Show Posts

This section allows you to view all posts made by this member. Note that you can only see posts made in areas you currently have access to.


Messages - Blaenau45

Pages: [1] 2 3
1
Cymraeg - Welsh Language / Re: Llyfr Ceiri Gruffydd
« on: Saturday 22 September 12 14:07 BST (UK)  »
Yr wyf wedi prynu'r gyfrol newydd gan T Ceiri Griffith ac wrth fy modd gan fod fy nheulu i o Ben Llyn ynddo.

Gyda llaw, ISBN 9781847714930 Y Lolfa. £24.95 - newydd weld hwn ar werth ar "Bae E" am £34.15 a chosta ychwanegol am ei gludo.  Yr wyf yn deall fod rhai dal ar gael ar wefan gwales.

Llyfr gwerth ei gael!

 :)

2
Cymraeg - Welsh Language / Re: HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Friday 03 August 12 16:27 BST (UK)  »
Pnawn da Elbac
Mae'n ddrwg gennyf gymryd cymaint o amser i'ch ateb Elbac - oedi diangen ar fy rhan i.
Tybiaf i'r J G yma fod yn fwy debygol o fod yn John.  Yr wyf, erbyn hyn wedi ffeindio un (wedi ei eni yn Nhremadoc) sydd yn debygol o fod yr un iawn.  Ganwyd brodyr a chwiorydd i hwn yn Llanfair a Llanbedr, felly 'roedd ei fam a'i dad yn byw yn Harlech ar un tro.
Diolch yn fawr iawn am yr awgrymiad.

3
Caernarvonshire / Re: John Griffith (Harlech) Jones
« on: Wednesday 09 May 12 11:07 BST (UK)  »
Thank you so much for getting in touch soldiermawr.
John Harlech was my paternal great-grandfather and Jane Ann's family lived in Ty Canol at Nant Gwrtheyrn as you probably know.  I have been trying to trace John Harlech's ancestors for some time but have had little joy until now.
I would be really delighted to share any information with you, and would be pleased to receive any knowledge that you have.
Most members of the family have stayed in North Wales although there are some also in Outer London, the Outer Hebrides and Canada.
Are you on Genes Reunited?  If so I could share my family tree with you.
I look forward to hearing from you.

4
Cymraeg - Welsh Language / Re: HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Wednesday 09 May 12 10:50 BST (UK)  »
Diolch Soldiermawr
Mi wnaf ymateb yn "Wales (Counties - Caernarvonshire)" gan mai yn y Gymraeg yn unig y mae yr adran hon.
Diolch

5
Cymraeg - Welsh Language / Re: R Silyn Roberts
« on: Thursday 29 December 11 19:56 GMT (UK)  »
 :)
"BrynLlidiart" gan Mathonwy Hughes (1901-1999)

Dim ond ei furddun unig
A weli fry ar dal frig
Yn ei heddwch mynyddig.

Diolau a diaelwyd
Yw y lle diarffordd llwyd
I dywydd a adawyd.

Tir pell y diadelloedd
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i’m taid ydoedd.

Hwnnw â’i raw gynt fu’n trin
O’r cwm ei ran o’r comin,
Palu, palu ymhob hin.

O’r mynydd oer mynnodd hwn
Droi gweundir yn dir gwndwn,
A’r fawnog yn rhywiog rwn.

Creodd fuddiol fywoliaeth
O fawndir llwm y cwm caeth,
Ond di-fudd etifeddiaeth.

Canys o’r llafur cynnar
Nid ery owns o dir âr,
Hulia brwyn ôl y braenar.

A heddiw lle bu tyddyn,
Caeau gwair aeth yn y grawc gwyn,
Gweirglodd a fagodd figwyn.

Y dioffer a diffaith
Hendir llwm, wedi’r holl waith,
a hawlia’r mynydd eilwaith.

... Gwych, heb os!

6
Cymraeg - Welsh Language / Re: R Silyn Roberts
« on: Thursday 29 December 11 19:09 GMT (UK)  »
 :)
A ydych wedi bod yn gweld Bryn Llidiart fel ag y mae heddiw?
Dilynwch y linc isod er mwyn darllen ychydig am y lle a'i bobl:
http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-enwogion.htm
Mae gennyf luniau o Frynllidiart yn rhywle, ond wedi methu eu ffeindio hyd yn hyn.
Cyfarchion

7
Cymraeg - Welsh Language / Re: HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Wednesday 21 December 11 12:59 GMT (UK)  »
 :)
Diolch i Hanes Teulu am wneud ymchwil ar fy rhan - mae'n ddrwg gennyf nad wyf wedi ymateb yng nghynt.
Diolch hefyd i Pinot am ymateb, ac i Elbac am gadarnhau mai o dan Llandanwg yr oedd Harlech.
Yn anffodus, nid oes un ymchwiliad yr wyf wedi ei wneud hyd yn hyn wedi rhoi mwy o wybodaeth i mi am fy Nhaid.
Dal ati ydy'r gamp ynde?
Diolch o galon i bawb a Nadolig Llawen i chi i gyd.

8
Cymraeg - Welsh Language / Re: HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Monday 28 November 11 17:58 GMT (UK)  »
Mae Tystysgrif priodas John a Jane gennyf - "miller" oedd John Jones, tad John Harlech a'r tystion oedd Ellis Jones a Kate Griffith.
Mewn tyddyn fferm "Ty Canol" yn Nant Gwrtheyrn y ganwyd Jane Ann (Griffith) - felly mae'n debyg mai yno yr oedd John Harlech yn gweithio fel ffarmwr cyn iddo briodi Jane, er mai "miner" yw ei swydd-ddisgrifiad ar y dystysgrif briodas.
Yr wyf wedi darganfod 2x John Griffith Jones wedi eu geni o dan "Ffestiniog" sy'n cynnwys Llanbedr/Harlech a'r cylch. John Jones yw tad y ddau, a Jane yw Mam y ddau! Mae un wedi ei eni ym Mhorthmadoc, a'r ail yn Nhremadoc -  diddorol mai "miller" yw swydd-ddisgrifiad tad hwn.  Ond nid wyf yn tybio bod yr un o'r ddau yn gywir.  Yn yr hen Sir Feirionnydd yr oedd Harlech (Llandanwg / Llanbedr / Llanfair / Llandecwyn / Llanfihangel y Traethau / Talsarnau ayyb) a Thremadog a Phorthmadog yn yr hen Sir Gaernarfon.  Yr wyf yn teimlo'n weddol sicr mai o dan yr hen Sir Feirionnydd y bydd y manylion. Beth yw eich barn chi?
Unrhyw beth y gallwch ddarganfod, byddaf yn ddiolchgar iawn.
Nora

9
Cymraeg - Welsh Language / Re: HELP - John Griffith (Harlech) Jones 1870 - 1946
« on: Monday 28 November 11 16:17 GMT (UK)  »
O Harlech yr oedd John Griffith Jones yn dod, heb os.  Gwn fod yr ardal Harlech yn dod o dan Llanbedr, ond beth am Ynyscynhaiarn?  Yr oeddwn yn meddwl mai o gwmpas Porthmadog oedd hwn - felly'n methu deall pam fod Ynyscynhaiarn yn dangos ar y cyfrifiad yn 1901?
Yng nghyfrifiad 1911 mae'n ymddangos wedi ei eni yn "Merioneth Llsarleck" (Harlech, mwy na thebyg!)
Gyda diolch Hanes Teulu

Pages: [1] 2 3