Author Topic: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman  (Read 6631 times)

Offline Cynfelin

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 149
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« on: Sunday 09 August 15 19:19 BST (UK) »
Mae Idris Davies yn profi i fod yn dalcen caled i dorri. Gwyddem ei fod wedi'i eni tua 1902 yn ardal Castell Nedd cyn iddo briodi a Llywela Alice Thomas d.g. 20/10/1902 yng Nghastell Nedd. Athro oedd yn ol ei alwadigaeth gan ddiweddu ei yrfa ym Mhrifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman. Oedd hefyd yn pregethu gyda'r Efengylwyr, ac yn adnabod Billy Graham gan iddynt cynnal digwyddiadau gyda'i gilydd tra oedd Billy Graham yn teithio Cymru yn y 1950 degau.

Hoffem petai rhywun yn gallu rhoi fi mewn cysylltiad a pherson sydd yn gwybod ei hanes.

Offline pen y bryniau

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 8
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« Reply #1 on: Tuesday 19 February 19 18:42 GMT (UK) »
Newydd ddarllen eich neges am Idris Davies, Prifathro Ysgol Parcyrhun Rhydaman.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am hanes Idris Davies a oedd yn cael ei adnabod fel Idris y Gof - mab gof pentref Llanfynydd Sir Gaerfyrddin.  Roedd ganddo frawd o'r enw Tudor a chwaer o'r enw Eunice. 
Dydyn ni ddim yn gwybod am unrhyw gysylltiad a Chastell Nedd ond yn bendant fe fu'n Brifathro ym Mharcyrhun a roedd e'n pregethu.

Fe fyddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodeth pellach.

Diolch

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« Reply #2 on: Wednesday 20 February 19 00:31 GMT (UK) »
Dim llawer o iws at ddefnydd hel achau, ond mae 'na gyfeiriad at waith efengylaidd Idris Davies yn yr erthygl hon: http://www.ebenezerbangor.org.uk/archive/gmfiles/The_Sound_of_Marching.pdf

Offline Cynfelin

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 149
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« Reply #3 on: Monday 25 February 19 14:31 GMT (UK) »
Cewch hanes ei angladd yn y South Wales Guardian 15 Mawrth 1984 ac hefyd yng nghyllgrawn Y Gadwyn Cylchgrawn Bethani Rhydaman. Beth yw eich cysylltiad?


Offline pen y bryniau

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 8
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« Reply #4 on: Tuesday 26 February 19 08:09 GMT (UK) »
Diolch am gysylltu unwaith eto.

Mae fy nhad , sy'n 93 oed, yn dweud yn bendant fod Idris Davies yn perthyn i'n teulu ni ac mae aelodau eraill o'r teulu yn dweud yn bendant fod cysylltiad. Mae'n nhw'n cofio fy mamgu yn cyfeirio at Idris a'i frawd Tudor fel " plant bach Dafydd y Gof, Llanfynydd." Roedd ei chwaer Eunice yn gweithio yn siop Lewis Lewis yn Abertawe. Roedd y teulu yn Penrhos House Llanfynydd yn 1911 ( Plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, tud 52 , Ardal 03).

Rydyn ni'n credu bod ei dadcu yn hanner brawd i fy hen famgu ond rydym yn dal i chwilio am fwy o dystiolaeth.

Oes cysylltiad teuluol gyda chi a allai fod o gymorth i ni?

Diolch




Offline Cynfelin

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 149
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Idris Davies- Prifathro Ysgol Gynradd Parcyrhun, Rhydaman
« Reply #5 on: Tuesday 26 February 19 16:03 GMT (UK) »
Yn anffodus, ni allaf eich helpu, ar hanes teulu Idris. Mae fy mherthynas drwy ei briodas a Llywela Thomas, merch Samuel  ac Elizabeth Jane Thomas.