RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Dolgellau on Tuesday 11 June 13 06:40 BST (UK)
-
Pwnc sy'n codi'n achlysurol wrth drafod hanes teuluol Cymreig yw llun eiconig Salem gan Sydney Curnow Vosper. Mae nifer ohonom yn perthyn neu'n ddisgynyddion i'r cymeriadau sydd yn ymddangos yn y llun.
Hwyrach bydd gan y sawl syn byw yn neu am ymweld ā Gwynedd dros yr haf diddordeb mewn gwybod bod y llun ar fenthyg i Oriel ac Amgueddfa Gwynedd ym Mangor ar hyn o bryd ac y bydd yn cael ei arddangos yno o 29 Mehefin i 12 Hydref 2013.
Gan fod y prif gymeriad, Siān Ty'n y Fawnog, yn chwaer yng nghyfraith i fy hen hen daid mae copļau o'r llun ar waliau fy nghar wedi bod yn rhan o'm bywyd o'r cychwyn cyntaf. Nid ydwyf yn cofio adeg pan nad oeddwn yn ymwybodol o'r darlun. Rwyf yn wirioneddol yn edrych ymlaen at gael gweld y llun gwreiddiol am y tro cyntaf.
Mae manylion pellach am yr arddangosfa a dulliau cyswllt am wybodaeth bellach i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Gwynedd:
http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?doc=30128&Language=2&p=1&c=1
-
Newyddion da.
Diolch
-
Diolch Dolg; difyr clywed.
-
A yw'r amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn ? . Dwi'n cofio clywed rhywbryd sut yr aeth y darlun mor boblogaidd yng nghartrefi Cymru, ond alla i ddim yn fy myw gofio. Mi 'roedd o'n ty taid a nain a phob un o'r miloedd antis oedd gan rhywun.
-
Dyma amseroedd agor yr Oriel
Llun Cau
Mawrth 12.30-4.30yh
Mercher 12.30-4.30yh
Iau 12.30-4.30yh
Gwener 12.30-4.30yh
Sadwrn 10:30-4:30yh
Sul Cau
Un o'r rhesymau pam fod y llun mor boblogaidd yw oherwydd bod print ohono yn cael ei gynig fel gwobr am gasglu labeli o Lever's Sunlight Soap (A dyna paham mae cartref parhaol y llun yw Oriel yr Arglwyddes Leaver yn Portsunlight, ger Lerpwl)
-
Dyna ni ! Mae'n rhaid fod yr hen Gymry'n bobl lan iawn, bethbynnag ! .