RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: pen y bryniau on Sunday 03 March 19 22:11 GMT (UK)
-
Gwerthfawrogu unrhyw wybodaeth am lle o'r enw Penfarch, plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Yn arbennig y cyfnod rhwng 1700 a 1850. Os yn bosib hefyd sut mae darganfod yr hen ddogfennau am y cyfnod hwn.
O bosib fod Penfarch yn rhan o ystad Penylan.
Diolch.
-
Beth am geisio -
Cynefin Tythe Maps - http://places.library.wales
Welshnewspapers ar lein - https://newspapers.library.wales
Welsh Journals - https://journals.library.wales/search/advanced
(onid 'dych chi wedi eu harchwilio nhw yn barod?)
cofion cynnes
-
Diolch yn fawr am ymateb :)
Wedi ymweld a safleoedd hyn. Ar gwefan y papurau, ni'n dod ar draws y cysylltiad i Penfarch yn amal er bod y teulu wedi gadael yr ardal ers blynyddoedd. Y cyfenw ydy Lewis a dyma un arall islaw -
"He came of the Penfarch family, who served the Pantglas Estate for 5 centuries"
Efallai bydd rhaid mynd i Aberystwyth i weld papurau'r ystad.
Diolch