Author Topic: Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Dolgellau  (Read 5684 times)

Offline chwiliwr

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 73
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Dolgellau
« on: Monday 14 July 14 20:51 BST (UK) »
Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r fforwm sydd wedi ateb fy apeliadau am wybodaeth ar y 107 a enwir ar Gofeb y Rhyfel Mawr yn Nolgellau. Diolch i'ch cyfraniadau rwyf wedi llwyddo i gyhoeddi llyfr yn adrodd hanesion y 107 fydd,rwyn gobeithio, yn gymorth i'w cadw mewn cof.

Diolch yn fawr,

Chwiliwr

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Dolgellau
« Reply #1 on: Monday 14 July 14 21:20 BST (UK) »
Sut bydd modd archebu copi o'r llyfr?

Offline chwiliwr

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 73
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Dolgellau
« Reply #2 on: Monday 14 July 14 22:02 BST (UK) »
Welais i mo'r nodyn yma. Rwyf wedi anfon neges bersonol i'r ymholiad arall. Nodwch os ydych eisiau copi Cymraeg neu Saesneg os gwelwch yn dda.

Chwiliwr

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Dolgellau
« Reply #3 on: Sunday 03 August 14 02:31 BST (UK) »
Diolch i Chwiliwr daeth copïau o'r fersiwn Cymraeg a Saesneg drwy'r post bore ddoe, ac yr wyf wedi bod wrthi drwy'r dydd yn ei ddarllen. Ac yw! Am gyfrol gwerth chweil. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â chysylltiadau teuluol a Dolgellau i brynu copi. Yr wyf wedi bod yn hel achau ers degawdau, ond eto wedi canfod toreth o wybodaeth newydd am aelodau fy nheulu estynedig trwy ddarllen y gyfrol.

Bron i hanner canrif yn ôl rwy'n cofio gweld Nain yn gloywi'r medalau coffa mawr bres crwn er cof am ewythrod fy nhaid Hugh a John Humphreys ac iddi son bod taid wedi colli trydydd berthynas hefyd a  bu fyw trwy'r cyfan o'r rhyfel mawr ond a bu farw yn yr Iwerddon ychydig ar ôl i'r rhyfel darfod. Gan na ddois ar draws hanes o'r fath yn fy ymchwil aeth yr atgof yn angof hyd imi ddod i ddiwedd cyfrol Chwilotwr a chanfod hanes Corporal David J Edwards, mab i fodryb fy nhaid, a dod a'r atgof yn fyw eto. Roedd gwerth prynu'r llyfr dim ond am y wybodaeth yma.