Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

110 MAItWOLAETHATJ. llyfr Duw. Cyfrifir y gyfrol gyntaf o*r gwaith, yr esboniad ar Genes'19, yr oreu yn yr iaith Seisouig, ac y mae hon hefyd yn dra rhagorol. Nis gall pregethwr gael yr un esboniad a fydd yn fwy o nelp iddo. Yr ydym yn ei gymeradwyo yn y modd mwyaf calonog fel gwaith ardderchog. Y mae y benod ar Fordaith a Llongddrylliad Pai-.l yn nodedig o ddyddorol, ac mae'r oll wedi ei ys- grifenu yn dda, a'i egluro a map rhagorol. Tiie Homiletic Maûazime, January, 1882. Price ls. Kegan, Paul, Trench & Co. Yr un ydynt gyhoeddwyr y misolyn hwn a'r Esboniad uchod, y mae ei gynwysiad hefyd yn debyg, ac y mae wedi ei fwriadu i gynorthwyo yr un dosbarth. Chwarterolyn ydoedd. oud yn y rhifyn hwn, dochreua ddyfod allan yn fisol. Y mae hefyd wedi newid ei olygydd. Y golygydd newydd ydyw y Parch. F. Hastings, gweinidog yr Anni- bynwyr yn Weston Super Mare. Nid newyddian ydyw ef fel llenor. Mae wedi ysgrifenu llawer i'r wa9g, wedi cyhoeddi amryw gyfrolau, ac wedi profi ei fedr fel golygydd o'r blaen. Y mae y rhifyn cyntaf hwu hefyü yn dangos ei fod yn penderfynu gwneud ei oreu i arlwyo yn fìsol yr hyn a fydd werthfawrocaf i'w ddarllenwyr. Yr ysgrif gyntaf ydyw "St. Thomas the Doubter," by Dr. Lips- combe. Yna ceir chwech o anerchiadau eglurhaol ar yr ail benod yn Marc, gan y Parch. Dickerson Davies, M.A. Yna ceir ysgrifau ar Weddi gan Proff. Luthardt. a'r Parch. E. R. Conder, M.A. Yn yr ail ran, ceir Eglurhadau Ysgrythyrol gan Dr. Boardman, Dr. Grosart, Dr. Bruce, Dr. Gloaz, a Dr. Payne Smith, ac y mae yr ysgrifau hyn yn deilwng o'r ysgrifenwyr galluog. Yn y rhan olaf o'r misolyn, ceir ysgrifau ar faterion amrywiol, megys ysgrif gau y Parch, J. R. Vernon, M.A., ar "* Clerical Elocution." Efe ydyw awdwr y llyfr diweddaraf o nod ar Areithyddiaeth y Pulpud, Gwyddomei bod yn anhawdd dysgu areithyddiaeth drwy ysgrifau—gwell ydy w awr o wers na'r llyfr goreu; eto. y mae ysgrifau Mr. Vernon yn werth cu hastudio. Yr ydym yn cymeradwyo y misolyn hwn yn fawr, ac yn dymuno llwyddiant iddo dan olygiaeth alluog Mr. Hastings. Tns Acts and Epistles of St. Paul : by Rev. F. A. Malleson, M.A. Hodder & Stoughton, Lor.- don. Price 12s. I'r rhai sydd yn meddu gweithiau mawrion Conybeare a Howson, a Canon Farrar ar y testun uchod, ni chynghorem hwy i bwrcasu y llyfr hwn; ond i eraill na allant eu cael, bydd y gwaith hwn yn werthfawr. Y mae Mr. Malleson yn myned dros yr un tir, ac yn cael y fantais ar ol yr awdur- on hyn. Y mae ei gredo yn efengylaidd, ac y mae ci ymosodiadau *r waith Renan aryr un testun yn finiog ac yn wir alluog. Y mae ei gyfciriadau hefyd at yr Eglwys Babaidd yn profi ei fod yn iach yn y ffydd Brotestanaidd, er yn perthyn i Eglwys Loegr, sydd mor llawn o'r ysbryd gwrth-Brotest- analdd. Y mac y gwaith drwyddo yn dangos fod yr awdwr yn ddyn o íarn addíed, yn feirniad craff, yn fcddyliwr eglur, ac yn Gristion defosiynol. Good Words for 1831. Price 7s. 6c. Good Words for January, 1882. Price 6d. Isbister & Co., 56, Ludgate Hill. Y mae y gyfrol hon yn deilwng i'w gosod yn ymyl y rhai goreu a ddaethant allan o'r cyhoedd- iad poblogaidd hwn. Y mae erthyglau penigamp J. A. Froude ar " Eglwys Loegr haner can' mlyn- edd yn ol," yn ddigon i roddi carictor i'r gyfrol. Y mae nofel boblogaidd Blackmore, "Christowell," hefyd yn llawn yn y gyfrol. Ymae Dr. Richardson wedi ysgrifenu yn üda hefyd ar "Healthat home." Ceir bywgrattiadau ynddi o Carlyle, Candlish, Syr Walter Scott, Deon Stanley, &c. Cymerai ormod o'n gofod i ni alw sylw at yr ugeiniau o erthyglau gwir ddyddorol sydd yn y gyfrol, y rhai a eglurir gan ddarluniau tarawiadol. Mwy buddiol yn awr fydd galw sylw at yr liyn a addewir yn ystod y flwyddyn hon. Y mae rhifyn Ionawr yn cynwys ysgrif gan Archesgob Canterbury ar Deon Stanley. Un arall gan y mwyaf hyawdl o'r esgobion—Esgob Peterborough, ar " Man and the gospel." Ceir ysgrifau hefyd gan Mr. Dale, A.R.H.B., Allanson Picton, ac amryw eraill. Y mae yn dechreu flwyddyn yn rhagorol. Suhday Magazine for 1881. Price 7s. 6d. Sunday Maoazine for January, 1882. Price 6d. Is- bister & Co. Er na chyhoedd'r enw golygydd presenol y mis- olyn hwn yn nglŷn âg ef, deallwu mai y Parch. Benjamin Waugh ydyw. Y mae y gyfrol hon yn cynwys pump o ffughanesion gan ysgrifenwyr ad- nabyddus, er nad o'r radd flaenaf. Yr oreu ydyw " Cobwebs and Cables," gan Hesba Stretton. Y mae ynddi bump o bregethau gan Maclaren, ac nia gall yr un eu darllen heb brofi fod arogl hyfryd ei gystudd diweddar arnynt. Y mae ynddi hefyd bregeth nodedig gan Mr. Dale ar "Temperance lieformation," yn mha un y dadleua yn gryf dros y symudiad, ond yn y diwedd addefa nad yw yn ddirwestwr ei hun. Ceir ynddi hefyd amryw ysgrifau difyr ar natur a'i golygfeydd yn ngwa- hanol dymhorau y flwyddyn. Y mae y pregethau i blant gan y Gol. ac eraill yn elfen newydd a gwerthfawr. Ceir yma hefyd ysgrifau ar y Genad- aeth, a bywgraftiadau dynion enwog, yn nghyda barddoniaeth, ac ugeiniau o ddarluniau prydferth. Y mae rhifyn Ionawr am y flwyddyn hon yn cynwys y penodau cyntaf o nofel gan George Macdonald, " Weighed and Wanting," ac y mae yn agor yn deilwng o athrylith yr awdwr byd- enwog. Addewir ysgrifau yn ystod y flwyddyn gan Dr. Donald Frazer, Dr. Maclaren, A.R.H.B., Mr. Morlais Jones, &c. TJn elfen uewydd a addewir ydyw, rhoddi darluniau cy wir o'r prif ysgrifenwyr i'r cyhoeddiad, ac yn y rhifyn hwn ceir darlun tarawiadol iawn o George Macdonald. + ■•■» tartoûJa*%u. Tachwedd 15fed, yn sydyn iawn, o glefyd y galon, yn 61 mlwydd oed, Mr. William Jores, Bancog, Capel Garmon. Claddwyd ei weddillion y Sadwrn canlynol yn nghladdfa Siloam. Oafodd, fel y cyflawn haeddai, gladdedigaeth tywysogaidd. Tystiolaeth unfryd yr ardalwyr yw, na welwyd oladdedigaeth mwy parchus yn yr ardal un amser. Y mae teulu y Bancog yn dra adnabyddus yn nglŷn âg Annibyniaeth yn yr ardal hon. Tad yr ymadawedig yw yr hen Griation Mr. W. Jones, Dolyddelen, yr hwn, er yn codi yn 93 mlwydd oed, eto sydd dirf ac iraidd yn ei henaint. Yn symudiad ein hanwyl frawd, gwnaeth angeu fwlch mawr yn eglwys Siloam; a llenwai yr ym- adawedig y swydd o ddiacon er's amrai flynyddau, ac yn hyn enillodd iddo'i hunan radd dda. Yn y pulpud teimlir colled fawr am dano. Yr oedd yn un o'r gwrandawyr mwyaf astud a thoddedig. Os nodweddid y bregeth à dim efengyl, byddai ei ddau Iygaid' fel dwy ffynon. Sylwai Mr. Reea