Author Topic: Darlith- ‘Gwneud argraff: Seliau fel adnodd ar gyfer Ymchwil Hanesyddol’  (Read 5136 times)

Offline den-archives

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 9
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Ym Mhrydain ganoloesol, meddai ddynion a merched trwy gymdeithas ar seliau; goroesa filoedd ohonynt mewn archifau, amgueddfeydd a chasgliadau preifat. Er bod y mwyafrif ohonynt yn fychan, ac yn aml wedi eu difrodi, datgelant wybodaeth am eu perchnogion, yn unigolion neu sefydliadau, gan gynnig cipolwg ar fywydau a fuasai fel arall yn guddiedig.

Noddir prosiect Archwilio Seliau’r Oesoedd Canol, ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Amcan y prosiect yw rhannu ymchwil uwch ac arbenigedd gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys athrawon a phlant ysgol, archifwyr a churaduriaid, gweithwyr treftadaeth proffesiynol a haneswyr lleol, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb brwd yn yr Oesoedd Canol. Dymunwn archwilio, gyda’r rhai sydd â diddordeb, sut y gall ein hymchwil gynorthwyo wrth ddatblygu agendâu newydd mewn addysg, ymchwil ac wrth gyflwyno’r gorffennol i’r gynulleidfa ehangaf posibl.

Dydd Llun 3 Mehefin, 2pm-3pm
(Fe’ch cynghorir i fwcio)
Lleoliad- Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych yng Ngharchar Rhuthun


Ffôn: 01824 708250
E-bost: archifau@sirddinbych.gov.uk

www.sirddinbych.gov.uk/archifau