Author Topic: Mynwent Eglwys Llanllechid.  (Read 5451 times)

Offline ygathddu

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
    • View Profile
Mynwent Eglwys Llanllechid.
« on: Monday 22 June 09 06:24 BST (UK) »
Helo !
Mae gen i gôf fod rhywun wedi gwneud cofnod o'r enwau a safleodd cerrig beddi ym mynwent Eglwys Llanllechid , ger Bethesda. Tybed oes 'na rywun yn gwybod os ydi hwn ar gael ?
Diolch.
Holmes Family: Northumberland, Durham.
Parry Family: Llanllechid , North Wales.

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #1 on: Monday 22 June 09 21:07 BST (UK) »
Hai Cathddu a chroeso,
                     Ddim yn cofio imi glywed am hynny o'r blaen; oes ganddoch chi syniad ymhle? Yma ar Rootschat? Mae Cymdeithas Hanes Teuluol Gwynedd <www.gwyneddfhs.org> yn gwerthu MIs Llanllechid mewn dau ddarn (£16 a £13) - dim son am safleoedd. Wn i ddim be' arall i'w gynnig ichi am rwan. doedd dim un canlyniad i ymchwiliad am 'llanllechid cemetery' ar Rootschat a dim ond eich neges chi am 'mynwent llanllechid'.
                           Hwyl,
                                        Pinot  :)

Offline ygathddu

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #2 on: Tuesday 23 June 09 00:29 BST (UK) »
Helo Pinot !
braf cael ymateb yn y Gymraeg ar y wefan yma . Newydd ymuno neithiwr . Dwi'n meddwl mai person lleol oedd yn gweithio ar wneud 'plan' o'r fynwent a'r beddi yn Eglwys Llan. Dwi 'di gadael Cymru ers 1995, felly 'roedd hyn yn y 90au cynnar. Gyda llaw be 'di MIs Llanllechid ogydda? Dwi'n weddol newydd i'r hel achau hefyd !
Holmes Family: Northumberland, Durham.
Parry Family: Llanllechid , North Wales.

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #3 on: Tuesday 23 June 09 10:49 BST (UK) »
Ymddiheuro! Mae llaw-fer y wefan yma (ac eraill) yn treiddio i eirfa rhywun; Monumental Inscriptions (Beddargraffiadau yn Gymraeg, mae'n siwr).
                         Hwyl,
                                     Pinot  :)


Offline ygathddu

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #4 on: Tuesday 23 June 09 16:34 BST (UK) »
Aha ! Llawer o ddiolch. :)
Holmes Family: Northumberland, Durham.
Parry Family: Llanllechid , North Wales.

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #5 on: Monday 06 July 09 17:16 BST (UK) »
Yr MI's mae Pinot yn son amdanynyt am £16 etc. Rhei St Llechid ydi nhw.

Rhestr gyflawn o MI's Arfon yma

http://www.gwyneddfhs.org/

Dwi'n deall fod Coetmor Non Denom, Llanogwen(? h y yr Eglwys yn Stryt Fawr Bethesda) a St Annes ar y gweill.

Gwil

Offline ygathddu

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #6 on: Monday 06 July 09 23:57 BST (UK) »
Llawer o ddiolch Gwil. Wedi cysylltu efo Gymdeithas Hanes Teulu Gwynedd.
Holmes Family: Northumberland, Durham.
Parry Family: Llanllechid , North Wales.

Offline ygathddu

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
    • View Profile
Re: Mynwent Eglwys Llanllechid.
« Reply #7 on: Tuesday 07 July 09 23:54 BST (UK) »
Helo Pinot a Gwil,

Jyst gair i ddweud fy mod wedi cael ymateb gan aelod o'r Gymdeithas Hanes Teulu efo manylion beth sydd ar gael, ac hefyd yn dweud y bydd ganddynt babell yn Eisteddfod y Bala eleni . Felly llawer o ddiolch i chi'ch dau unwaith eto am fy rhoi ar y trywydd iawn . :)
Holmes Family: Northumberland, Durham.
Parry Family: Llanllechid , North Wales.