RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Hughes17 on Thursday 02 July 09 21:45 BST (UK)
-
Chwilio am ddisgynyddion o deulu Sennar neu unrhyw wybodaeth am y Factri Wlan yn Pentir, Bangor.
-
'Sennar Pentir' ar Google yn rhoi un cysylltiad yn syth o Genuki, enwau, dyddiadau. Mae'n rhyfedd weithiau mor effeithiol ydi'r peiriant.
Pob hwyl,
Pinot :)
-
Diolch yn fawr am y 'tip' - yn anffodus dim gwybodaeth newydd yma
-
Mae fy modryb yn hannu o deulu Sennar Botwnnog.
-
Un o deulu Joseph Sennar yw eich modryb felly, roedd o'n fab i George a Jane Sennar Factri Pentir. Rwyf yn un o ddisgynyddion Anne Sennar, chwaer Joseph.
-
Mr Hughes
Mae'n ddrwg na fedraf helpu gyda disgynyddion Sennar ond dwi'n gobeithio efalla y fedrwch chi fy helpu fi. Mi wnai drio bod yn fyr!
Mae yna reports yn yr Herald etc yn Mehefin 1915 am Robert Williams, oed 38, o Caledffrwd Terrace, Clwt y Bont a gafodd ei ladd tra gyda 1st Bn, RWF yn yr ymladd fyrnig yn Festubert ar 16 o Fai 1915.
Yn ol Soldiers Died Great War a Roll of Honour y RWF dwi'n cael Pte 5877 Robert Williams a oedd wedi ei eni yn Anfield, enlistio yn Seaforth ond efo 'residence' o Glasinfryn.
Problam ydi fod y CWGC yn ei ddangos o fel wedi marw 16/5/1916
Mae y CWGC hefyd yn deud 'Son of the late Mrs. Margaret Sennar' ac ei fod yn 37 oed.
Mae'r bwriad gennyf o berswadio y CWGC fod y flwyddyn ar ei gwefan yn anghywir (h.y 'typo' , rhywbeth dwi wedi ei weld yn amal ac wedi ei gywiro)
Ydach yn adnabod y Margaret Sennar a Robert Williams yma? Buaswn yn hoffi fod yn siwr berffaith mai Robert Williams, Caledffrwd Terrace ydi'r Robert Williams efo rhif 5877.
Gyda llaw, tydio ddim ar gofgolofn Deiniolen ond mae o ar un Capel Dysgwylfa sydd yn fynwant Macpellah rwan.
Diolch
Gwil
-
Mi wyddwn am sawl Margaret Sennar. Yr un dwi meddwl sydd fitio orau ydi'r un sydd yn ymddangos ar y census yn 1901 yn byw yn Glasinfryn ac yn wraig i William Sennar. Mae'r sillafu yn anghywir ac yn ymddangos fel 'Sener', mae'n "baker". Mae Margaret yn enedigol o Ebenezer (Deiniolen - fel y gwyddoch dwi'n siwr), mae dwy ferch yma hefyd Susan J Thomas ac Elizabeth Thomas yn ogystal a phlentyn wedi ei mabwysiadu. Yn amlwg, dydi William Sennar ddim yn dad i'r plant. Mae Margaret wedi priodi oleiaf dwy waith ac mae'n bosib fod Robert Williams yn blentyn siawns neu o briodas blaenorol.
Gobeithiaf fod hyn rhywfaint o help.
O.N. Dydi William nac Margaret Senner wedi eu claddu yn mynwent Pentir
-
Diolch am yr ymateb.Dwi bron yn siwr na fo ydio.Hwyrach daw y census 1911 a fwy o atebion i mi pan ddaw hwnnw yn rhatach.
Fel mater o ddiddordeb i chi ac ardal Pentir/Glasinfryn. Mae cof golofn Capel Tabernacl, Deiniolen rwan yn fynwant Macpellah. At gefn y golofn mae enawa dau o hogia Caerhun. William John Roberts, Tyddyn Llywelyn a Evan Roberts, Llain. Swi di gael fy roid ar ddallt (ond ddim wedi cadarnhau yn siwr)mai colofn yn wreiddiol i un o Gapeli Caerhun oedd hi ond fod y saer maen wedi ei hail ddefnyddio pan nad oedd taliad i gael. Gyrrwch eich email i mi trwy's pm os ydach eisia llynia.
gwil
-
Yr wyf yn hanu o deulu Joseph Sennar, Ffatri, Nant y Golchi, Llanfihangel Bachellaeth, ac wedi bod yn hel achau yr hen deulu am flynyddoedd. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi rhoi nodun i chi trwy "Ancestry" Hughesaid rhai misoedd yn ol. Gwraig Robert Sennar ydi Mary Ann Hogarth.
Ydach chi yn gyfarwydd a teulu Elizabeth Sennar (1818) a briododd John Roberts? Nid wyf wedi ffeindio dim am ei theulu.
Hwyl Fawr
Hefin
-
Hefin,
Dwi yn cofio derbyn neges drwy ancestory ond methu ffeindio fo yn fy inbox bellach. Os hoffech chi gysylltu a fi unwaith eto, buaswn yn fodlon iawn i ddatgelu fy ngoeden i.
Dylan
-
Ganwyd fy hen nain i yn Ffatri Pentir yn 1878 yn ferch i Ann a Robert Thomas, ac o fod wedi edrych mewn i hanes y teulu, roedd Jane a George Sennar yn perthyn i mi. Roedd Jane Sennar yn hen, hen, hen, hen nain i mi. Mae'r llinach yn rhedeg o Anne Williams (Sennar cyn priodi).
Rwyf wedi cael y wybodaeth yma oddi ar y Census a hefyd o dystysgrif geni fy hen, hen, hen nain - sef Ann Thomas. Roedd fy hen nain yn byw yn ffatri efo William Williams, wyr Jane a George Sennar - gwybodaeth oddi ar Census 1881. Mae carreg fedd Jane a George Sennar yn yr hen ddarn yn Eglwys Pentir. Bu farw Jane (a oedd yn hanu o Llangwm) yn 1866 yn 91 oed.
-
Burgess 1,
Rydw innau yn dod o briodas Robert Williams ac Anne Sennar drwy Margaret sef chwaer Anne ac Williams Sennar Williams. Dwi wedi gwneud dipyn o waith ar ochr Sennar ac Williams, felly buasai'n braf cael cymharu feithiau. Mi wnai gysylltu eto drwy pm.
-
Hughes17
"...... wybodaeth am Factri Wlan yn Pentir, Bangor"
Dw i wedi dod o hyd i'r cyfeiriad canlynol -
Slater's Directory of Glos, Herefs, Mon, Shrops & Wales 1868
Sennar Ann woollen manufacturer, Bethseda
cofion cynnes
-
Dwn i ddim os ydach chi'n gwybod ond mae hen lyfrau am Waen Gynfi yn son am Felin Pentir lle aeth hi i'r gyfraith rhwng Thomas Lewis* o'r fan honno a Griffith Thomas perthynol i Felin Hen, Llandegai** dros hawlia dwr o'r Marchlyn Bach. 'Roedd/Mae man lled agos i Marchlyn Bach a alwyd yn troiad y dwr ac dros y fan honno roedd y taeru yn y cwrt. Hyn o gwmpas 1810/20 felly mi fuasai wedi bod yn bosib dod a ffos ar hyd ochra Foel Rhiwen gan fod dim son am bentra Ebenezer (Deiniolen) adeg yna.
Fedrai rhoid disgrifiad sut i weld y lleoliad ar y mapia satellite os dymunwch a gewch chi weld sut mae'r afonydd yn rhedag oddi yna. Dwi di bod yn meddwl llawer tro lle fysa'r ffos yn dechra gan fod Afon Goch ar y ffordd yn y rhan ucha h. y os nad oedd hi yn cael ei chario dros honno. Mae yn gefn fy meddwl i fy mod wedi gweld am honno yn cael ffos allan ohoni am y Felin ond fedraim cofio lle welais i hynny ar y funud.
* ai dyma lle mae'r cyfenw Thomas yn hannu bellach ymlaen? (Patronymics)
** efo Stad Faenol tu cefn i un a Stad Penrhyn i'r llall.
Gwil
-
Ar hen fapiau mae dwy felin i'w gweld a'r lan gogleddol o afon cegin ym Mhentir. Roedd un yn cynhyrchu blawd ac y llall yn cael ei gyfeirio at fel Factri Wlan pentir. Roedd y Sennariaid yn cynhyrchu defnyddiau gwlan yn y fatri rhwng 1810 ac 1891. Dwi'n meddwl mae'r felin flawd sydd dan sylw yn yr hen lyfrau am Waen Gynfi.C
Credaf fod adfail yr hen ffactri dal yn sefyll ac does dim tystiolaeth fod olwyn ddwr di bod yno i pweru'r ffatri. Mae'n debyg felly na defnyddio'r afon i olchi gwlan yn unig yr oeddynt ac yn defnyddio olwyn troed i droilli'r gwlan.
Mae'n ddidorol fod y Factri Wlan yn cael ei gysylltu gyda Bethesda yn y directory. Hyn yn awgrymu fod Bethesda yn lfwy pwysig na Bangor yn y cyfnod hwn.
-
Wedi cael cip olwg arall ar un or llyfrau dwi'n gweld mai y felin flawd sydd dan sylw fel yr awgrymwch.
(Doedd unai Fangor neu Fethesda mor bwysig a Llanbabs!! :D )
-
Burgess 1,
Wedi trio danfon mwy o pms on wedi methu oherwydd "max pm limit". A allwch ddanfon rhywbeth yn ol i mi, os gwelwch yn dda.
-
Diolch yn fawr i chi am y wybodaeth ar y pm. Ymddiheuriadau nad ydw i wedi cael cyfle i roi'r wybodaeth yr wyf wedi'i gasglu. Gobeithio'n fawr y gallaf wneud hynny at y penwythnos. Gyda llaw, mae gennyf syniad o ran lleoliad y ffatri - lawr Lon Dywyll ym Mhentir (wedi cael gwybod hynny gan rywun sydd wedi'i magu yn Rhiwlas). Dydw i ddim wedi bod lawr yno eto, ond yn gobeithio gwneud hynny dros yr haf.
-
Maer adfael y ffatri (dwi'n credu) ar ochr y llwybr cyhoeddus sydd yn rhedeg rhwng Bryn Howel (Lon Fudur) ac Ferm Niwbwrch Ar ol pasio tu cefn i ferm Bryn Glas, croesi yr afon ac mae rhyw 50m o ochr yr afon.
-
Mi wnes i gofio ar ol rhoi'r neges mai lawr Lon Fudur oedd y ffatri.
-
Hello Hughes 17 fy enw yw Brian Rees a tydi fy ngymraeg sgwennu fi ddim yn gret ond dwi yn siwr newch fy ddeallt, rwyf yn byw yn Pwllheli ar ben llyn,a roedd mam fy nhaid yn Sennar ,sef Agnes Sennar.(1854-1927) fe symydodd ei thad Joseph(1813-1873) o FFatri Pentir yn 1847efo ei wraig Mary (o Heneglwys Sir Fon) i rhedeg Ffatri wlan arall sef Ffatri Saethon yn Nanhoron.I wneud brethin(tweed). Dwi wedi gwneud llawer o umchwel i'r teuly. ond gawn fynd i mewn i hynnu eto.
Mae yna stori gan fy nhad na teuly o'r Alban(Scotland) oedd y Sennar's a dyna syd roeddant yn gwneud y brethin. Ond roedd TAD y Joseph sef George(1780-1841) o Ysceifiog ai wraig Jane(Wynne gynt) o LLangwm , Corwen, a roedd ei dad o sef Joseph wedi ei enni tua 1755. Felly mae Alban yn bellach yn ol tipin eto??? cadwch yn cysyllt BJ
-
neges (pm) wedi ei ddanfon i bjr5
-
Dylan Diolch am yr ymateb, Rhys(Rees )Jones oedd fy nhaid, or holl blant gath Agnes Sennar ond fy nhad i Douglas a David mab y ferch hynna Jane oedd yna,roedd y gweddith(6) yn ddi blant. Hefyd ,allan o 8 plentyn oedd gan Joseph Sennar ond George oedd yn hogyn,felly fel roedd y merched yn priodi ,roedd yr enw Sennar yn gorffen.
Os yw Hefin eisiau gwybod rhiwbeth am yr ochor yma on teulu,well ond gofyn Diolch Brian Rees Jones
-
Dim mwy iw ychwanegu heblaw bod hyn yn ddifyr iawn i mi, fel rhywun a'm ganed a magwyd yn Rhiwlas. :)
-
Manonros,
Mae na sawl person yn byw yn Rhiwlas sydd a "gwaed" Sennar ac ddim yn ymwybodol o'r cyfenw na'r cysylltiad teuluol.
-
Rwyf yn hanu o deulu Roberts Rhydgaled, Llangian. Priododd Thomas R Jones mab William Jones a Mary Rhydgaled gyda Mary Sennar g. 1846 Pentir. Bu William a Mary Jones a'u plant yn byw yn Cae Eithin, Llanddeiniolen.
-
wedi dod ar draws y drafodaeth yn ddiweddar. Wrth chwilio i hanes y teulu wedi darganfod bod brawd fy nhaid, John Roberts, wedi priodi merch o'r enw Gaynor. Roedden nhw'n byw ym Mhorthmadog. Bu Gaynor farw yn 1931 yn 48 mlwydd oed. Mae'r adroddiad papur newydd yn enwi ei brodyr fel Joseph Jones, Chwilog, Thomas Jones, Tudweiliog, Richard Jones, Edern, a George Senar Jones, Abersoch. Oes yna gysylltiad yma i'r teulu Senar yma?
-
Oes, mae cysylltiad, maent yn blant i Thomas Robert Jones a Mary Sennar. Gofaint oedd y brodyr, yn hannu o deulu efail Rhydgaled, Llangian.
Rhieni Mary yw Joseph Sennar a Mary Jones, ffatri wlan Pentir a Nanhoron.
-
http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/home
Cwpl o eitemau ynglŷn â "Sennar" e.e Cambrian News & Merionethshire Standard, 8fed Gorffennaf 1904
-
Rwyf yn hanu o deulu Roberts Rhydgaled, Llangian. Priododd Thomas R Jones mab William Jones a Mary Rhydgaled gyda Mary Sennar g. 1846 Pentir. Bu William a Mary Jones a'u plant yn byw yn Cae Eithin, Llanddeiniolen.
Roedd fy hen nain hefyd yn hannu o deulu Rhydgaled, Llangian sef Jane merch Catherine (merch Thomas ac Elizabeth) - ai mab THomas ac Elizabeth yw'ch perthynas chi Robert?