Author Topic: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER  (Read 5474 times)

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« on: Wednesday 01 February 06 23:04 GMT (UK) »
Rwy wedi darganfod dryswch.
Ar gyfrifiad 1861 rwyn credu mod i wedi ffeindio Owen Pugh, fy hen daid.
Cafodd ei eni yn Llanfihangel y Pennant, Meirionydd yn 1840. Rwyn gwybod mai ym mwthyn Tŷ'n Llan y ganwyd ei frawd.
Ond ar gyfrifiad 1861 mae na Owen Pugh yn Waun, Peniarth sy'n 20 oed ac un arall yn Gwastadfryn, Uwchgarreg sydd hefyd yn 20 oed. Oes rhywun yn gallu fy helpu? Ble mae'r ardaloedd yma?
Erbyn 1871 roedd yn briod ac yn byw yn Tabor Dolgellau.
Diolch
Eleri
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« Reply #1 on: Thursday 02 February 06 01:32 GMT (UK) »
Mae Peniarth yn rhan o blwyf Llanegryn ger Tywyn (yn enwog am y Peniarth MS - casgliad cychwynol y Llyfrgell Genedlaethol)

Uwchygarreg yw Pentrefi Abergynolwyn a Llanfihangel ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant.

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« Reply #2 on: Thursday 02 February 06 19:05 GMT (UK) »
Diolch eto Dolgellau
Fe allai felly fod yn unrhyw un ohonyn nhw. Mae'r dryswch yn parhau.
Eleri
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline pwtan

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 76
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« Reply #3 on: Friday 05 February 10 14:54 GMT (UK) »
Rydwyf yn ymchwilio hanes teulu ar y funud ac wedi darganfod fod fy hen hen nain Laura Roberts yn byw yn Ty'n Llan, Llangfihangel y Pennant pan gafodd ei bedyddio...unrhyw syniad ble mae'r ty????


Offline ArwelONeill

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 54
    • View Profile
Re: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« Reply #4 on: Wednesday 07 April 10 23:23 BST (UK) »
Diolch eto Dolgellau
Fe allai felly fod yn unrhyw un ohonyn nhw. Mae'r dryswch yn parhau.
Eleri

Eleri...dwi'n newydd yma!  Rwyf finnau hefyd yn chwilio am berthnasau o'r enw Pugh yn Nolgellau.

Mi fyddwn wrth fy modd yn darganfod mwy am y teulu yn Nolgellau.  Ar hyn o bryd rwyf wedi hitio wal braidd!  Mae gennyf gofnod o Hugh Pugh a'i wraig Margaret yn byw mewn bwthyn bychan o'r enw Buarth Will, yn Arthog.  Dolgellau oedd man geni y ddau yn ol cyfrifiad 1841.  Cafodd Hugh ei eni oddeutu 1811 a Margaret ei wraig tua 1812.

Dwi'n methu'n glir a mynd nol dim pellach efo'r ddau.  Does dim modd bod rhain yn ran o'ch teulu chi mae'n siwr???

Hyd y gwn i, cafwyd y ddau yma 5 o blant.  John (1837), Rees (1841, Mary (1844), Ann (1847 a Hugh (1854).  Hugh (1854) oedd fy hen, hen daid a setlodd yn Ffestiniog.  Does gen i ddim gwybodaeth bellach am y lleill.

Mi fyddwn wrth fy modd yn darganfod cysylltiad gan mod i'n chwilio a mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ers dros flwyddyn!

A fedrwch chi Eleri, roi goleuni ar y mater?

Diolch i chi ac edrychaf ymlaen am eich ymateb.

Arwel  :-\
Pugh - Dolgellau/Arthog/Ffestiniog
Evans - Dolgellau/Llanegryn (Felin Fach)
Jones - Treherbert/Ffestiniog, Dolwyddelan
Lewis - Pentre Gwynfryn, Llanbedr
Morris - Cricieth/Llanystumdwy, Ffestiniog
Jones - Dolgellau/Dolgledr (Craigyrhelbul)

UK Census info. Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Pugh o Llanfihangel y Pennant MER
« Reply #5 on: Saturday 15 May 10 22:55 BST (UK) »
Annwyl Arwel
Diolch am yr ymholiad. Maddeuwch i mi am fod mor hir yn ateb. Mae fy merch wedi cael efeilliaid felly dydw i ddim adre yn aml. Does gen i ddim llawer o amser i drafod y teulu erbyn hyn!
Roedd fy Hugh Pugh i yn byw ar fferm Tanygader tu allan i Ddolgellau. Fe oedd fy nhaid i. Symudodd i Gaerdydd am waith a setlo yno.
Ei dad e, Owen Pugh, gafodd ei eni yn Ty'n Llan, Llanfihangel y Pennant. Mi ffeindiais allan hefyd mai Evan Pugh oedd tad Owen. Bues i yn Llanfihangel y Pennant tua dwy flynedd yn ol a gwelais yr enw "Hugh Pugh, Joiner, 1805" wedi ei ysgrifennu uwchben y drws.
Mi gymrais mai tad Evan oedd yr Hugh Pugh hwnnw.   Ond ar ol trafod y mater gyda eraill ar rootschat does dim sicrwydd mai tad Evan oedd yr Hugh Pugh adeiladodd y ty.
Mi fydda i adre pob penwythnos ac yn gallu'ch ateb bryd hynny. Pob lwc gyda'r ymchwil.

Eleri
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk