RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Huwcyn on Sunday 29 October 17 11:12 GMT (UK)
-
Petai rhywun yn dymuno pori mewn cofnodion o'r fath, lle fuasai modd cael hyd iddynt, ogdd ?
A ydynt yn yr un ffurf a sydd i'w gweld yng ngofnodion eglwysig ? Ar y cyfan, capeli Presbyteraidd Gogledd Orllewin Cymru sydd o ddiddordeb i mi.
-
Mae cofnodion anghydffurfiol yn anos i'w ddarganfod na rhai Anglicanaidd. Yn anffodus, mae llawer wedi cael eu colli pan gaewyd capeli.
Mae rhai ar gael ar-lein ar Fynegai Cofnodion Anghydffurfiol Cymru a Lloegr (RG4-8), 1588-1977 trwy https://www.familysearch.org/search/collection/1666142 (https://www.familysearch.org/search/collection/1666142) ac ar safleoedd am dal.
Cedwir rhai cofrestrau anghydffurfiol yn Swyddfeydd Archif y Siroedd a'r Llyfrgell Genedlaethol. Cofnodir y rheiny a archifwyd hyd at 1994 yn llyfr Dafydd Ifan Cofrestri Anghydffurfiol Cymru " (yn anhygoel o ddrud ar-lein, ond ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Cymru). Mae'n werth holi'r archifau lleol a'r Llyfrgell Genedlaethol i wirio eu hadneuon diweddaraf. (Cofiwch 1994 yw'r toriad ar gyfer adneuon nid y toriadau ar gyfer dyddiadau cofnodion).
Nid yw priodasau'n broblem, o 1837 ymlaen, bu'n rhaid i bob priodas cael ei gofrestru, er bod llawer o briodasau anghydffurfiol yn cael eu cofnodi fel "sifil" yn hytrach nag "anghydffurfiol" am resymau gweinyddol.
-
https://www.familysearch.org/wiki/en/Anglesey_Nonconformist_Records
https://www.familysearch.org/wiki/en/Caernarfonshire_Nonconformist_Records
Cliciwch ar y cyswllt - para 2
-
Diolch yn fawr iawn i chi'ch dau.
Dolgellau - ti'n son am safleoedd am dal - pa rai ?
-
Wedi cael "chwip dīn" am eu hybu yn y gorffenol, ond cyfieithwch:
Hynafiaid
a
Chwilio Teulu
.Com
Ond prin iawn yw'r gywbodaeth arnynt nad yw ar gael yn rhad ac am ddim.