Author Topic: Ffowc yn Sir gaernarfon  (Read 3433 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Ffowc yn Sir gaernarfon
« on: Thursday 12 March 09 21:06 GMT (UK) »
Yr oedd gennyf gennyf gyn-deidiaugyda'r cyfenw 'Ffowc' yn hannu o ardal Llanddeiniolen(Brynrefail,Penisarwaun , ayb)
Sion Ffowc, Evan Ffowc oedd dau ohonynt, ac mae'n rhaid eu bod yn byw tua 300 mlynedd yn ol.
Mae'n siwr mai fersiwn Cymraeg o Foulkes yw Ffowc, ond mae'n fy nharo fel enw reit gyffredin yn yr ardal rai canrifoedd yn ol. A yw'r enwau yma yn canu cloch, a sut fod yr enw mor gyffredin . Ai enw saesneg yw'n wreiddiol, neu'r ffordd arall rownd ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ffowc yn Sir gaernarfon
« Reply #1 on: Friday 13 March 09 22:37 GMT (UK) »
      Fedra'i ddim eich goleuo chi am eich cyn-deidiau o gwbl, Huwcyn, ond mae rhai o'r negeseuon Cymraeg eraill wedi fy sbarduno fi i sgwennu mwy yn Gymraeg yma, hyd yn oed petae hynny dim ond i ddweud sori, 'dwn i ddim.
       Mi wn i mai enw cyntaf Normannaidd ydi Ffowc yn ei gychwyn, sef Fulke; os cofia'i mi welais fod rhyw Norman amlwg o'r enw wedi croesi yn yr un llong a'r hen William ym 1006, ac wedi llwyddo'n rhyfeddol. Mae'r enw'n frith yn hanes cynnar y Normaniaid ym Mhrydain.
       Dydw i ddim yn meddwl bod yr enw ag unrhyw gysylltiad a Chymru cyn y Normaniaid; dydi o ddim i'w weld yn yr un o'r hen achau Cymreig. O ran sillafu'r enw, yn enwedig fel enw ar Gymro, dwi'n teimlo'n siwr bod y sillafu'n amrywio tan yr oesoedd diweddar pan roedd pethau fel yna'n cael ei safoni.
              Pob hwyl efo'r ymchwil,
                    mi yrraf nodyn os gwelaf rywbeth o ddiddordeb,
                                                                                                    Pinot  :)