RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: trystan on Wednesday 22 January 14 14:41 GMT (UK)

Title: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: trystan on Wednesday 22 January 14 14:41 GMT (UK)
Mae'n ddiddorol i ddarleen am y Papur newydd cymraeg cyntaf, y Seren Gomer 200 mlynedd yn ol yn yr ardal Abertawe.

Mwy ar y stori yma:

http://www.bbc.co.uk/newyddion/25718498

Ac manylion am ddarlith gymraeg ar Ionarwr 30ydd 2014 (yn Abertawe): http://www.menterabertawe.org/digwyddiadau/1194/

Pob hwyl,
Trystan
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: pinot on Thursday 23 January 14 00:42 GMT (UK)
Diolch am y nodyn, Trystan; cofio dysgu am Seren Gomer yn yr ysgol, ond mae sylwadau Dr Morgan yn ddiddorol iawn - yn enwedig y creu geiriau newydd.
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: trystan on Saturday 25 January 14 23:00 GMT (UK)
Dim problem o gwbwl! :) Fydda chdi gally mynd i glywed y darlith yn Abertawe ar dydd iau o gwbwl? Fyase reit diddorol clywed amdan yr hen bapur!

Trystan
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: pinot on Sunday 26 January 14 01:23 GMT (UK)
Dim gobaith, mwya'r piti! Byw yn y pen arall i'r wlad . . .
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: hanes teulu on Friday 31 January 14 10:34 GMT (UK)
Es i ymlaen neithiwr - ardderchog. O'dd Prys Morgan yn ddiddorol a doniol.

Ar ôl y darlith o'dd pleidlais (gair arall a greuodd Joseph Harris yn ôl y darlithydd!!). Y cynnig?
"Prifddinas yr inc - Caernarfon neu Abertawe?". Pidwch gofyn "pwy ennillodd?"

cofion cynnes
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: trystan on Friday 31 January 14 11:18 GMT (UK)
Caernafon wrth gwrs!  :) Ardderchog - yn falch i glywed eich wedi gallu mynd i'r dalith ac wedi mwyhnau y testyn.

Trystan
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: hanes teulu on Friday 31 January 14 11:32 GMT (UK)
Caernafon wrth gwrs! 

Trystan

'Dw I ddim YN meddwl - hyd yn oed ar ôl y "recount"
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: trystan on Friday 31 January 14 11:43 GMT (UK)
Na, wrth gwrs, ond i feddwl yr efaith da fuase wedi cael ar y dre!  :)
Title: Re: Papur newydd Cymraeg cyntaf - 200 mlynedd yn ol
Post by: confused73 on Saturday 01 February 14 23:59 GMT (UK)
Mae o 'n ddiddorol iawn Trystan, dwi ' mwynhau yn darllen hwn.