1
Cymraeg - Welsh Language / Ble mae Cynrhos Sir Geredigion?
« on: Wednesday 14 August 19 15:18 BST (UK) »
Oes yna unrhywun sy'n gallu lleoli Cynrhos yn Sir Geredigion? Yn ol cyfrifiad 1891 roedd fy hen nain wedi ei geni yno (gweler atodiad). Mewn cyfrifiadau pellach, 1901 a 1911, roedd y lleoliad wedi newid i Lanilar yn un a Phontrhydfendigaid yn y llall. Yn ol hanesion yn y teulu roedd yn hannu o Ffair Rhos. Dwi'n ymwybodol bod y tri man yna yn weddol agos i'w gilydd ac yn tybio felly bod Cynrhos yn yr un ardal.
Neu efallai fy mod yn darllen cyfrifiad 1891 yn anghywir. Oes gan rhywun a gwybodaeth leol well cynnig?
Neu efallai fy mod yn darllen cyfrifiad 1891 yn anghywir. Oes gan rhywun a gwybodaeth leol well cynnig?