Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CAPEL YR ANNIBYNWYR YN Y BORTH.

ETHOLIAD MERTHYR ETTO.

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

MARWOLAETH Y PARCH. JOHN ROBERTS, CAPEL GARMON, GER LLANRWST. Bu farw y gwr parchedig uchod Ion. 19, 1869. Ganwyd ef yn Llidiartygodart, yn y fiwyddyn 1784, a magwyd ef yn Brynrhug. Priod- odd Miss Anne Evans, Moeliwrwch, a bu yn ynigeledd gymhwys iddo. Yr oedd yn wraig synwyrol, gartrefol, a chrefyddol. Bu iddynt saith o blunt: magasant hwy yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd y rhai sydd wedi marw, ac y mae y rhai sydd yn fyw, yn arddel' Argiwydd Dduw eu tad a'u mam. Bu farw y fam hon yn Israel er's blynyddau lawer. Yr oedd John Roberts, Capel Garmon, yn gyfoed a chymydog i'r diweddar John Jones, Bancog (Bancygog). Dechreuasant broffesu crefydd yr un pryd, a dechreuasant bregethu yn 1815. Bu John Jones yn bregethwr hynod o lafurns a Ifyddlon yn Capel Garmon, a'r eglwysi yn nghylchoedd Llanrwst, Bala, a Dinbych. Symudodd i'r Green, ger Dinbych, i fyw-bu ffyddlon hyd angeu-yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd, a'i goffadwriaeth sydd fendigedig. Arosodd John Roberts yn Capel Garmon, ac urddwyd ef yn gyflawn weinidog i'r eglwysi a gyfarfyddent yn Siloam, Capel Garmon, a Bethel, Pentrefoelas, yn 1823. Felly, bu yn pregethu yr efengyl am 54 o flyn- yddoedd. Bu yn bur iach ar hyd ei oes. Yr oedd y cryd cymalau wedi gwneud ei liniau yn anystwyth ac yn anhawdd iddo gerdded; a defnydd- iodd y ddwy ffon a'r cerbyd i'w gynnorthwyo i dd'od i'r capel hyd derfyn ei oes. Un o gyfoedion ac oes ein tadau ydoedd. Prcgethal yn ddoniol a melus iawn. Tua blwyddyn a hanner yn ol, tyfodd dafad bwdredig ar ei wyneb; a rhwng y llygriad hwn ar ei wyneb a lienaint, edrychem arno yn Haw angcu y troion diweddaf yr ymwelsom ag ef. Bu farw mewn oedran teg a Ilawn o ddyddiau, sef yn 85 ml. oedd. Claddwyd ef ddydd Gweller diweddaf yn Llan, Capel Garmon. Yr oedd lluaws o weinidogion, diaconiaid, ac aelodau eglwysig, yn nghyda'r ardalwyryn gyffredinol, yn y claddedigaeth.

:ptarcjnatroeW gr Minjjnos.

Marchnad Yd Liverpool.

IGwlan.

Masnach Metteloedd, &c.

Marchnadoedd Cymreig.

[No title]