RootsChat.Com
Wales (Counties as in 1851-1901) => Cymraeg - Welsh Language => Topic started by: janetswansea on Tuesday 04 August 20 17:09 BST (UK)
-
Roedd fy hen, hen daid o Mur Cyplau, Llangybi yn wreiddiol. Mi symudodd o i fferm o'r enw Bronydd yn agos i Rhiwlas sy'n ychydig o filltiroedd o Fangor - mae'n debyg yn yr 1820s. Bu farw ym 1854 pan roedd yn 63 a felly cafodd e ei geni tua 1790 - 91. Roedd cefnder ganddo o'r enw Evan Pritchard - roedd Evan yn sgwennu emynau (defnyddio'r enw Ieuan Lleyn). Tybed oes gan rhywun cysylltiad i'r teulu 'ma neu yn gwybod rhybeth amdanyn nhw. Diolch yn fawr.
-
Croeso cynnes iawn i Rootschat o Abertawe gwlyb iawn!
'Dych chi'n gyfarwydd â "Welsh Journals"?
https://journals.library.wales
I ddechrau, archwiliwch am "Ieuan Lleyn" - (mae'n bwysig i gynnwys y " " fel rhan y search key).
-
Diolch yn fawr iawn. Diwrnod gwlyb iawn yma yn wir! Syniad da ac efallai bydd y Welsh Journals yn ddefnyddiol i ochrau arall o'r teulu hefyd.
-
Syniad da ac efallai bydd y Welsh Journals yn ddefnyddiol i ochrau arall o'r teulu hefyd.
Heb os.
Lle arall i archwilio yw Welshnewspapers online
Fel Welsh journals, yn fwy nag un 'air yn y Search field, defnyddiwch " " o gwmpas y geiriau.
Pob lwc
-
Diolch am hwn hefyd.
-
'Falle'ch bo chi wedi edrych yn barod ar y Bywgraffiadur ond rhag ofn mae 'na dudalen am Evan a theulu ei fam:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRIT-EVA-1769
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MARC-SIA-1720
Mae 'na hefyd crynodeb ar: http://www.rhiw.com/barddoniaeth_pages/Barddoniaeth/ieuan_lleyn.htm (gyda CD ar gael ganddynt o'i lyfr am ddim)
Darn am ei weithiau eraill yma:
https://books.google.co.uk/books?id=q1SuBwAAQBAJ&pg=PA443&lpg=PA443&dq=evan+pritchard+ieuan+llyn&source=bl&ots=QYYOGHu56T&sig=ACfU3U2Z9d_Qm9udDH-WXFcP47pLNiJx-Q&hl=en&sa=X&ved=2ahUKEwjGg4aPxNLrAhUHzqQKHaSTBUA4FBDoATAJegQICBAB#v=onepage&q=evan%20pritchard%20ieuan%20llyn&f=false
-
Diolch yn fawr iawn. Maen nhw'n edrych yn ddidorel. Mae wedi fy atgoffa fi hefyd am 'patrynomics' hefyd sydd yn gwneud pethau yn annodd!
-
Rwy'n credu taw ewyllys Evan yw hwn. Mae o dan Evan Richards (1840),Ty Mawr Bryncroes.
Cafodd yr ewyllys ei phrofi ym 1840 ond mae'n dwued ar y dudalen olaf y buodd farw ym 1835.
Dyma's dudalen olaf ond gallwch fynd 'nol o hwn i'r dudalen cyntaf http://hdl.handle.net/10107/551054
-
Ewyllys Lewis Charles http://hdl.handle.net/10107/512526
ac ewyllys Mark Charles http://hdl.handle.net/10107/93117
-
Diolch yn fawr am y rhain hefyd.