RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Lleucu on Saturday 14 October 17 17:17 BST (UK)

Title: claddu
Post by: Lleucu on Saturday 14 October 17 17:17 BST (UK)
Wedi bod yn trio dod o  hyd i le y claddwyd Edward ac Eleanor Andrew. R'oeddynt yn byw yn Tanglws, Llanerfyl yn 1771. Ni allaf ddod o hyd iddynt yn 1881 a tybiaf iddynt farw yn y cyfamser.
Ganwyd Edward yn Llanwyddelan ac Eleanor yn Manafon.
Buaswn yn falch o gael unryw syniad - diolch ymlaen llaw.
Lleucu
Title: Re: claddu
Post by: Sam Swift on Saturday 14 October 17 20:14 BST (UK)
Mae yna Edward Andrew wedi ei gladdu yn Llanwyddelan - 19 Gorffennaf 1775. Does na ddim Eleanor Andrew yn yr un fynwent.

Mae yna Eleanor Andrew wedi ei chladdu yn Llanllugan Ebrill 23ain 1793

Nodir nad yw'r dyddiad geni na'r cyfeiriad wedi eu cofnodi yn y ddau cofnod hyn.
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Saturday 14 October 17 20:21 BST (UK)
Beth am y cofrestriad y marwolaethau 'na

Edward Andrew, 80, Mar Qtr 1880, Newtown, 11b  165
Eleanor Andrew, 64, Mar Qtr 1876, Llanfyllin, 11b  185 

Mae eu hoedau'n ffitio'r Cyfrif 1871   
Title: Re: claddu
Post by: Sam Swift on Saturday 14 October 17 22:02 BST (UK)
Oeddech chi'n meddwl 1871 yn hytrach na 1771 ???
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Sunday 15 October 17 08:54 BST (UK)
Cyfrif 1871 (RG10  5627  39  20)

Cyfeiriad - Tanglws, Coedtalog, Llanfyllin

Edward Andrew, Head, 69, Farmer of 129 acrees, b. Llanllugan
Elenor Andrew, Wife, 58, b. Llanllugan
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Sunday 15 October 17 10:05 BST (UK)
'Dw i wedi dod o hyd yr ewyllys ganlynol

Year - 1880
Name - ANDREW, Edward, Personal estate under £300
"1 March The Will of Edward Andrew formerly of the New Inn but late the village of Kerry both in the Parish of Kerry in the County of Montgomery who died 19 January 1880 at Kerry was proved at Shrewsbury by Anne Andrew of Kerry spinster, the neice the sole Executrix.

Dim sôn am ei oed ond

Cyfrif 1871 (RG10  5614  31  20)
Cyfeiriad - Root Inn, Kerry Trellan, Newtown
Edward Andrew, head, age 70
Ann Andrew, neice, age 27

Felly, 'dyw yr Edward Andrew ar cofrestriad y marwolaethau, Mar Qtr 1880, ddim yr Edward o Danglws.

"Dw i'n ymdrin a "1771" fel camgymeriad tan fydd Lleucu'n cadarnhau.
Title: Re: claddu
Post by: Sam Swift on Sunday 15 October 17 10:58 BST (UK)
Ydych chi wedi chwilio Capel Tabernacl Llanfyllin o gwbl ? Mae yna gofnodion bedyddio a all fod am rai o'u plant yng nghapeli Methodistiaid Wesleyaidd.
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Sunday 15 October 17 13:09 BST (UK)
Tan fydd Lleucu'n cadarnhau yn 'wahanol, 'dw i'n meddwl am "1771" fel y camgymeriad yn y sefyllfa 'ma.
Title: Re: claddu
Post by: Lleucu on Sunday 15 October 17 15:33 BST (UK)
Mae'n ddrwg gen i am y camgymeriad - y bysedd ddim yn gweitho fel y dylent!! -  ia , 1871 dylai fod.
Diolch ichwi eich dau am edrych i mewn i hyn.
Mae'r Eleanor Andrew a fu farw yn Llanfyllin yn debygol o fod yr un iawn ac mae'n ddiddorol clywed am
y ddau oedd yn Llanllugan hwyrach fod cysylltiad yna i'w ddarganfod.
Teimlaf nad yw'r Edward Andrew oedd yn Kerry yn berthnasdol -wel, hyd y gwn i hyd yn hyn.
Diolch yn fawr.
Lleucu
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Sunday 15 October 17 16:07 BST (UK)
Diolch am egluro.

Cofrestriad Marwolaeth
Edward Andrews, Dec Qtr 1879, age 79, Llanfyllin
Title: Re: claddu
Post by: Lleucu on Sunday 15 October 17 22:36 BST (UK)

Diolch  yn fawr Hanes Teulu ,mae'n  debyg y gallai o fod yr Edward yr wyf yn chwilio amdano ( mae na  fwy nag un ohonynt!!).
Hwyrach nad oes ganddynt garreg bedd a bod  hi'n ofer chwilio ond mae nhw yn rhywle ac mi hoffwn wybod ple.
Hwyl a diolch,
Lleucu
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Sunday 15 October 17 22:46 BST (UK)
Croeso a phob lwc.
Title: Re: claddu
Post by: Sam Swift on Sunday 15 October 17 22:58 BST (UK)
Rhowch wybod i ni os wnewch chi llwyddo dod o hyd i'w beddi.
Title: Re: claddu
Post by: hanes teulu on Monday 16 October 17 10:06 BST (UK)
Cymdeithas Achyddol Maldwyn

http://www.montgomeryshiregs.org.uk/index.php/about-us

Mae'n sôn am "...having published virtually all Montgomeryshire memorial inscriptions ..." ond dim gwarant codwyd cerrig beddi i Edward ac Eleanor. Fel arall, bydd rhaid chwilio cofrestrau'r plwyf.
Title: Re: claddu
Post by: Lleucu on Monday 16 October 17 20:19 BST (UK)
Yr wyf yn perthyn i'r Gymdeithas ond yn anffodus nid yw Ed ac Eleanor yn y database ac mae cyfrol
claddedigaethau yn Eglwys Llanerfyl yn gorffen yn rhy gynar! Felly mwy o waith i'w wneud.
O wel, dyna ran or hwyl o archwilio hanes teulu ynte.
Diolch Sam, mi adawaf ichwi wybod os dof o hyd iddynt.
Diolch Hanes Teulu am gynorthwyo.
Hwyl,
Lleucu :)