Cwestiwn diddorol a hynod gymleth!
Ysgrifennodd y diweddar Athro Gwyn Alf Williams llyfr o'r enw When was Wales? A dyma gwraidd y cwestiwn am Fynwy.
Cyn 1282 pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth ar farwolaeth Llywelyn II, doedd Cymru ddim yn bodoli fel gwladwriaeth. Gwynedd, Deheubarth, Powys ac ati oedd yr unedau gwleidyddol, ond eto roedd Y Cymry yn bodoli fel cymdeithas a oedd yn gydnabod eu hunain.
O 1066 pan goncrodd y Normaniaid Lloegr, ond nid Cymru a'r Alban goresgynnwyd ambell i ardal yng Nghymru gan Arglwyddi Normanaidd, ond gan fod y tiroedd yna wedi eu dwyn oddi wrth arglwyddi annibynnol Cymreig roeddynt yn cael eu rheoli yn annibynnol i goron Lloegr, ond gyda thaeogaeth i'r goron. Dyma oedd Arglwyddiaethau'r Mers
Cyn 1066 roedd Gwent yn bodoli fel teyrnas annibynnol Gymreig, rhwng 1067 a 1091 fe ddaeth yn rhan o'r Mers.
Rhwng 1282 a 1536 fe rannwyd Cymry yn ddwy Y Dywysogaeth (o dan reolaeth Tywysog Cymru) sef y gorllewin; a'r Mers o dan reolaeth Arglwyddi annibynnol (y dwyrain, gan gynnwys Gwent). Yr hyn sy'n bwysig i gofio nad oedd Gwent, na'r un lle arall yng Nghymru yn rhan o Gymru ar y pryd (gan nad oedd Cymru yn bodoli) ond bod Gwent yn rhan o'r ardal orllewinol Ynys y Cedyrn nad oedd yn rhan o Loegr chwaith.
Daw'r cymhlethdod o'r Deddfau Uno ys y gelwir (term a fathwyd yn y 1930'au gan Blaid Cymru). O dan y deddfau mae Arglwyddi'r Mers yn colli eu holl rym. Mae Tywysog Cymru yn cadw ei deitl ond yn colli ei hawliau. Mae'r Dywysogaeth a'r Mers yn cael eu cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ac mae cyfraith Hywel yn cael ei ddiddymu ac yn cael ei gyfnewid am gyfraith gyffredinol Lloegr. Mae Cymru hefyd yn cael ei rannu yn 13 sir
Ym 1282 crëwyd tri Sir Cymreig yn y Dywysogaeth Arfon Môn a Meirion o dan reolaeth Brawdlys Caer. Yn 1536 penderfynwyd estyn y drefn i weddill Cymru a chreu pedwar grŵp o dair sir o dan frawdlys Caer (12 sir) un druan ar ôl - Mynwy, rhoddwyd Mynwy o dan ofal brawdlys Rhydychen!
Pam Fynwy, yn hytrach na Maesyfed, Brycheiniog neu Maldwyn? Oherwydd mae Mynwy oedd y lle boethaf o ran gwladgarwch Cymreig. Dyma'r tir yr oedd etifeddion Glyndŵr yn byw ynddi, ond fe dorrwyd tiroedd etifeddion Glyndŵr oddi wrth Sir Fynwy a'u gosod fel rhan o Swydd Henffordd, a thorwyd Mynwy oddi wrth gyfraith gweddill Lloger yng Nghymru er mwyn dofi Gwent Gwyllt Gwladgarol. Mae Llanbedr yn troi'n Peterstow, Llansanffraid yn troi'n Bridstow, mae'r Dyffryn Oer yn troi'n Golden Valley (sic) ac yn bwysicach byth mae Llangaint yn troi'n Kenchurch
Dyma ddechrau'r broblem o ran Sir Fynwy, mae'n rhan o gylchdaith llys gwahanol i weddill Cymru. Mae ei enid wedi ei roi i Swydd Henffordd
Cofier imi nodi mae enw a fathwyd yn 1936 gan Blaid Cymru am resymau gwleidyddol yw Deddfau Uno ar gyfer deddfau 1536. Ni ddaeth y ddeddf uno go iawn hyd basio'r Wales and Berwick Act 1746 a nododd bod pob deddf a basiwyd yn ymwneud a Lloegr hefyd i'w cyfrif fel deddfau ar gyfer Berwick a 12 Sir Cymru .
Un sir fach ar goll - Sir Fynwy.
Ond eto, er gwaetha'r amryfusedd hwn, mae pob deddf a gorchymyn a dogfen statudol sydd yn ymwneud a Chymru ers 1746 wedi nodi ei fod ar Gyfer Cymru a Sir Fynwy. Mae pob un ddeddf sy'n ymwneud a Chymru ers 1746 wedi cynnwys Mynwy fel atodiad i, os nad yn rhan o Gymru (gyda'r eithriad o Ddeddf Cadoediad 1919 yn ôl rhai).
Mae'n debyg mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 daeth a'r amwyster i ben, gan fod y ddeddf yna yn cynnwys cymal sy'n diddymu rhai cymylau o ddeddf 1746 ac yn nodi bod Mynwy yn rhan o Gymru heb amheuaeth. Fel yr oedd pob Cymro yn gwybod ta waeth!