RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: chwiliwr on Wednesday 14 August 19 15:18 BST (UK)
-
Oes yna unrhywun sy'n gallu lleoli Cynrhos yn Sir Geredigion? Yn ol cyfrifiad 1891 roedd fy hen nain wedi ei geni yno (gweler atodiad). Mewn cyfrifiadau pellach, 1901 a 1911, roedd y lleoliad wedi newid i Lanilar yn un a Phontrhydfendigaid yn y llall. Yn ol hanesion yn y teulu roedd yn hannu o Ffair Rhos. Dwi'n ymwybodol bod y tri man yna yn weddol agos i'w gilydd ac yn tybio felly bod Cynrhos yn yr un ardal.
Neu efallai fy mod yn darllen cyfrifiad 1891 yn anghywir. Oes gan rhywun a gwybodaeth leol well cynnig?
-
? Ty'n y Rhos :
https://maps.nls.uk/view/101608039#zoom=4&lat=4493&lon=3805&layers=BT
trawsgrifio gwael
:-\
-
Diolch am hynny. Efallai, ond tybed fyddai enw ty yn cael ei gofnodi fel man geni ar y cyfrifiad. Dwi'n cymryd mai ty ydy Ty'n y Rhos ond heb adnabod yr ardal mae'n bosib' mai enw ar ardal sydd yma.
Rydan ni yn yr ardal gywir beth bynnag.
-
Anodd credu nad enw ar dŷ yn hytrach nag ardal ydi Tŷ'n y Rhos.
-
Anodd credu nad enw ar dŷ yn hytrach nag ardal ydi Tŷ'n y Rhos.
Mae'r map yn dangos tua 4 tai