Author Topic: Parch J D Evans Trawsfynydd tua 1920  (Read 3676 times)

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Parch J D Evans Trawsfynydd tua 1920
« on: Sunday 11 March 07 22:07 GMT (UK) »
Mae yna feddfaen yn Eglwys St Madryn Trawsfynydd er cof i blant Humphrey Morris slater a Catherine ei wraig.  Anne a fu farw yn 1824 yn 3 mis oed. Morris a fu farw yn 1849 yn 24 oed ac Owen a fu farw yn 1871 yn 33 oed.
Mae Humphrey Morris yn perthyn i'm tylwyth.

Ar waelod y beddfaen mae'r geiriau
Er cof am annwyl ferch Parch J. D. & L Evans Trawsfynydd Mehefin 14 1920.

Does dim sy'n awgrymu sut neu os oedd y Parch neu Mrs Evans yn perthyn i deulu Humphrey Morris, neu pam bod eu plentyn yn rhannu'r bedd yma hanner canrif ar ôl y claddedigaeth diwethaf

Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth bellach am bwy oedd y Parch J.D. Evans Trawsfynydd? Er enghraifft nodyn ohonno'n bedyddio neu gladdu perthynas er mwyn imi gael gwybod i ba enwad yr oedd o'n perthyn a'i gyfnod gweithredol yn Nhraws.