RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: gatalhir on Tuesday 05 February 13 18:08 GMT (UK)
-
Yn ystod y Canol Oesoedd 'r oedd y llinach hon yn byw rhwng Beddgelert a'r Abermaw. Eisioes mae un adain yn diweddu yn Llanfihangel y Traethau tua 1620 - Bu farw Evan ab Humphrey yn 1684 a'i wraig Elizabeth Edward yn 1677. 'Mae'n llinach yn gywir o'r fan yma ymlaen ( tanysgrifau Esgobion ).
Mawr byddai'n nyled am unrhyw wybodaeth e.e ystyr Catal Hir . A ddoth y llwyth o Gatalonia ?
Diolch gyfeillion.
-
Yn ól "Y Geiriadur Prifysgol Cymru" (ar gael ar lein) -
Catal - gweler Catel
Catel - enw torfol ac weithiau enw benywaidd: lluosog - oedd, - au, - ion
1. chattels, property, material
c.1400
2. live stock, cattle
1671
Fel arall, dim clem 'da fi!
-
Diolch yn fawr gyfaill am y wybodaeth.
Yn amlwg fod fy hen deulu'n drigolion o'r adal " Ardudwy " gyda chymysgedd o ddiddordebau amaethyddol a morwrol. 27 o Gapteini llong er engraifft.
Mae cysylltiad trwy brodas hefo Love Parry ac hefyd y Lasynys.
Wrth gwrs dim ond un rhan o'm teulu yw hwn.