RootsChat.Com

Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: Berwyn on Monday 03 June 19 00:00 BST (UK)

Title: William Pritchard
Post by: Berwyn on Monday 03 June 19 00:00 BST (UK)
Unrhyw wybodaeth am William Pritchard, ganwyd tua 1825 yn Llanrhychwyn. Symudodd i Bethesda i weithio yn chwarel Penrhyn tua 1850. Priododd Elizabeth Jane Roberts. Lladdwyd mewn damwain yn chwarel y penrhyn 10-12-1870.

Title: Re: William Pritchard
Post by: chwiliwr on Tuesday 04 June 19 11:09 BST (UK)
Roedd adroddiad eitha' manwl ar ei farwolaeth yn Baner ac Amserau Cymru (21 Rhagfyr 1870). Mae rhywfaint o'i gefndir yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad hefyd.

https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4269689/4269704/141/
Title: Re: William Pritchard
Post by: Berwyn on Tuesday 04 June 19 14:43 BST (UK)
Diolch, on'i wedi meddwl bod William o Llanrhychwyn yn wreiddiol ond ddim yn bell o Gapel Curig.
Title: Re: William Pritchard
Post by: chwiliwr on Tuesday 04 June 19 20:34 BST (UK)
Mae o hefyd yn ymddangos yn y cyfrifiad ym 1851 ac ym 1861 fel William Prichard, sylwer HEB y T yng nghanol y cyfenw. Mae 1861 yn rhoi enw ei wraig a thri o'i blant.
Title: Re: William Pritchard
Post by: Berwyn on Wednesday 05 June 19 05:30 BST (UK)
Diolch eto, dwi eisioes wedi dod hyd o wybodaeth am y teulu o William Pritchard at heddiw, be oeddwn yn ceisio neud oedd dilyn o y stori yn ol i Llanrhychwyn neu i Gapel Curig.