RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Friday 07 June 13 07:15 BST (UK)
-
Oes yna rhywun wedi clywed am yr uchod erioed, ogdd ? . Mae rhywun o'r UDA yn holi amdano.
Mae'n tybio ei fod yn gapel Presbyteraidd yn yr ardal o gwmpas Bangor a Chaernarfon.
-
Heb glywed am y capel fy hun. Y lle i ganfod wybodaeth am y capel byddid yng nghyfres William Hobley "Hanes Methodistiaeth Arfon"
-
Dim son amdano yn yr un o'r cyfrolau. Tybed os mai capel Wesla neu Annibynnwyr fydda'r lle. Dwi'n meddwl fod yna rhyw ddryswch wedi digwydd ochr arall yr Iwerydd.
-
Mi welais i hwn ar Google sydd yn edrych yn obeithiol:
"griffith, david - The National Library of Wales :: Dictionary of Welsh ...
wbo.llgc.org.uk/en/s-GRIF-DAV-1794.html
He m. the daughter of Bryn farm , Llanfair-is-gaer , and settled in her home, farming and ministering to Bethel and the neighbourhood. He soon became very well ..."
Yn anffodus mae gwefanau y Bywgraffiadur a'r Dictionary of Welsh Biography i lawr ar hyn o bryd a does dim modd chwilio ymhellach ar hyn o bryd i wirio enwad David Griffith. Er mae'n bosib bod y Bethel dan sylw yw'r capel yr enwyd pentref Bethel ar ei hol.
-
Capel Annibynnwyr ydi o , dwi'n meddwl. Mae'n gwneud synnwyr. Mae Bryn tua 200 llath o Griffiths Crossing. Diolch yn fawr iawn .
-
Capel Annibynnwyr ydi o - mae'r cofrestr bedyddiadau ar gael ar Ancestry neu yn archifdy Prifysgol Bangor. Mae rhestri aelodaeth ac adroddiadau capel yn archifdy Caernarfon.