RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: malijibic on Sunday 15 April 12 23:47 BST (UK)

Title: Capel Nebo, Glantwymyn, Maldwyn yn 100 eleni
Post by: malijibic on Sunday 15 April 12 23:47 BST (UK)
Gwn nad oes gan y cwestiwn ddim i'w wneud ag hel achau ac ymddiheuraf am hynny. Ond mi ydwi yn methu yn lan a chael ateb i'r cwestiwn "Pryd yn union yn 1912 yr agorwyd y Capel"
Wedi holi yn y Llyfgell yn Aberystwyth, Undeb yr Annibynwy Cymraeg, ArchifdyPowys a coflein ond yn methu cael ateb. Wedi treulio oriau yn y llyfgell yn darllen Y Tyst 1912 (i fyny i Awst). Bydd yn rhaid cael diwrnod arall i ddarllen Awst i Rhagfyr!!
Meddwl wrth bori fan hyn, falla bod yna rywun yn rhywle yn gwybodac os na wnai ofyn chai ddim gwybod.
Title: Re: Capel Nebo, Glantwymyn, Maldwyn yn 100 eleni
Post by: pinot on Monday 16 April 12 00:02 BST (UK)
Fallai mai'r newyddion yn y papur rhanbarthol wythnosol (ble bynnag mae'r rheiny ar gael) - y Cambrian News, tybed? - fyddai'r ffynhonell orau; pob lwc ar y chwilio.
                Pinot
Title: Re: Capel Nebo, Glantwymyn, Maldwyn yn 100 eleni
Post by: cennydd on Saturday 14 February 15 21:19 GMT (UK)
Mae achos Annibyniaeth yma yn mynd yn ol i 1816 mewn ty or enw Tynrhos. Codwyd capel ar tir Cefn coch gan Richard Jones ond nid oes gennyf ddyddiad ac lle oedd o. Codwyd capel arall a agorwyd 28/29 Meh 1870