A ydi'n bosib i ynrhyw un clen iawn i
gufieuthu y penill 'ma i'r saesneg os gwelwch yn dda. Mi o ni wedi bwriadu gofyn i mam i'w gyfieithu, ond mae ganni bobl draw. Dyma'r penill (braidd yn hir, mae'n ofn).
Diolch yn galon,
Trystan
I FERCH AI GWALLT
CARDIFF MS. 64 = c
Y ferch yr af yw herchi
ym yn rhodd meinwar yw hi
nid oedd hawdd y dydd heddyw
gael bun well ei llun ai lliw
mae ar hon liw mwrai hed
llwyn aur ai flaen j wared
band oedd lan tyfeu r manaur
o blith jad yn blethau aur
llwyn ar y forwyn a fu
ai flaen wedi felynu
os j haur a fesurwn
i dau hyd a gaid o hwn
anfonwyd i ddyn fainir
aur ar ei phen ddwy raff hir
tebig yw r galenig lan
i edafedd gwlad Ifan
dirwyn goruwch ei dayrydd
heb law ei threm yn bleth rydd
perth fal y colcerth i caid
vwch y feinael wych fenaid
i hwyneb sydd yn debig
i iarlles fru aurllaes frig
mwnwgl hir mewn golau ha
mor ganaid ar mur gwna
y ddwy fron nid oedd afryw
pob pronn fel y papur yw
dwylo cain lle nid ei cwl
deuvraich Eunid verch Yniwl
nid oedd gymmen i frenin
ofyn i math fwyn ei min
trahaus oedd ir Pretur Sion
ei dwyn heb fodd eu dynion
i mae i thad fal hu gadarn
am wr yw ferch mawr yw r farn
nis rhydd mewn gwregys rhyddaur
byth ir un ond bath yr aur
ei mam hi yma am hon
a oedd anap i ddynion
pa ham meddau ei mamaeth
i cae neb naccau a wnaeth
ac os cyngor eu chwiorydd
am y ferch yma a fydd
i chenedl wych o wynedd
biau r maes bo i mi r medd
nid a fi att fy rhiain
iw gofyn rhag ofn y rhain
ond o hirbell ymgellwair
o bae well ym ymbell air
nim car y ferch anherchais
mwy nag im car siomgar Sais
fy nghuled gwae fy nghalon
na bae sais yn y bais hon
ni ddoi dan wydd y dyn jach
ef a ddaw a fae dduach
deliwch vun dielwch fi
iawn oedd fy ngofyn jddi
ni byddaf mwy na dafydd
ab Gwilim gam heb gwlwm gwydd
Evan o Dewlwyn