RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: catringoch on Saturday 28 November 15 21:39 GMT (UK)

Title: Unrhyw un yn mynd i Archifdy Sir Fon yn reit aml?
Post by: catringoch on Saturday 28 November 15 21:39 GMT (UK)
Oes unrhyw yma sy'n mynychu Archifdy Llangefni o dro i dro? Mae na lythyr yno hyn son am un o fy mherthnasau (dogfen eglwys sy'n cesio cael nhw allan o dy ym Llanbedrgoch / Pentraeth). Mae gen i'r manylion i gyd, ac mi oeddwn i'n gobeithio bod rhywun yma yn ddigon agos i fynd yno i dynnu llun o'r ddogfen i mi.
Dw i braidd yn bell yn Llundain!

hwyl am y tro
Catrin

Title: Re: Unrhyw un yn mynd i Archifdy Sir Fon yn reit aml?
Post by: EmyrBorth on Sunday 29 November 15 09:47 GMT (UK)
Hi
Mi fum yn Archifdy Mon ryw ddwy waith tua 3 blynedd yn ol. Os 'dwi'n cofio'n iawn, oedd hi ddim yn bosib cael ffotogopiau, am y rheswm y gall y broses fod yn niweidiol i rai dogfennau. 'Roeddynt yn caniatau tynnu lluniau ar gost o £5 yr ymweliad; hefyd fe fuasai nhw yn tynnu llun a'i roi ar ddisg, am  £3.
Cysylltwch efo'r Archifdy i edrych be 'di'r drefn bresennol. Hwyrach bod y wybodaeth ar eu gwefan.
Emyr
Title: Re: Unrhyw un yn mynd i Archifdy Sir Fon yn reit aml?
Post by: catringoch on Sunday 29 November 15 10:01 GMT (UK)
Diolch Emyr,
Dw i am gysylltu hefo nhw i holi mwy. Hapus i dalu nhw am y copiau, neu mi fydde transcript yn iawn hefyd.

Catrin