I would appreciate it if someone could help me translate the following obituary. I used Google Translate but I'm afraid it didn't quite do the trick this time. Thanks in advance!
Marw a Chladdu Mr. Rice Edwards, gynt o Heol yr Eglwys, Llanfor.
Er wedi myned yn annalluog iawn I fyned o gwmpas es rhai blynyddoedd bellach chwith ydyw meddwl fod y brawd annwyl uchod erbyn hyn yn ei fedd, wedi cyrraedd ei 74 mlwydd oed. Rhai wythnosau yn ol trawyd ei hanes i’r diwedd. Yn Nolgellau y death awr ei ymddatodiad!
Bu yng ngwasanaeth yr Henadur R.T. Vaughan yn Penisa’rllan am flynyddoedd lawer a chodaf na chafodd unrhyw feistr yn unman was mwy ffyddlon erioed! Ni ellid ei gyfrif fel gwas cyflogedig, gan mor ofalus ydoedd ynghylch popeth a berthynai i’w feistr, ac yr oedd ei ofal am yr anifeliaid a oedd dan ei ofal yn union fel pe baent yn eiddo iddo ef ei hunan, gan mor gydwybodol y cyflawnai ei holl ddyletswyddau. Gwr siriol a charedig ydoedd yr ymadawedig, a phleser mawr I mi bob amser oedd ei gyfarfod a chlywed ei gyfarchiad caredig ar bob amgylchiad!
Rhoddai bris ar y gwerthoedd uchaf mewn bywyd; carai ei Gapel bach yn Llanfor, a byddai wrth ei fodd yn gwrando pregeth dda. Chwith ydyw meddwl ei fod wedi ein gadael byth mwy I ddychwelyd; ond diolch am gael y frant o ddyfod I adnabyddiaeth a chymeriadau fel hyn, mewn byd fol hwn. Erys llawer dywediad o’i eiddo yn hir yn ein cof, a phery dylanwad d fywyd eto I lefaru wrthym tra byddom bellach ar dir y byw!
Bydded ei hun bellach yn dawel yn naear ei Llanfor hoff, “lle y gwnaeth ddiwrnod gonest o waith” am amser hir, a chydymdeimlir yn fawr a’r gweddill o’i deulu a’i berthnasau yn eu profedigaeth.
Cymerodd ei gladdedigaeth le ddydd. Ian diwethaf ym Mynwent Llanfor. Y Parch. T. Gwynn Jones, B.A., yn gwasanaethu.
Oes dawel y gwas diwyd – a dreuliodd
Yn drylwyr trwy’i fywyd
A’i oes hire to sieryd
O gloriau bed ar glyw’r byd.
E.D.H.