Author Topic: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug  (Read 5961 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« on: Thursday 03 December 09 19:28 GMT (UK) »
A oes unrhyw un, hyd y gwyddoch chi , wedi cofnodi beddau'r ddwy fynwent uchod (hen un Llanddeiniolen) . Gwn fod rhywun wedi gwneud hyn ar gyfer mynwent Macpellah yn Deiniolen, ond a
oes cofnod rhywle ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #1 on: Thursday 03 December 09 23:58 GMT (UK) »

Mae Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd
http://www.gwyneddfhs.org/
yn hysbysebu mynegai claddedigaethau Llanddeiniolen 1900 - 1920 am £4
Cewch wybodaeth am Macpelah yn fan hyn:
http://web.archive.org/web/20050211084256/www.aprheinallt.plus.com/macpelah1.html
                                Pinot  :)

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #2 on: Friday 04 December 09 20:57 GMT (UK) »
Mae'r Gymdeithas (link uchod) wedi gwneud cerrig beddi Llanddeiniolen a hefyd rhan (yr rhan hynaf) o Macpellah. Mwy neu lai yr un peth a yn yr ail link.

Chwilio am rhywun neilltuol?

Gwil

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #3 on: Friday 04 December 09 23:44 GMT (UK) »
Gryn dipyn , a dweud y gwir.

Robert  (g 1831 ) a Priscilla  Owen (g 1833) - o Brynrefail (America House ?)dwi'n meddwl

Henry  (g tua 1793) a Jane Pritchard (g tua 1798 ) o Didfa/Bryn Mihangel, Llanrug

Owen (g tua 1806) ac Elinor (g tua 1806) o rywle'n Llanddeiniolen

Owen  ( g tua 1794 ) ac Anne (g tua 1800) Prys/Price  o Prysdyrys , Penisarwaun

John (g tua 1794) ac Ann ( g tua 1800) Prichard o rywle'n Llanddeiniolen - ardal Deiniolen, o bosibl

Rhys/Rees ( g 1759 ) a Catherine Owen o Prysdyrys

Peidiwch a mynd i drafferth mawr heb angen os nad yw'r wybodaeth i law .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #4 on: Saturday 05 December 09 00:13 GMT (UK) »
Dwi'n cofio mynd i gapel Disgwylfa hefo nain - mi oedd hi'n byw ar Deiniol Road - mae'n rhaid fy mod i wedi cerdded heibio'r fynwent ganwaith hefo taid am dro i Clwt Y Bont heb sylweddoli fod gymaint o bobl yn perthyn i mi'r ochr arall i'r wal ! .
Sut gafodd y fynwent enw mor ryfedd -enw o'r beibl ydi o ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #5 on: Saturday 05 December 09 10:25 GMT (UK) »
Ia, enw Beibliadd. Mae yna un ym Mhenygroes hefyd. Mynd efo'r enwau Beiblaidd eraill, Ebenezer, Bethel, Cesarea Nazareth etc.(Dwn i ddim yn lle yn y Beibl mae Clwt y Bont!!)

Agorwyd o yn yr 1840s fel lle angladd i tua unarddeg neu ddeuddeg o gapeli lleol yn cynnwys rhai Dinorwig a Brynrefail etc. Nid adeiladwyd Capel Disgwylfa tan tua'r 1860s. Mae'r darn gwreiddiol efo giat o'r lon gyferbyn a Maes Gwylfa. Cewch weld o yn 1891 ar Oldmaps
http://www.old-maps.co.uk/IndexMapPage2.aspx
(rhowch Rhiwen fel search. Tydio ddim yn pigo Ebenezer na Clwt y Bont i fyny)
Os nad ydi eich enwau ar yr ail wefan mae Pinot yn rhoi link yna efallai y buasech eisio edrych y llyfr claddu ei hun sydd ar gael yn yr Archifdy yng Ngaernarfon. Yno hefyd cewch microfeich o'r llyfryn  mae y Gymdeithas wedi ei brintio ar llanddeiniolen (a amryw o lefydd eraill. Mae Llanrug ar y gweill dwi'n deall)

Mi gai gip olwg am y cyfeiriadau bellach ymlaen heddiw agadael wybod i ch yma os oes rhywbeth i gael.

Gwil

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #6 on: Saturday 05 December 09 22:54 GMT (UK) »
Sut gafodd y fynwent enw mor ryfedd -enw o'r beibl ydi o ?
Ar y we (gwahanol sillafu) - ogof yn hen ddinas Hebron, ble claddwyd Abraham, Isaac a Jacob.
                           Pinot

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #7 on: Friday 11 December 09 12:58 GMT (UK) »

O lyfr GFHS.
Llanddeiniolen.
E62. Priscilla Owen, America House 10/7/1903 yn 70. Robert Owen 19/6/1904 yn 72. Eu merch Jane Owen 22/6/1904 yn 45

K104.  ---- RICE 27/2/1871 yn 77. Sarah merch Rice ac Ann Owen, Prys Dyrys 16/1/1873 yn 13. Ann gwrau=ig Owen Price 22/12/1879 yn 79

Fedrai'm gweld y lleill ond tydi hyn ddim yn golygu nad ydynt yno.

Os ydach yn agos i Gaernarfon yna cael golwg ar yr MI's a'r cofrestrau yn yr Archifdy yw'r 'best bet'. Gallwch weld ymle yn y fynwant mae'r beddau. Staff ddigon cyfeillgar a helpus iawn yno.


Gwil

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwentydd Llanddeiniolen/Llanrug
« Reply #8 on: Sunday 13 December 09 19:08 GMT (UK) »
Diolch yn fawr iawn - mi roedddwn i eisiau mynd heibio'r fynwent penwythnos yma, ond mae'n gas gan y wraig y busnes i gyd ! .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn