Author Topic: Catherine Jones  (Read 4160 times)

Offline IWED SIWEL

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 12
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Catherine Jones
« on: Wednesday 16 September 09 20:23 BST (UK) »
'Rwyf wedi bod yn chwilio am rywfaint o hanes fy hen-hen nain Catherine Jones(Evans cyn priodi).Mae'n ymddangos iddi gael ei geni yn Murcwymp,Llanbedrog yn 1844.Mae hi ar gyfrifiad 1851 yn byw gyda'i mam(o bosibl) a'i Nain.Priododd a Robert Jones yn Ffestiniog yn 1866.'Rwyf wedi ei chael ar y cyfrifiadau o 1851,1861 ac 1871.Ar gyfrifiad 1881 nodir Robert Jones fel gwr gweddw.
Ym mynwent St Beuno,Penmorfa-deuthum ar draws carreg fedd yn dwyn yr arysgrif "Er cof am /Catherine/gwraig Robert Jones/Portmadoc/yr hon a fu farw Hydref 31 1874/yn 30ain mlwydd oed/Hefyd am John ei mab/yr hwn a fu farw Ionawr 16 1890/yn 22 mlwydd oed/Pan ar ei fordaith i Rangoon".'Rwyf bron yn sicr mai hon yw y Catherine dwi ei hangen.Yn anffodus ni nodir enw ei thad ar ei thystysgrif geni ac ar y dystysgrif briodas nodir ei thad fel Richard Evans,Slate Quarrier(Deceased).Tybed a oes rhywun yn gwybod neu yn gallu chwilio a oes na adroddiad mewn papur newydd o'r cyfnod am ei marwolaeth.Ac hefyd ynglyn a hanes John y mab.Tybed pam oedd hogyn ifanc yn hwylio i Rangoon yn ystod y cyfnod yma ?

Hyn i gyd gyda diolch

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Catherine Jones
« Reply #1 on: Wednesday 16 September 09 23:19 BST (UK) »
Methu helpu efo Catherine, ond gweld wrth Gwglo bod terfysgaeth yn Burma yn y cyfnod yma; tybed oedd John yn y lluoedd arfog ar ei ffordd i ymladd? Yn ddigon rhyfedd mae rhestr teithiwyr llongau ar findmypast.com yn dechrau ym 1890 y gallai John fod yn eu plith os nad y filwr, ond rhaid talu am y chwilio am wn i.
           Ynglyn ag unrhyw adroddiad papur newydd am ei farwolaeth, y lle cyntaf y byddwn i'n meddwl chwilio ydi yn archifau papurau newydd llyfrgell Prifysgol Bangor; mae parcio'n anodd ond mynediad am ddim.
           Falla' y byddai ymholiad am Rangoon yn 1890 ar y tudalennau Saesneg yn dwyn ffrwyth.
                   Pob hwyl,
                                  Pinot  :)

Offline IWED SIWEL

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 12
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Catherine Jones
« Reply #2 on: Thursday 17 September 09 13:17 BST (UK) »
Diolch am ymateb.Does gen i ddim gwybodaeth am ochr yma'r teulu yn anffodus,felly tydwi ddim yn gwybod os oedd John yn y lluoedd neu beidio.Mae o'n bosibilrwydd gan nad oeddem yn gallu meddwl am reswm pan fyddai rhywun yn hwylio yno yn ystod y cyfnod.I ddweud y gwir tydwi ddim yn gwybod ble yn union y bu farw.Bydd rhaid i mi fynd trwy bapurau newyddion y cyfnod i geisio gweld a oes gyfeiriad at farwolaeth Catherine.Yn anffodus amser yw'r bwgan mwyaf !.Mi roi'r holiad am Rangoon ar y safle Saesneg.Diolch

Offline jimbach

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 89
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Catherine Jones
« Reply #3 on: Thursday 17 September 09 15:26 BST (UK) »
Dewi  Mi roedd llongau yn hwylio i Rangoon or pen yma.Bu farw Cadben Richard Prichard - y barque Barbara - mab Bryncethin Abersoch ar fordaith yno ym mis Mai1881.    jimbach.


Offline IWED SIWEL

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 12
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Catherine Jones
« Reply #4 on: Thursday 17 September 09 20:37 BST (UK) »
Diolch Jimbach.Beth ar wynab daear oedd llongau o'r pen yna yn eu cario i Rangoon ?

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Catherine Jones
« Reply #5 on: Saturday 19 September 09 00:51 BST (UK) »
Llechi? Cenhadon?
                           Pinot   ;D