Author Topic: Beth am newid?  (Read 4651 times)

Offline Garethboxing

  • --
  • RootsChat Veteran
  • ****
  • Posts: 710
  • Grampy Wyndham Jones (Wales v Ireland 1905)
    • View Profile
Beth am newid?
« on: Friday 08 September 06 10:05 BST (UK) »
Does neb wedi postio dim byd ar y rhan yma o'r seit ers Dydd Gwyl Dewi ac o'n i jyst yn meddwl roedd hen bryd i ni weld rhywbeth arall fel "neges olaf" am newid!
   Gareth
Scott, Dowdeswell (Merthyr Tydfil), Jones (Loughor and Merthyr Vale), Roberts (Nelson), Prichard (Collenna and Cefn Fforest); Evan Roberts (Corwen and Amlwch); Scott (Pentre); Scott (Ancrum); Thomas (Pantywaun and Bedlinog); Morgan Jones (Ystradfellte); Bowen (Loughor); Jenkins (Bridgend); Thomas Dowdeswell (b. Gloucester, 1829).

Census Information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline SS from The Rhondda

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 536
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #1 on: Friday 08 September 06 20:05 BST (UK) »
Ddeisyfa a Allais chyfranna hychwaneg 'r 'r Cymraeg adran. Namyn Adwaen hychydigyn chan 'm fam balog.


(Gobeithia hon chyfieithiad ydy da!  :-[)

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #2 on: Saturday 09 September 06 03:16 BST (UK) »
Diolch am drio SS, mae'n cael ei werthfawrogi yn fawr. Yn anffodus mae'r cyfieithydd Cymraeg ar-lein yn Merde, yn ôl y cyfieithydd Ffrenig. :(

Thanks for trying SS, it's appreciated. Unfortunately the Welsh on-line translator is Merde as the French translator would say! :(

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #3 on: Saturday 09 September 06 03:56 BST (UK) »
Er bod rhywfaint o dafod ym moch yn llythyr Garethboxing, mae o'n gwneud pwynt sylweddol.

Mae 'na thua phum wefan sy'n ymwneud ag achau Cymreig ar gael i drafod y pwnc trwy'r iaith Gymraeg

Y parth yma'n amlwg. Parth tebyg ar BG Forums, sydd yn ofnadwy o brin o negeseuon.

Rhestr E-bost GWREIDDIAU:

http://lists.rootsweb.com/index/intl/WLS/GWREIDDIAU.html

Trafodaethau Maes-e ar Hel Achau:

http://maes-e.com

A hen safle'r rhaglen deledu Hel Achau ar S4C (hen bryd am ail-gyfres)

http://www.s4c.co.uk/helachau/

Yn anffodus mae'r rhan fwyaf ohonom yn dueddol o ofyn am gymorth trwy'r Saesneg yn gyntaf, gan fod cymorth Saesneg yn haws ei gael. Er bod yr ymateb yn debygol o gael ei roi, yn yr iaith wreiddiol, gan Gymro Cymraeg.

Dyma sialens i Gymry Cymraeg y parth yma, ac aelodau pob un o restrau Rootsweb Cymru. Cyn ofyn am gymorth trwy'r Saesneg, gofynnwch yma neu ar GWREIDDIAU yn gyntaf. O fethu cael ateb o fewn tridiau ewch at y parthau / rhestrau Saesneg.

Rho gynnig i'r Gymraeg yn gyntaf, er mwyn creu trafodaeth hel achau Cymraeg!




Offline trystan

  • Administrator
  • RootsChat Marquessate
  • ********
  • Posts: 14,148
  • RootsChat Co-founder
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #4 on: Wednesday 04 October 06 15:45 BST (UK) »
Beth am defnyddio y bwrdd yma I hel achau?
Send RootsChat a postcard:
RootsChat.com, Europa House, Barcroft Street, Bury, Lancashire, BL9 5BT
Admin Tip: Forgotten your Username or Password and would like to reply to one of these messages?  CLICK HERE to get a reminder.
AOL Users: You may need to 'cut and paste' any links you get in emails for them to work.

Offline eric

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 332
  • Thank you for any help
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #5 on: Friday 13 March 09 20:46 GMT (UK) »
Rydym ni fel Cymry wedi mynd yn ddiog iawn ac yn ei gweld yn haws ceisio hel achau drwy gyfrwng yr iaith fain.Hefyd mae pobl yn dueddol i gychwyn y goeden deuluol yn Saesneg trwy bod mwy o lyfrau ag ati ar gael i roddi cymorth.Beth bynnag mae'r safle yma'n gyfrwng ardderchog i gysylltu hefo pobl a hefyd yn rhoi cyfle i ymarfer yr iaith ysgrifenedig sydd yn gallu bod yn reit anodd.Pob hwyl ichwi i gyd.

Online Hazel17

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 575
  • I will translate Welsh to English on request.
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #6 on: Friday 13 March 09 21:00 GMT (UK) »
Buaswn yn mwynhau ofyn am gyngor trwy'r iaith Gymraeg ond yn anffodus does yna neb Gymraeg yn fy nghoeden deulu. Dwi'n dwad o Ogledd Cymru ond mae fy rieni yn Saesneg. Roedd un o neiniau Nain i fod yn Gymraes ond ganwyd un yn Birminham a'r llall yn Llundain.  ::) Mae 'na'r cyfenwau Roberts, Jones ac enw canol Griffin yn nheuluoedd y ddwy ond mae pob llwybr yn mynd ymhellach i fewn i Loegr. Roeddwn yn gobeithio darganfod nhw yn byw yng Nghymru dan un censws neu man geni yng Nghymru ond dim llwc hyd yn hyn.  :(
Rolph/Bird/Hilliard Writtle & Highwood Essex
Lister/Fitch/Kitteridge/Coote  Ashdon Essex
Coote Castle Camps Essex
Jones Kirby le Soken Essex
Kinch London/Swanbourne Bucks/Oxon
Burt Winfrith Newburgh, Dorset
Smith/Bant  Birmingham
Weatherill London/York
Hill/Habershon Sheffield
Roberts - London
Stringer - Leicester
Frost Castleton Derbys
Hall Wirksworth Derby
Allcock/Parkes Calton, Staffs
Meisenheimer Germany
Crossley/Adams Hidcote, Gloucs
R(o)ycroft Brown Malpas
Pratley BurfordOx

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Beth am newid?
« Reply #7 on: Friday 13 March 09 22:23 GMT (UK) »
      Diolch am y cysylltau gan Dolgellau i Gwreiddiau a maes-e; does dim un neges wedi ei phostio yn Gymraeg ar Gwreiddiau ers dwy flynedd, ac ar maes-e mae rhywun yn gorfod tyrchu drwy domennni o sothach plentynnaidd i ddod o hyd i unrhywbeth gwerth sylw. Rydw i'n tueddu i gytuno efo Trystan, mai fan hyn ydi'r lle gorau i bostio negeseuon Cymraeg.
      I wneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar y tudalennau yma efallai pan fyddwn ni'n gweld cwestiwn Cymraeg y dylen ni bostio i ddweud nad oes ganddon ni ddim ateb. Hwyrach y gwna' i ei drio fo.
                    Diolch i Garethboxing am gychwyn y llinyn yma ('edefyn' ydi'r gair modern mewn llefydd eraill, os cofia' i, ond mae 'llinyn' yn nes at flaen fy nhafod i.
                          Daliwch i gredu,
                                                          Pinot  :)