RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Saturday 21 November 09 12:30 GMT (UK)
-
A oes gan unrhyw un wybodaeth am gyn-deidiau neu disginyddion y gwr hwn - ffermwr?
-
Dim ond beth sydd i'w weld yn y cyfrifiadon. Mae o'n hawdd iawn ei ffeindio o 1841 ymlaen, on mae'n debyg eich bod wedi'u gweld yn barod. os ddim, gadewch I mi wybod.
Tecwyn :)
-
Tydw i ddim yn siwr be dwi wedi weld, a be dwi heb weld, os ydach chi'n dallt !
-
Dyma nhw i chi eto ta! Yn fyr:
1891
Ismael 68
Mary 68
Mary 23
Cyfeiriad: Trefaes
1881
Ishmael 59
Mary 59
Ellin 23
Lewis 21
Mary 13
Robert Hughes (nai) 7
Cyfeiriad: Tynycoed
1871
Ishmael 48
Mary 48
Ellen 13
Lewis 11
Janet 9
Thomas 6
Mary 3
Cyfeiriad: Tynycoed
1861
Ishmael 38
Mary 38
Robert 12
Jane 10
Ellinor 4
Lewis 1
Cyfeiriad: Tynycoed
1851
Ishmael 28
Mary 28
John Lewis 4
Robert 2
Cyfeiriad
Ar wahan i'r nai yn 1881, mae'r cyfrifriad yn cyfeirio at y plant i gyd fel meibion a merched i Ishmael Mary, gan gynnwys John Lewis yn 1851.
Mae hwn wedi mynd yn hir iawn, felly mi anfonai'r gweddill mewn post ar wahan.
Tecwyn.
-
Diolch o galon.
-
Ail ran!!
1841
John Lewis 55
Janete Lewis 55
David Jones 20
Ishmael Jones 15 (cofiwch bod yr oedrannau wedi cael eu "rowndio'i lawr".
Cyfeiriad: Rhendy (braidd yn aneglur)
Dyfaliad ydi hwn; ond mae'n bosib bod John Lewis wedi ei eni i'r cwpwl cyn priodi, ac efallai bod na berthynas a'r Lewis yn 1841.
Yn olaf, gannwyd y cwbwl lot ym Meyllteyrn ar wahan i'r fam Mary. Ganned hi ym Motwnnog.
Hwyl,
Tecwyn.
-
Diolch yn fawr iawn
-
Mae 'na 4 cyfrifiad o Ly^n yn fan hyn, ac am ddim, a llawer o bethau diddorol, yn cynnwys 'Llyfr ymwelwyr', ble mae rhai yn gadael sylwadau, eraill yn gofyn am help.
http://www.rhiw.com/Map_or_Safle.htm
Hwyl,
Pinot :)
-
Rwyf newydd gychwyn ymchwil coeden deulu ac mae Ishmael Jones yn 3x hen daid i mi trwy Jane ei ferch. Mae gen i yr holl wybodaeth o'r Census', ac roeddwn i yn meddwl os roeddech wedi llwyddo darganfod unrhywbeth ychwanegol?
-
Ishmael Jones oedd fy h-h-daid i . Mi wnaeth fy nhad gael hyd i dipyn o wybodaeth arno.
Dwi'n gwybod pwy oedd pob un nain a taid iddo, a phob un nain a thaid i'w wraig Mary. Mi wnaeth chwaer fy nain (dwi'n meddwl) ysgrifennu pwy oedd llawer o'i gefndryd ayb hefyd. Mae croeso i chi gael gwybod y cyfan. Handi cael enw fel 'Ishmael' yn lle 'John' 'Richard ' ' David' !
Perthyn i'r ferch Elin(or) ydw i . Mi wnaeth hi symud i fyw i Tywyn, a symud mae pawb arall wedi gwneud wedyn.
-
Bethan : A oeddech yn dymuno cael mwy o fanylion am y gwr hwn ?- mae gennyf dipyn golew .
-
Huwcyn rwyf wedi anfon neges preifat atoch.