Author Topic: ysgol yn Lerpwl  (Read 3511 times)

Offline eric

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 332
  • Thank you for any help
    • View Profile
ysgol yn Lerpwl
« on: Sunday 11 March 07 13:23 GMT (UK) »
Rwy'n ceisio darganfod pa bryd ac ymhle bu fy nhad yn mynychu ysgol yn Lerpwl.Cofiaf iddo ddweud bod y bechgyn yn rhoi amser caled iddo am ei fod yn Gymro ond wedi i fy nhad droi arnynt fe gafodd ei dderbyn yn un ohonynt!Fe ddysgodd sut i ddarllen ac ysgrifennu yn Saesneg ac felly mae'n rhaid iddo fod yno am gyfnod reit hir.Roedd ganddo chwaer a oedd yn byw yn Bootle ac fe briododd yn y capel Cymraeg yn Princess Rd, Bootle yn 1903.Roedd Mary Jones ei chwaer yn gweithio i Morrison Jones fel cogyddes.Priododd Sam Hughes ac fe anwyd tri o blant iddynt cyn dod yn ol i Gymru i fyw.Roedd fy nhad yn 14eg oed pan briododd y ddau.Os oes gan rywun unrhyw wybodaeth fe  fyddwn wrth fy modd.