RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Dolgellau on Friday 11 April 14 16:39 BST (UK)

Title: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: Dolgellau on Friday 11 April 14 16:39 BST (UK)

Yng Nghyfrol gyntaf Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd mae yna gyfeiriadau at fy 5ed hen daid Siôn Evan Tywyllnodwydd Pennal. Mae'r gyfrol yn son bod Siôn wedi chware ran blaenllaw mewn cyflwyno'r achos Methodist yn Llanwrin Sir Drefaldwyn tua diwedd y 18fed ganrif.

Oes yna gyfrolau tebyg i rai Meirionnydd sydd yn adrodd am hanes Methodistiaeth yn Sir Drefaldwyn lle gallwn chwilota am ragor o hanes Siôn Evans?
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: pinot on Saturday 12 April 14 22:46 BST (UK)
Gweld wrth Gwglo 'Methodistiaeth Sir Drefaldwyn' nifer o gysylltiadau allai fod yn berthnasol; bydd llawer o hysbysebion llyfrwerthwyr yn ymddangos yn 'Y Casglwr' allai fod o ddefnydd.
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: Dolgellau on Sunday 27 April 14 08:12 BST (UK)
Diolch Pinot. Dal heb gael gafael ar Hanes Methodistiaeth o Sir Drefaldwyn yn benodol, ond daeth llyfr trwy’r post ddoe o un o'r llyfrwerthwyr ail law ar Hanes yr achos trwy Gymru gyfan, oedd yn sôn am fy hynafiad.
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: pinot on Sunday 27 April 14 23:33 BST (UK)
Da clywed!  :)
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: cennydd on Saturday 24 May 14 23:49 BST (UK)
Mae yna lyfr ar Hanes Methodistiaid Trefaldwyn Isaf ddim yn siwr oes yw yr ardal Llanwrin yn y dalgylch yma
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: cennydd on Sunday 25 May 14 00:04 BST (UK)
Mae yna hefyd Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf gan Richard bennett 1929. Edward Griffiths awdur Trefaldwyn Isaf
Title: Re: Hanes Methodistiaeth Sir Drefaldwyn
Post by: Dolgellau on Sunday 25 May 14 03:13 BST (UK)
Dolch o galon Cennydd, af ati i chwilio am gopïau yn y siopau hen lyfrau ar lein.

Mae'n siŵr bod 'na gopi yn y Llyfrgell Genedlaethol. Un o'r pethau tu hwnt i'm dirnad i yw pam nad ydy'r Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi eu holl gasgliad o "Hanes Capel" a "Chofiant a Phregethau" ar lein.

Maent yn llyfrau hynod ddiflas i'w darllen o glawr i glawr, ond ew mae 'na ambell i wythïen aur o hanes teulu ac hanes lleol yng nghyrff llawer un! Ac ar-lein mae'r ffordd gorau i ganfod eu trysorau.