Author Topic: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun  (Read 5243 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« on: Thursday 28 January 10 21:47 GMT (UK) »
Yr wyf wedi dod o hyd  i ryw ddirgelwch yn ddiweddar.
Elin Parry oedd fy hen nain ( ganwyd 1859) , gyda brawd o'r enw Henry ( ganwyd 1856) a chwaer o'r enw Jane (ganwyd tua 1855).
Eu rhieni oedd John a Catherine Parry.
Y mae Jane wedi claddu gyda'r rhieni - bu farw'n dra ifanc yn 1881 .
Ar censws 1861 , mae'r dyddidau ac enwau'n gyson gyda'r uchod, gyda'r tri wedi eu cofnodi fel plant i Catherine Parry , wedi eu geni'n Llanddeiniolen.
(Cafodd John ei ladd yn Dinorwig yn fuan ar ol geni Elin)

Ond : (1) Ni allaf gael hyd i gofnod geni Jane Parry o gwbl .

          (2)  Mae cofnod geni beth ddylai fod yn enw Elin Parry yn rhoi'r enw Jane
                Parry

Beth allai fod yn reswm ?
A oedd rhai genedigaethau yn mynd heb eu cofnodi ?
A fuasai'r cofrestrydd wedi drysu enwau ?
Y BT 's yw'r unig ffynhonell a welais i.
A oes ffynhonell arall ?

Os oes rhywun yn gallu cynnig esboniad posibl, hoffwn gael cyngor.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #1 on: Saturday 30 January 10 01:09 GMT (UK) »
Sylwi ar gyfrifiad 1861 mai fel Cathrine ac Ellin y maen nhw wedi'u cofnodi; tybed ydi hi'n werth chwilio am Jenny/Jennie neu hyd yn oed fersiwn arall? Dim mwy o help, mae'n ddrwg gen i.
                     Pinot

Offline taidgazacaz

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 494
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #2 on: Sunday 31 January 10 23:34 GMT (UK) »
Ynglyn a (2)

Be ydi'r manylion, ac o ble cawsoch nw? Ydi'r tystysgrif gennych chi, neu o gofrestr plwyf? Beth sy'n gwneud i chi feddwl mae Elin a ddylai fod yn y cofnod yma, ac nid Jane?

Tecwyn
Savage, Hoskins, Wigley, Edwards, German, Jacks

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #3 on: Monday 01 February 10 07:14 GMT (UK) »
Yn ol cyfrifiadau 1861 ,1871 ac 1881, ganwyd Elin Parry yn 1859.
Cofnodir hi fel merch i Catherine Parry.
Cofnodir hi hefyd fel Elin Parry ar ei thystysgrif priodas , yn ferch i'r diweddar John Parry .
Mae'r oedran yn gyson gyda'r uchod ar hwnnw hefyd.

Yn ol Y BTs ar gyfer Llanddeiniolen, yr unig blentyn a anwyd i'r uchod yn 1859 oedd Jane .
A oes ffynhonell arall?
Mae gennyf ddamcaniaethau, ond hoffwn wybod os oes eglurhad neu wybodaeth nac ystyriais i
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline taidgazacaz

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 494
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #4 on: Monday 01 February 10 10:05 GMT (UK) »
"Y BTs"  ??

Beth yn union ydi'r rhain? Ydwi heb weld y term yma o'r blaen.
Savage, Hoskins, Wigley, Edwards, German, Jacks

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #5 on: Monday 01 February 10 17:53 GMT (UK) »
Bishops transcripts
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline taidgazacaz

  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 494
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #6 on: Monday 01 February 10 21:06 GMT (UK) »
Diolch - difeddwl ar fy rhan i !

Ydi'r BT yn rhoi dyddiad y geni yn ogystal a dyddiad y bedydd?
Yda chi wedi ffeindio bedydd Henry?

Mae'n bosib fod Elin wedi ei bedyddio mewn capel, ac os felly fase'n rhaid edrych ar gofrestrau'r anghydffurfwyr, a mae rheina yn anoddach i'w ffeindio fel arfer.

Yda chi wedi meddwl am fynd i swyddfa'r cofrestrydd a gofyn am weld p'ryn bynnag gofrestr sy'n cynnwys Llanddeiniolen am y flwyddyn 1859? Gan eich bod yn gwybod enwau'r rhieni a'r flwyddyn, fe ddylai fod yn eitha hawdd i'w ffeidio. Yn anffodus tydi NorthWalesBMD ddim i weld yn cynnwys yr ardal eto. Efallai base'r cofrestrydd yn barod i'ch helpu dros y ffon.

Tecwyn.
Savage, Hoskins, Wigley, Edwards, German, Jacks

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #7 on: Monday 01 February 10 21:15 GMT (UK) »
Dwi'n mynd draw i Gaernarfon ymhen rhyw bythefnos,gobeithio.
Dwi'n meddwl y bydd dyddiad priodas John a Catherine ( sydd ddim gennyf) yn taflu peth goleuni .
Mi oedd babis yn cyrraedd reit sydyn bryd hynny !
Mae cofnod bedydd Henry'n gyson gyda bob dim arall.
Mae'n sicr fod Elin wedi ei geni yn 1859 - mi wnaeth chwaer fy nhaid ddweud wrthyf yn y 70au fod ei thaid hi wedi marw pan oedd ei mam yn dri mis oed .
Mae oedran Jane ar ei charreg bedd (yr un bedd a John a catherine) yn gyson gyda genedigaeth yn 1855.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Jane ac Elin Parry o Penisarwaun
« Reply #8 on: Thursday 11 February 10 20:22 GMT (UK) »
Dwi'n rhyw hanner meddwl mai ysgrifen wael ar ran y cofrestrydd sydd wedi gwneud 'Elin' yn 'Jane' erbyn rwan.
Ddim yn datrys dirgelwch diffyg cofnod geni 'Jane' serch hynny .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn