lle i drafod bron iawn pob pwnc dan haul ond yn apelio mwyaf at faterion ieuenctid
Dim Cwsg (http://www.dimcwsg.com/) y Lle i Famau, Tadau, Neiniau, Teidiau a phawb arall sy'n magu plant cael deud eu deud, gofyn am gymorth a thynnu eu gwallt allan yn gyhoeddus (heb fod neb yn barnu)
Sgarmes (http://sgarmes.com/)Y lle i drafod Rygbi trwy'r Gymraeg
Cic Hosan (http://www.cic-hosan.cwmnicymraeg.com/fforwm/) Y lle i drafod Pęl droed drwy'r Gymraeg
Ond cofiwch mai'r unig le i drafod Hel Achau drwy'r Gymraeg yw bwrdd Cymraeg Rootschat!
Un nodyn pwysig. Peidiwch â bod ofn nad yw eich Cymraeg dim yn ddigon da ar ddim un o'r byrddau trafod (yn arbennig ar fwrdd Cymraeg Rootschat). Y peth pwysig yw sgwrsio Cymraeg, nid cywirdeb iaith a gramadeg.
Ar bob un o'r byrddau yma (gan gynnwys un Rootschat) os oes rhywun yn ymateb gan ddweud:
Nad yw dy dreigliad meddal ar ôl dy yn draethiadol mewn cyswllt a rhagddodiad dy adferf mewn cysylltiad â gwrthrych y ferf yn gywir (neu ryw c*%* tebyg).
Nhw - nid chi bydd yn cael chwip din gan y cymedrolwr. :)
-
Diolch am godi'n calonnau ni heno! Mae'n hyfryd gael siarad yn Gymraeg ar y we. Dyma beth roddodd yr hyder i mi ysgrifennu i rootschat am y tro cyntaf. Doeddwn i ddim yn gallu credu y gallwn i fod mewn perygl drwy sgwrsio yn Gymraeg!
Wedyn fe sylweddolais fod rootschat I GYD fel yna !!!!!!!!!!!!
Dwy ddim wedi dod ar draws cymaint o bobl GWIR cyfeillgar a hael erioed.
Eleri
-
Eleri,
Mae'n ngymraeg i'n ofnadwy, ond dwi ddim yn poeni'n ormodol amdan y peth - peth pwysig ydi i carrio mlaen defnyddio'r iaith mor amal a sydd yn bosib. :)
Trystan
-
Eleri,
Mae'n ngymraeg i'n ofnadwy, ond dwi ddim yn poeni'n ormodol amdan y peth - peth pwysig ydi i carrio mlaen defnyddio'r iaith mor amal a sydd yn bosib. :)
Trystan
Dal ati dyna'r gyfrinach.Tybed a oes Cymdeithas Gymraeg yn ardal Manceinion.Mae hynny yn ffordd dda o wella iaith drwy gael mwy o gyfle i ymarfer yr iaith lafar.
-
Blwyddyn Newydd Dda i bawb ar rootschat.
Eleri
-
Diolch yn fawr iawn a ti, Eleri
RuthieB
-
Ew, ia wir - mae'n dda I glywed mwy o'r iaith ar fymma! Blwyddyn newydd dda i pawb hefyd!
Trystan
-
Beth am gael trafodaeth yma?
Oes rhywun o gwbl wedi ffeindio rhywun enwog ar ei goeden deulu?
Eleri
-
Wel, dwi wedi siarad efo gymaint o'r deulu dros y nadolig. Dwedodd un ohonyn nhw, mae ganddyn ni linc i'r deulu Elis Humphrey Evans (Hedd Wyn), Trawsfynydd.
Ond dwi ddim yn credu y stori 'ma. Mae ganddyn lawer o ffermwyr, yn wir, ond dim o'r ardal Trawsfynydd. Serch hynny, dwi'n chwilio am y linc.
-
Os wyt yn darganfod cysylltiad hefo teulu Hedd Wyn gad imi wybod, gan fy mod i'n rhan o dylwyth y bardd hefyd.
-
Heia! dw'i newydd ymuno a Rootschat, ers cwpwl o ddiwrnodau, heddi ddes i o hyd i'r rhan yma!!! gwych! dw'in archwilio rhan o'n teulu i sy'n dod o Loegr, ond byddai'n ymweld a'r rhan yma'n aml, er mwyn cael trafod yn y Gymraeg!
-
Roeddwn yn falch o weld dy fod wedi darganfod y safle ardderchog yma.Dal ati i'w ddefnyddio a gobeithio y cei lwc yn cael hyd i dy wreiddie!Mae'n amlwg dy fod yn byw yn y de ac rwyf inne'n byw yn y gogledd.Hwyl Al
-
Wi'n dod o Sir Benfro yn wreiddiol, ond ym myw yn Abertawe nawr! Odi cymraeg i mor amlwg a hynny!???! ;D
-
Mae Cymraeg y de yn llawer mwy main na'r gogledd ond mae gen i lawer o ffrindiau o'r de felly nid yw yn broblem o gwbwl.Hefyd mae rhaglenni teledu yn gymysgfa o dafodiaith y de a'r gogledd.Dwi'n dod o Sir Ddinbych yn wreiddiol ond yn byw ar Ynys Mon ers tua chwarter canrif bellach.Hwyl Al
-
Mae'n ferch i'n pedair mlwydd oed, ac er mae'r dwy ohonom wedi magu yn y De, mae'n siarad cymraeg gwahanol i mi weithiau! dwi'n defnyddio Cymraeg sir benfro, dweud pethe fel," ma'n wer heddi," ac mae hi'n ddweud "oer" ac yn cywiro fi! mae'n mynd i Ysgol Gymraeg, ac mae Miss yn cael tipyn mwy o ddylanwad arni na fi nawr! Diolch am y croeso hefyd! braf cael sgwrsio yn y gymraeg!
-
Mae gen i dri mab ac un ferch.Mae'r pedwar yn siarad Cymraeg ond nid ydynt cystal ar bapur.Y rheswm am hynny ydi am inni orfod symud i fyw i Loegr am gyfnod o tua chwe mlynedd pan oeddynt yn blant.Felly ni chafodd tri ohonynt y sylfaen ond fe gafodd y fenga ei fagu yng Nghymru fach .Dyna'r rheswm inni ddod yn ol i fyw i Fon er mwyn iddo dyfu i fyny yn Gymro.Erbyn hyn mae'r pedwar yn byw ac yn gweithio yn Lloegr am nad oed gwaith iddynt yma.Felly nid ydynt yn cael y cyfle i siarad Cymraeg ond pan y dont adre.Nid yw fy ngwr,sef eu tad ,yn siarad Cymraeg felly mae'r aelwyd yn ddwy ieithog!Mae'n dda bod eich merch fach yn cael y cyfle i fynd i ysgol Gymraeg.Pb hwyl ichwi Al
-
Dwi'n iawn yn "siarad" Cymraeg, ond yn ddiflas ar yr ysrgifennu :-[
???????????
-
Hai Heitch,
Croeso i'r cylch Cymraeg! :)
Does dim ots sut mae rhywun yn sgrifennu yn fan hyn - dim marciau, gwaith cartref nac arholiadau - hwre!
Mae'n braf gweld ambell i air gan y Cymry Cymraeg, a rhoi gwybodaeth os oes gan rywun rywbeth gwerth ei ddweud (hynny ddim yn digwydd i mi yn aml).
Hwyl ar y chwilio,
Pinot
-
Dwi'n yr un peth a Heitch, dwi'n galli siarad cymreag dda, ond fi heb ysgrifennu yn cymraeg ers ysgol :-[
-
Helo bawb, falch o weld nad oes neb yn marcio'r ffordd ma rhywun yn sgwennu yma. Dwi'n tueddu i sgwennu fel dwi'n siarad Cymraeg a gan mod i o Borthmadog yn wreiddiol, felna fyddai'n siarad a sgwennu.
Dwi yn byw yn Awstralia ac newydd ddechra rhoi stwff teuluol fy nhad yng nghyfrath ar y cyfrifiadur. Mae ganddo lwythi o waith papur ac mae'n reit anodd ffendio ffordd drwyddo fo i gyd ond dwi meddwl mod i wedi dechra'n o lew.
Hwyl. Keijei
-
Hai Keijei a chroeso i Rootschat!
Mae gen i lawer o deulu yn Awstralia, brawd fy mam wedi mudo yno ers talwm a magu teulu go fawr erbyn hyn. Cneithar imi'n dal i hedfan draw bob rhyw ddwy flynedd i fynd rownd y teulu i gyd; neb ohonyn nhw'n siarad Cymraeg - hogan leol oedd ei wraig o heb air o Gymraeg.
Pob lwc efo'r croniclo - mae gen i ffordd go bell i fynd fy hun; dydw i ddim yn arbenigwr ar y cyfrifiadur na rhaglenni hel achau, ond mae 'na ddigon o bobl yma sydd (ond bod rhywun yn gorfod troi i'r Saesneg efo rheiny).
Hwyl am y tro,
Pinot :)
-
Dwi'n siarad Cymraeg ! Yn byw yng Nghanada ers 1995 .
-
Dwi'n siarad Cymraeg ! Yn byw yng Nghanada ers 1995 . Newydd ymuno a Rootschat.com ac wedi cael lot o help efo hel achau.
Cadwn yr Iaith yn fyw ! 8)
-
Fe fydde'n ddiddorol gwybod beth mae pobl yn ei wneud yn eu hamser hamdden!Hwyrach fod gan amryw ddiddordebau anghyffredin -Heblaw chwilota hanes teuluoedd.Beth am rannu gwybodaeth? Aleri
-
Casglu hen lwyau te mewn siopau elusen - ddim rhai fel y llwyau modern annifyr, ond rhai hen, cysurus. Dydi'r wraig ddim yn cwyno gormod. :-*
Pinot
-
Diddorol iawn!Faint rydych wedi ei gasglu hyd yma?
-
:) Helo bawb! Manon yma, o Fro Dysynni. Balch iawn o weld cornel Gymraeg yma ar rootschat!
-
Croeso atom ni'r Cymry!A ydych fel teulu'n siarad Cymraeg?Aleri
-
Ydyn- 'Dwi'n briod efo dau o hogiau bach, a Chymraeg ydi iaith yr aelwyd!
-
Helo pawb,
Yn gyntaf, esgusodwch fi os dw in' gwneud camgymeriadau yma - iaith gyntaf ydy Saesneg, ond dysges i Gymraeg i lefel A pan es i i ysgol (ond does gen i ddim geiriadur yma). Dw i'n byw ger Penarlag, yng Nglannau Dyfrdwy, Sir Y Fflint, efo fy nghariad. Mis nesa, dw i'n troi tri deg un mlwydd oed.
Mae fy rhieni yn Sais, ond mae gen i nain Gymraes (neu mangu - mae hi'n dod o Gastell-nedd, (o, a fy enw canol ydy Sian, ar ol cyfnither Mam) - roedd ei rhieni Mistar Thomas a Miss Jones!
Fel rydw i'n byw ger y ffindir, a dydy fy rhieni neu fy nghariad yn siarad Gymraeg - rydw i'n hoffi siarad mwy o Gymraeg efo pobl Gymraeg :)
Katie
-
Da iawn ti wir.Mae dy Gymraeg yn dda IAWN .DAL ATI.
-
Prynhawn da pawb. Dwi'n wedi dechrau mynin heddi ond nagyw cymraeg fi yn rhy dda. Fi'n dod o Rhydaman Hwyl. Philcymro :)
-
Diddorol iawn!Faint rydych wedi ei gasglu hyd yma?
Sori! Sori! Heb weld eich post tan heno!
Dydw i ddim yn gwirioni ar y peth, dim ond digon nes bydd y peiriant golchi llestri'n troi eto.
Mwy o ddiddordebau? Synnwch ni! :o
Hwyl,
Pinot (o, mi wnes i anghofio, gwin . . .)
-
Diddorol iawn!Faint rydych wedi ei gasglu hyd yma?
Sori! Sori! Heb weld eich post tan heno!
Dydw i ddim yn gwirioni ar y peth, dim ond digon nes bydd y peiriant golchi llestri'n troi eto.
Mwy o ddiddordebau? Synnwch ni! :o
Hwyl,
Pinot (o, mi wnes i anghofio, gwin . . .)
Rwyf wedi fy nrysu'n llwr!
Roedd y cwestiwn parthed sawl llwy de sydd yn dy gasgliad?
Mae yna digion o dyllau i 90 o lwyau de yn fy mheiriant golchi i!
-
Faint o lwyau te sydd eu hangen ar fod rhesymol? Mae 6-9 yn troi digon o baneidiau i mi (a'r musus) cyn imi orfod estyn at y marigolds.
Pinot ;D
-
Sut Mae pawb...hogan o Sir Fon ydwi ;D Ond wedi gadael Mon ers blynyddodd :'(.Rwyf yn lwcus efo siarad Cymraeg am fod i yn cael sgwrs gyda'r Gwr ac mae fy Vet i yn dod o Betws-y-Coed..Dim cael lawer o chance i sgwenu Cymraeg yn amal iawn..Dipyn bach yn rusty ;D
-
Hai P.C!
Braf cael wyneb newydd yma ;D ; dim ymddiheuro am eich Cymraeg rwan - dim pensal goch yma, dim gwaith cartra!
Sgwennwch eto'n fuan; digon yma'n hapus i helpu.
Hwyl,
Pinot
-
Diolch yn fawr Pinot ;D
Mae yn neis cael dipyn bach o practice :)
-
Croeso P.C.! Cofion gorau hefyd i Phil a Katie ;D - daliwch ati!
Wneith pawb sy'n sgwennu yma plis stopio ymddiheuro bod eu Cymraeg nhw ddim yn dda iawn? Dan ni yma o hyd (meddai rhywun :D) ac mi fyddwn ni.
ond yn ol at hen hen dadcu . . .
Pinot
-
Noswaith dda i chi gyd,
Fe'm ganwyd i yn Sir Gaerfyrddin, ond symud wnaeth y teulu (a minnau gyda nhw wrth gwrs.......) pan oeddwn yn chwech oed, i Sir Aberteifi. Ond ers 33 mlynedd, yr wyf yn byw a gweithio ym Mhowys. Sais yw'r gwr o Loeger, ond mae e' wedi dysgu digon i ddeall Cymraeg, ond dydy e' ddim yn fodlon siarad rhag ofn gwneud camgymeriadau..........
Mae'n braf gweld y Cymry / a'r Saeson (dysgwyr neu rhugl) yn ymarfer eu Cymraeg ar "Rootschat"............ :D :-*
Daliwch ati bawb ..........
Cofion gorau,
Alltcafan
-
Croeso P.C.! Cofion gorau hefyd i Phil a Katie ;D - daliwch ati!
Wneith pawb sy'n sgwennu yma plis stopio ymddiheuro bod eu Cymraeg nhw ddim yn dda iawn? Dan ni yma o hyd (meddai rhywun :D) ac mi fyddwn ni.
ond yn ol at hen hen dadcu . . .
Pinot
Mae Pinot yn llygaid ei lle, mae iaith wallus yn dderbyniol yma, dim ond y gwirionedd sy'n cael ei ddileu!
-
Rwy'n hoffi weld pobl yn ysgrifennu cymraeg hefyd. Os dwy'n mynd yn ol i Sir Fon weithiau mae na siawns i gael sgwrs yn cymraeg ond nid bob dydd. r'owddwn yn Cemaes wythnos diwethaf a clywais cymraeg yn rhang mwyaf o'r siopau ac yr oewddwn yn falch iawn. Rhaid i mi ceisio i "practisio" yn mwy aml!! Mae'n annodd i cofio yr "aliteration" ar ol amser.
-
Dwi yn neud siwr bo fi yn cael chat bob tro dwi yn mynd adra i Sir Fon...dwi yn prynu yr Holyhead & Anglesey Mail bob tro ac mae yn braf cael sgwrs bach yn y siop bapur newydd ;D Oeddwyn i yn Cemaes wythnos dwytha GillyJ..wedi mynd i Eglwys Llanbadrig i chwilio am y teulu...ond dim lwc :(
-
Dyma fi......Cymro Cymraeg arall i chi!
Newydd gael hyd i'r wefan ac am ei ddefnyddio cyn gymaint a fedra i.
S'mai i bawb!
Trebrys
-
Sut Mae Trebrys...Croeso mawr i chdi ;D
-
Diolch o galon.....ac i chdithe hefyd
-
Hai Trebrys a chroeso aton ni! Mae na ddigon o bobl yma'n barod iawn i helpu - dw i'n siwr y byddwch chi wrth eich bodd yma.
Pinot :)
-
A finne.......wedi cael modd i fyw heddiw yn chwarae hefo'r wefan!
Diolch am y croeso!
-
A dyma fi Cymraes arall yn siarad yr iaith bob dydd.
alism
-
Hefo lwc, fi fydd y cynta' i bostio eleni efo'r het dymhorol yn Gymraeg!
Pinot :D
-
Wel gwych....ma pethe'n dechre gwella ma, hogs!
-
Wedi fy ngeni a magu ar Sir Fon. Siarad darllen a trio ysgrifennu iaith y nefoedd. Plant i gyd yn siarad Cymraeg er ei bod ei tad yn Sais.
-
Glenys,
Croeso mawr cynnes i RootsChat - yn dda i glywed gan un o Sir Fon (un o Llanfairpwll fy hun!),
Trystan
-
Yr oedd yn diddorol i weld faint o bobl sy'n ysgrifennu ar y "rootschat" yma. Nid wyf fi wedi cael siawns i siarad cymraeg am misoedd ond yr wyf fi yn mwynhau darllen y " Daily Post" bob wythnos. Yr oedd fy iaith cyntaf fi yn saesneg hefyd ond yr oedd fy nain a thaid yn hoffi siarad gymraeg i mi ac oedd yr ysgol yn Llanfairpwll yn dysgu popeth yng ngymraeg pan oeddwn fi yn mynd fel plentyn.
-
Rydw i wedi dysgu cymraeg yn ysgol nos ond rwan dydw i ddim yn siarad yn dda
-
Dw i'n dysgy cymraeg, ond dw i'n ffindio pobl ddim yn siarad I fi yn cymraeg,ond ateb I fi yn saisneg, hoffwn I siarad mwya efo pobl. ???
-
Da iawn chdi i ddysgu'r iaith :)
Dos i Gaernarfon - mae'n anodd weithia i gael pobl i siarad saesneg yna i pobl o lloegr yna (dwi'n dweud clwyddau wir!). ::) :P
Trystan
-
Yn dda cael cyfle i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg. Albanes ydw i ond gwnes i fyw yng Nghymru am 20 mlynedd. Pob hwyl i bawb sy'n dysgu - dyfal donc a dyrr y garreg!
-
Diddorol iawn. Mae rhai o'r cofnodion cynharaf o farddoniaeth Cymraeg yn dod o dir sydd bellach yn rhan o'r Alban. Mae Can y Gododdin yn son am ryfelwyr "Cymreig" yn ymosod ar Gatraeth (Catterick) yn Swydd Efrog o Din Edin (Edinburgh)
https://en.wikipedia.org/wiki/Y_Gododdin
-
Mi synnais i o ddysgu bod 'Wales' yn 'village and civil parish near Rotherham, S. Yorkshire' (Wikipedia). Tybed oes 'na ryw gefnder pell imi'n byw yno . . .
-
Cofio hen wreigan yn deud wrtha'i pan oeddwn yn symud ymhell dros Glawdd Offa flynyddoed maith yn ol mai'r unig ffordd I beidio a cholli fy Nghymraeg oedd trwy ddarllen rhywbeth Cymraeg bob dydd.
A dyne be ddaru mi drio ei neud.
Rhaid cyfaddef pan fyddaf yn mynd adre mod i'n cymeryd rhyw chwarter awr o siarad Cymraeg cyn fy mod yn teimlo'n 'gyfforddus' yn yr iaith.
-
Da fi'n yr unig hwntw 'ma?
drwy ddarllen y bostiau cyn mae bron pawb yn gog 'ma.
-
Wel dw i'n byw yn Canolbarth Cymry, felly dw i m gog neu hwntw. A saesnes, ond dw I ' n gobeithio fy mod I derbyn, dw i'n byw yma ers un deg chwe mlynedd.
-
Roeddwn i'n arfer byw yn Aberystwyth a Chaerdydd, y de yn bendant.
-
Felly, rwyt ti'n gontw? :D
Ie, mae caerdydd yn y de one be am Aberystwyth?nage y ganolbarth sy 'na?
-
Dwi'n newydd yma. O Ynys Mon yn wreiddiol ond yn byw yn Yr Wyddgrug rwan. Gweld hi'n anodd iawn ymchwilio ochr Gymraeg y teulu. Da ni ddim efo llawer o ddychymyg gyda enwau dwi di ffeindio!
-
Yn dda cael cyfle i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg. Albanes ydw i ond gwnes i fyw yng Nghymru am 20 mlynedd. Pob hwyl i bawb sy'n dysgu - dyfal donc a dyrr y garreg!
Albanes ydy mam hefyd ac wedi dysgu Cymraeg! Mae hi'n rhugl erbyn hyn.
-
Croeso i'r fforwm Cymraeg Celtes. A'i chdi di'r u'n Celtes sydd yn postio ar y Weplyfr a Thrydar o dan yr un enw?
-
Diolch!
Dwi yn tueddu i ddefnyddio Celtes bob man.... Ond celtes21 ydw i ar trydar.